2001 Rhif 3811 (Cy.316)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRUCYLLID

Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 74(2) a (3) a 143(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19881 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru (Ardollau) 2001 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2001.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “y Cynghorau Cyfansoddol” (“the Constituent Councils”) yw Cyngor Sir Abertawe, Cyngor Sir Caerdydd, Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro, Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a;

  • ystyr “y Gorchymyn” (“the Order”) yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 2;

  • ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cyrff Ardolli (Cyffredinol) 1992 3;

  • ystyr “y Pwyllgor” (“the Committee”) yw Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru a sefydlwyd o dan Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966 4; ac

  • ystyr “Rhondda Cynon Taf” (“Rhondda Cynon Taff”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Tâf.

Cymhwyso3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r Pwyllgor, i'r Cynghorau Cyfansoddol ac i Rondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol yn cychwyn ar 1 Ebrill 2001.

Ardollau a amnewidiwyd4

1

Er gwaethaf rheoliad 8 o'r Prif Reoliadau, awdurdodir y Pwyllgor gan y Rheoliadau hyn i gyflwyno:

a

ardollau wedi'u hamnewid (yr ardollau newydd) i'r Cynghorau Cyfansoddol i gymryd lle'r ardollau hynny a gyflwynwyd ganddo ar 8 Chwefror 2001 (yr hen ardollau); a

b

ardoll wedi'i hamnewid am ddim punnoedd i Rhondda Cynon Taf i gymryd lle'r ardoll a gyflwynwyd ar 8 Chwefror 2001;

erbyn 14 Chwefror 2002 fan bellaf i alluogi'r Pwyllgor, y Cynghorau Cyfansoddol a Rhondda Cynon Taf i gydymffurfio â'r Gorchymyn.

2

Os bydd y Pwyllgor yn cyflwyno ardollau newydd yn unol â'r Rheoliadau hyn, rhaid i unrhyw symiau a dalwyd iddo mewn perthynas â'r hen ardollau gael eu trin fel petaent wedi'u talu mewn perthynas â'r ardollau newydd.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

D.Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i wneud Rheoliadau mewn perthynas â chyrff ardolli sydd yn cynnwys y Pwyllgor ar gyfer Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 74 a 143 o Ddeddf 1988.

Tynnodd Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2001 (O.S. Rhif 2001/1338 (Cy.84)) (y Gorchymyn) Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf o'r Pwyllgor hwnnw ar 31 Mawrth 2001. Roedd y Pwyllgor ar y dyddiad hwnnw eisioes wedi cyflwyno ardollau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2001-2002.

Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gyflwyno ardollau a amnewidiwyd i'w Gynghorau Cyfansoddol ac i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am y flwyddyn ariannol honno. Fe fydd yr ardollau newydd hyn yn cymeryd lle'r rhai a gyflwynwyd yn gynharach. Yn achos Rhondda Cynon Taf, fe fydd yr ardoll a amnewidiwyd yn ddim tra bydd y ffigurau ar gyfer y cynghorau eraill yn cael eu haddasu'n unol â'r Gorchymyn.