2001 Rhif 3985 (Cy.326)
Rheoliadau Hawliau Cadw (Trosglwyddo Cyfrifoldebau i'r Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2001
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 50(7), (8), (9) a (10) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 20011, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol —
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1
1
Daw'r Rheoliadau hyn, a enwir Rheoliadau Hawliau Cadw (Trosglwyddo Cyfrifoldebau i'r Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2001, i rym ar 19 Rhagfyr 2001.
2
Yn y Rheoliadau hyn —
a
mae “awdurdod cyfrifol” i gael ei ddehongli yn unol â “responsible authority” yn adran 50(3);
b
ystyr “y diwrnod penodedig” (“the appointed day”) yw'r diwrnod a benodir o dan adran 70 i adran 50(1) ddod i rym;
c
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 ac mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf honno; ac
ch
ystyr “y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Support Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 19872.
3
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Personau â hawliau cadw lle nad yw cyfrifoldebau'r awdurdodau lleol yn gymwys2
1
At ddibenion adran 50(8) nid oes yr un rhan o adrannau 50(3) i (7) (cyfrifoldebau'r awdurdodau lleol mewn achosion hawliau cadw) yn gymwys i berson a bennir at ddibenion y rheoliad hwn ym mharagraff (2) isod.
2
Mae person a bennir at ddibenion y rheoliad hwn yn berson sydd, mewn perthynas â'r diwrnod yn union cyn y diwrnod penodedig —
a
heb hawl i gael cymhorthdal incwm o dan adran 124(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 19923, neu sydd â hawl felly ond sydd heb hawl gadw at ddibenion rheoliad 19 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm; neu
b
sy'n cael gwasanaethau ôl-ofal yn unol â'r gofyniad yn adran 117 o Ddeddf Iechyd Meddwl 19834.
Adennill symiau mewn perthynas â thaliadau gan awdurdodau lleol3
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys os oes awdurdod cyfrifol wedi gwneud taliad mewn perthynas â pherson yn unol ag adran 50(6) (rhwymedigaeth yr awdurdod cyfrifol i wneud taliadau o dan drefniadau a oedd yn bodoli ar y diwrnod penodedig os nad oes gwasanaethau'n cael eu darparu o'r diwrnod hwnnw ymlaen yn unol ag adran 50(3) i (5)).
2
At ddibenion adran 50(7) y swm sy'n adenilladwy oddi ar y person yw'r swm a fyddai'n adenilladwy o dan adran 22 o Ddeddf Cymorth Gwladol 19485 a rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno6) os oedd y llety'n cael ei ddarparu gan yr awdurdod cyfrifol o dan Ran III o'r Ddeddf honno, ac os oedd swm y taliad gan yr awdurdod yn unol ag adran 50(6) yr un fath â'r gyfradd safonol a bennwyd ar gyfer y llety y cyfeirir ato yn adran 22 o'r Ddeddf honno.
Fel arfer yn preswylio4
1
Mae person i'w drin fel pe bai fel arfer yn preswylio mewn unrhyw safle at ddibenion adran 50 os yw mewn gwirionedd yn preswylio mewn safle felly neu'n absennol dros dro o safle felly.
2
At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “absennol dros dro” yw absennol am gyfnod nad yw yn fwy —
a
oni bai fod y person yn glaf drwy gydol y cyfnod absenoldeb —
i
na 4 wythnos, os oedd y person cyn y cyfnod absenoldeb yn preswylio dros dro mewn safle perthnasol;
ii
na 13 wythnos, os oedd y person cyn y cyfnod absenoldeb yn preswylio yn barhaol mewn safle perthnasol;
b
na 52 wythnos, os oedd y person yn glaf drwy gydol y cyfnod absenoldeb.
3
At ddibenion y rheoliad hwn —
a
ystyr “claf” yw person (heblaw carcharor) y bernir ei fod yn cael triniaeth ddi-dâl fel claf mewnol o fewn ystyr Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Cleifion Mewnol Ysbytai) 19757; a
b
mae person yn preswylio'n barhaol mewn safle perthnasol os dyna brif breswylfan y person, ac mae'n preswylio dros dro os nad dyna brif breswylfan y person.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19988
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)