Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3811 (Cy.316)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

CYLLID

Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001

Wedi'u gwneud

29 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

30 Tachwedd 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 74(2) a (3) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2001.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “y Cynghorau Cyfansoddol” (“the Constituent Councils”) yw Cyngor Sir Abertawe, Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a;

  • ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 (2);

  • ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cyrff Ardolli (Cyffredinol) 1992 (3);

  • ystyr “y Pwyllgor” (“the Committee”) yw Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 (4); ac

  • ystyr “Rhondda Cynon Taf” (“Rhondda Cynon Taff”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf.

Cymhwyso

3.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r Pwyllgor, i'r Cynghorau Cyfansoddol ac i Rondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2001.

Ardollau a amnewidiwyd

4.—(1Er gwaethaf rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, awdurdodir y Pwyllgor gan y Rheoliadau hyn i gyflwyno:

(a)ardollau wedi'u hamnewid (yr ardollau newydd) i'r Cynghorau Cyfansoddol i gymryd lle'r ardollau hynny a gyflwynwyd ganddo ar 8 Chwefror 2001 (yr hen ardollau); a

(b)ardoll wedi'i hamnewid am ddim punnoedd i Rhondda Cynon Taf i gymryd lle'r ardoll a gyflwynwyd ar 8 Chwefror 2001;

erbyn 14 Chwefror 2002 fan bellaf i alluogi'r Pwyllgor, y Cynghorau Cyfansoddol a Rhondda Cynon Taf i gydymffurfio â'r Gorchymyn.

(2Os bydd y Pwyllgor yn cyflwyno ardollau newydd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw symiau a dalwyd iddo mewn perthynas â'r hen ardollau gael eu trin fel petaent wedi'u talu mewn perthynas â'r ardollau newydd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Tachwedd 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud Rheoliadau mewn perthynas â chyrff ardolli sydd yn cynnwys y Pwyllgor ar gyfer Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 74 a 143 o Ddeddf 1988.

Tynnodd Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 (O.S. Rhif 2001/1338 (Cy.84)) (y Gorchymyn) Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o'r Pwyllgor hwnnw ar 31 Mawrth 2001. Roedd y Pwyllgor ar y dyddiad hwnnw eisioes wedi cyflwyno ardollau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2001-2002.

Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gyflwyno ardollau a amnewidiwyd i'w Gynghorau Cyfansoddol ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol honno. Fe fydd yr ardollau newydd hyn yn cymeryd lle'r rhai a gyflwynwyd yn gynharach. Yn achos Rhondda Cynon Taf, fe fydd yr ardoll a amnewidiwyd yn ddim tra bydd y ffigurau ar gyfer y cynghorau eraill yn cael eu haddasu'n unol â'r Gorchymyn.

(1)

1988 p.41. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladaol o dan adrannau 74 a 143 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosgwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).