Search Legislation

Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2001

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3831 (Cy.317)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

29 Tachwedd 2001

Yn dod i rym

18 Rhagfyr 2001

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17(1), 45 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1) sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno ag unrhyw gyrff y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli buddianau y mae'r Rheoliadau hyn yn debygol o effeithio'n sylweddol arnynt; ac (i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gosod taliadau mewn perthynas â monitro gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995(3)), gan ei fod wedi'i ddynodi(4)) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(5) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau Canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Bydd y Rheoliadau hyn, y gellir cyfeirio atynt fel Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2001, yn gymwys i Gymru yn unig a deuant i rym ar 18 Rhagfyr 2001.

Diwygiadau i Reoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) 1998

2.—(1I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, mae Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) 1998(6)) yn cael eu diwygio yn unol â'r paragraffau canlynol yn y rheoliad hwn.

(2Yn y diffiniad o “occupier” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) mae'r geiriau “, cold store or a re-packaging centre,” yn cael eu gosod yn lle'r geiriau “or a cold store,”.

(3Yn y diffiniad o “premises” ym mharagraff (1) o reoliad 2, mae'r geiriau “, cold store or re-packaging centre” yn cael eu gosod yn lle'r geiriau “or cold store”.

(4Yn y tabl ym mharagraff (2) o reoliad 2, mae'r geiriau “re-packaging centre” yn cael eu mewnosod o dan y geiriau “cold store” ym mhob un o golofnau (1) a (2).

(5Ym mharagraff (1) o reoliad 3 (taliadau) mae'r geiriau “slaughterhouse, cutting premises, cold store and repackaging centre” yn cael eu gosod yn lle'r geiriau “slaughterhouse, cutting premises and cold store”.

(6Mae'r rheoliad canlynol yn cael ei fewnosod rhwng rheoliad (3) a rheoliad (4) (gwybodaeth)—

Withdrawal of inspections

3A.  Where the Food Standards Agency has had judgment entered against an occupier for any sum which is recoverable by the Food Standards Agency as a debt from that occupier under regulation 3(4) above and the occupier fails within a reasonable time thereafter to satisfy the judgment the Food Standards Agency may (regardless of any other legal remedy open to it) refuse to carry out any further inspections at the premises in respect of which the debt accrued until the judgment has been satisfied..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y CynulliadCenedlaethol

29 Tachwedd 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) 1998 (OS 1998/2095) fel y maent yn gymwys i Gymru. Gweithredodd y Rheoliadau hynny, ym Mhrydain Fawr, y darpariaethau ynghylch taliadau archwiliadau cig a geir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC, y ceir testun diwygiedig a chyfnerthedig ohoni yn atodiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC (OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1).

2.  Effaith y diwygiadau yw caniatáu i daliadau gael eu gwneud am gynnal archwiliadau iechyd mewn canolfannau ail-becynnu (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 (OS 1995/539, fel y'u diwygiwyd)).

3.  Mae'r diwygiadau hefyd yn caniatáu i'r Asiantaeth Safonau Bwyd dynnu gwasanaethau archwilio yn ôl os yw meddiannydd safle trwyddedig yn methu â chydymffurfio â gorchymyn llys sy'n ei gwneud yn ofynnol i daliadau archwilio cael eu talu y mae'r meddiannydd yn gorfod eu talu o dan OS 1998/2095.

4.  Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac wedi'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Y Llawr Cyntaf, Southgate House, Wood Street Cardiff CF10 1EW.

(1)

1990 .16. Cafodd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru eu trosglwyddo I Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672.

(2)

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1998/2095, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/224; mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud hefyd gan O.S. 2000/656.

(6)

O.S. 1998/2095, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/224; mae diwygiadau perthnasol wedi'u gwneud hefyd gan O.S. 2000/656.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources