xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 3996 (Cy.327)

AER GLÅN, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

13 Rhagfyr 2001

Yn dod i rym

17 Rhagfyr 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  —Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Rhagfyr 2001.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Tanwyddau awdurdodedig at ddibenion Deddf Aer Glân 1993

2.—(1Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001(3)fel a ganlyn:

(2Ar ôl paragraff 5 mewnosodir

5A.  Bord na Móna Firepak briquettes (sy'n cael eu marchnata hefyd fel Arigna Special coal briquettes), a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—

(a)sy'n cynnwys glo caled (sef rhyw 50 y cant o'r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 40 y cant o'r cyfanswm pwysau) glo meddal (sef rhyw 10 i 30 y cant o'r cyfanswm pwysau) a starts yn rhwymwr (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres;

(c)sy'n frics glo ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1.5 y cant o sylffwr o'r cyfanswm pwysau.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Rhagfyr 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Pan fydd mwg yn cael ei ollwng o simnai mewn ardal rheoli mwg a bod y simnai honno naill ai—

(a)yn simnai adeilad; neu

(b)yn simnai sy'n gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol (heb fod yn simnai adeilad),

mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 (“y Ddeddf”) yn darparu bod meddiannydd yr adeilad, neu yn ôl fel y digwydd, y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau, yn euog o dramgwydd. Mae'n amddiffyniad os gellir dangos mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

O dan adran 20(6) o'r Ddeddf, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy reoliadau, ddatgan bod tanwydd yn danwydd awdurdodedig at y diben hwnnw.

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001 fel bod Bord na Móna Firepak briquettes (sy'n cael eu marchnata hefyd fel Arigna Special coal briquettes) yn danwydd awdurdodedig ychwanegol.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672) ac Atodlen 1 iddo.