Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'i wneud
4 Rhagfyr 2001
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2001
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru) (Rhoi Swyddogaeth) 2001 a daw i rym ar 31 Rhagfyr 2001.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “ACCAC” (“ACCAC”) yw Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(3); ac
ystyr “Deddf 1997” (“the 1997 Act”) yw Deddf Addysg 1997.
3.—(1) Mewn perthynas â chymwysterau o'r fath a bennir ym mharagraff (2) isod, rhoir y swyddogaeth o fewn paragraff (gg) o adran 24(2) o Ddeddf 1997 i ACCAC.
(2) Y cymwysterau hynny yw pob cymhwyster allanol ar wahân i Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol.
(3) Mae'r swyddogaeth a roddir gan yr erthygl hon yn cael ei rhoi i fod yn arferadwy gan ACCAC yn unig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Rhagfyr 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi i Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (“ACCAC”) y swyddogaeth, sydd i'w harfer gan ACCAC yn unig, o wneud trefniadau ar gyfer datblygu, gosod a gweinyddu profion sydd i'w sefyll gyda golwg ar ennill pob cymhwyster allanol (ac eithrio Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol).
1997 p.44. Mewnosodwyd paragraff newydd (gg) yn is-adran (2) o adran 24 o'r Ddeddf honno gan is-adran (2) o adran 103 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) a diwygiwyd adran 30(2) o Ddeddf 1997 gan adran 103(3) o Ddeddf 2000 i gynnwys cyfeiriad at yr adran 24(2)(gg) newydd yn Neddf 1997.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac adran 150 o Dddeddf Dysgu a Medrau 2000.
Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1)(b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 (p.56) a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.