2001 Rhif 3907 (Cy.320)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 24(3) a 30(1) o Ddeddf Addysg 19971 ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2.

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2001.

Dehongli2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “ACCAC” (“ACCAC”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru3; ac

  • ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf Addysg 1997.

Rhoi swyddogaeth3

1

Mewn perthynas â chymwysterau o'r fath a bennir ym mharagraff (2) isod, rhoir y swyddogaeth o fewn paragraff (gg) o adran 24(2) o Ddeddf 1997 i ACCAC.

2

Y cymwysterau hynny yw pob cymhwyster allanol ar wahân i Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol.

3

Mae'r swyddogaeth a roddir gan yr erthygl hon yn cael ei rhoi i fod yn arferadwy gan ACCAC yn unig.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.

John MarekDirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi i Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (“ACCAC”) y swyddogaeth, sydd i'w harfer gan ACCAC yn unig, o wneud trefniadau ar gyfer datblygu, gosod a gweinyddu profion sydd i'w sefyll gyda golwg ar ennill pob cymhwyster allanol (ac eithrio Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol).