Search Legislation

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 4001 (Cy.329)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

13 Rhagfyr 2001

Yn dod i rym

1 Ionawr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11 a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Mapiau Drafft) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru,

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn:

  • ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol” (“relevant National Park authority”), mewn perthynas â map drafft, yw awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae ei ardal yn cynnwys ardal sydd wedi'i chynnwys yn y map drafft hwnnw;

  • ystyr “awdurdod lleol perthnasol” (“relevant local authority”), mewn perthynas â map drafft , yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol y mae ei ardal yn cynnwys ardal sydd wedi'i chynnwys yn y map drafft hwnnw;

  • mae i “buddiant” yr ystyr a roddir i “interest” gan adran 45(1) o'r Ddeddf;

  • mae cyfeiriadau at “cadarnhau” (“confirmation”) map drafft yn gyfeiriadau at ei gadarnhau yn unol ag adran 5(c) o'r Ddeddf;

  • ystyr “cyfnod ymgynghori” (“consultation period”) yw'r cyfnod y cefeirir ato yn rheoliad 4(2)(f);

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Cefn Gwlad Cymru;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;

  • ystyr “fforwm mynediad lleol” (“local access forum”) yw corff ymgynghorol a sefydlwyd o dan adran 94 o'r Ddeddf;

  • ystyr “fforwm mynediad lleol perthnasol” (“relevant local access forum”), mewn perthynas â map drafft, yw fforwm mynediad lleol y mae'r ardal y mae wedi'i sefydlu ar ei chyfer yn cynnwys ardal sydd wedi'i chynnwys yn y map drafft hwnnw;

  • ystyr “ffurf electronig” (“electronic form”) yw ffurf y gellir ei storio, ar gyfrifiadur, ei drosglyddo iddo ac ohono, a'i darllen drwy gyfrwng cyfrifiadur;

  • ystyr “map drafft” (“draft map”) yw map sy'n cael ei dyroddi gan y Cyngor yn unol ag adran 5(a) o'r Ddeddf;

  • ystyr “map mewnosod” (“inset map”) yw map sy'n dangos rhan yn unig o'r ardal y mae map drafft yn berthnasol iddi ac ar raddfa fwy na'r map drafft boed hwnnw'n ymddangos ar y map drafft neu wedi'i atodi iddo;

  • mae “person” (“person”) a “personau” (“persons”) yn cynnwys unigolion, corfforaethau a chyrff anghorfforedig;

  • ystyr “tir adran 4(2)” (“section 4(2) land”) yw'r tir comin cofrestredig a'r tir agored y mae'n ofynnol i'r Cyngor baratoi mapiau ar eu cyfer yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf;

  • mae i “tir agored” yr ystyr a rhoddir i “open country” gan adran 1(2) o'r Ddeddf;

  • mae i “tir comin cofrestredig” yr ystyr a rhoddir i “registered common land” gan adran 1(3) o'r Ddeddf;

  • ystyr “wedi'i ddyroddi” neu “wedi'u dyroddi” (“issued”) yw wedi'i ddyroddi neu wedi'u dyroddi gan y Cyngor yn unol ag adran 5(a) o'r Ddeddf.

(2Yn y Rheoliadau hyn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

(3Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod o ddyddiad a roddir, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud unrhyw beth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn wyl banc neu'n ddiwrnod sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, bernir bod y gofyniad yn ymwneud â'r dydd cyntaf ar ôl hynny nad yw'n un o'r dyddiau uchod.

Paratoi map drafft

3.—(1Gall map drafft sy'n cael ei baratoi gan y Cyngor ymwneud ag unrhyw ardal a benderfynnir gan y Cyngor, o ystyried ffiniau awdurdodau lleol, yr ardaloedd y mae fforymau mynediad lleol wedi'u sefydlu ar eu cyfer, ffiniau Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a lleoliad nodweddion naturiol a nodweddion daearyddol eraill, gan gynnwys mynyddoedd, afonydd a phriffyrdd.

(2Gall sylfaen y map y mae map drafft yn cael ei dynnu arni gynnwys ardaloedd y bwriedir dangos tir adran 4(2) mewn perthynas â hwy fel tir o'r fath ar fap drafft arall ond yn yr achos hwnnw rhaid i sylfaen y map nodi'n glir ffiniau'r ardal y mae'n fap drafft ohoni.

(3Rhaid paratoi map drafft ar raddfa nad yw'n llai na 1:10,000 neu, os nad yw'n bosibl sicrhau'r raddfa honno drwy ddefnyddio'r dechnoleg mapiau sylfaen sydd ar gael yn rhesymol i'r Cyngor, y raddfa fwyaf sy'n ymarferol drwy ddefnyddio'r dechnoleg mapiau sylfaen honno, ond os yw'n angenrheidiol neu'n ddymunol er mwyn dangos rhan o ffin unrhyw dir adran 4(2) yn gywir fod map drafft, neu fap mewnosod, yn cael ei baratoi ar raddfa fwy, rhaid i'r Cyngor wneud hynny naill ai drwy baratoi map drafft ar y raddfa fwy honno neu drwy gynnwys map mewnosod ar y raddfa fwy honno ar fap drafft o'r ardal gyffredinol neu drwy ei atodi iddo ac, os nad oes map mewnosod wedi'i gynnwys ar y map drafft ei hun, drwy nodi ar yr ardal perthnasol o'r map drafft y ffaith fod map mewnosod o'r ardal honno wedi'i baratoi a sut y gellir cael gafael ar y map mewnosod hwnnw.

(4Os yw ffin darn o dir adran 4(2) yn cael ei dangos ar y map drafft o'r ardal gyffredinol ac ar fap mewnosod ar raddfa fwy a baratowyd yn unol â pharagraff (3) mae'r ffordd y mae'r ffin honno wedi'i dynodi ar y map mewnosod i'w chymryd fel y ffordd y mae wedi'i dynodi ar y map drafft.

(5Ac eithrio os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny, rhaid paratoi map drafft, ac unrhyw fap mewnosod, ar ffurf electronig ond rhaid ei fod yn medru cael ei atgynhyrchu ar ffurf printiedig a rhaid i'r Cyngor sicrhau bod modd rhwydd o adnabod y map drafft ac unrhyw fap mewnosod sy'n ymwneud ag ef fel y cyfryw bob amser.

(6Rhaid i fap drafft nodi ar wahân y darnau hynny o dir adran 4(2) sy'n cynnwys tir agored, a'r rhai sy'n cynnwys tir comin cofrestredig, a gall nodi unrhyw nodweddion perthnasol eraill, drwy ddefnyddio unrhyw liwiau, cysgodiad, llinellau a symbolau gwahanol y gwêl y Cyngor yn dda ond rhaid i bob map drafft ac unrhyw gopïau o fapiau drafft a gynhyrchir o dan baragraff (7) ddangos pob dosbarth felly ar dir adran 4(2) a phob nodwedd arall o'r fath drwy ddefnyddio'r lliwiau, y cysgodiad, y llinellau neu'r symbolau cyfatebol eraill yn ôl fel y digwydd.

(7At ddibenion cyflawni ei ddyletswydd i ddyroddi map drafft o dan adran 5(a) o'r Ddeddf, neu at unrhyw ddiben sy'n gysylltiedig â hynny, gall y Cyngor gynhyrchu a chyhoeddi copïau o'r map drafft ar unrhyw ffurf, gan gynnwys ffurff electronig, y mae'n penderfynu arni a bernir bod unrhyw gopi o'r fath a gyhoeddir gan y Cyngor neu gyda'i awdurdod yn union yr un fath â'r map drafft oni ddangosir i'r gwrthwyneb.

(8Rhaid i'r Cyngor, er mwyn darlunio bodolaeth a maint y tir adran 4(2) a ddangosir ar un neu ragor o fapiau drafft, ac er mwyn trefnu bod copïau archwilio o'r map drafft ar gael yn unol â rheoliad 4(1)(a) a 4(1)(b), neu er mwyn cydymffurfio â chais o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 4(2)(dd), gynhyrchu a chyhoeddi copïau o fapiau drafft sy'n dangos y tir adran 4(2) hwnnw, a gallant fod ar raddfa sy'n llai nag 1:10,000 ond heb fod yn llai nag 1:25,000.

(9Rhaid i gopïau o fapiau drafft a gynhyrchir o dan baragraff (8):

(a)dangos yn glir y dosbarthiadau ar dir adran 4(2) a'r nodweddion eraill y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) sy'n ymddangos ar y map drafft y maent yn gopïau ohono, ond nid oes angen i'r lliwiau (os oes rhai), y cysgodiad, y llinellau neu'r symbolau eraill a ddefnyddir i wneud hynny fod yn union yr un fath â'r rhai a ddefnyddir at y diben hwnnw ar y map drafft hwnnw;

(b)peidio â chael eu hystyried yn dystiolaeth am gynnwys y mapiau drafft hynny.

(10Er mwyn sicrhau bod yr holl mapiau drafft y mae'n eu paratoi mor gywir â phosibl, rhaid i'r Cyngor ddefnyddio unrhyw ddata perthnasol sydd ar gael yn rhesymol iddo.

Dyroddi mapiau drafft

4.—(1Cymerir bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswydd i ddyroddi map drafft yn unol ag adran 5(a) o'r Ddeddf:

(a)os yw wedi gwneud unrhyw drefniadau sydd o fewn ei bwer i sicrhau bod copi o'r map drafft sy'n cael ei gynhyrchu o dan reoliad 3(8) ar ffurf brintiedig ac, os yw'n bosibl, ar ffurf electronig, ar gael i'w archwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol (yn ddarostyngedig, yn achos archwilio mewn swyddfeydd heblaw swyddfeydd ei hun, i unrhyw ofyniad ar gyfer gwneud apwyntiadau i wneud hynny a fynnir gan yr awdurdod perthnasol) drwy gydol y cyfnod ymgynghori:

(i)ym mhencadlys y Cyngor a swyddfa leol y Cyngor, sef y swyddfa agosaf at yr ardal y mae'r map drafft yn ymwneud â hi heb gynnwys unrhyw swyddfa nad yw'n agored yn ystod oriau swyddfa arferol; a

(ii)ym mhencadlys pob awdurdod lleol perthnasol a phob awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol, os o gwbl;

(b)os yw wedi anfon copi o'r map drafft a gynhyrchwyd o dan reoliad 3(8) ar raddfa nad yw'n llai nag 1:25,000, naill ai ar ffurf brintiedig neu, os yw'r Cyngor a'r derbynnydd yn cytuno, ar ffurf electronig, ynghyd â hysbysiad sy'n cynnwys yr un wybodaeth ag y mae'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad sydd i'w gyhoeddi o dan is-baragraff (c) o'r paragraff hwn, i bob un o'r cyrff a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn ac i unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol;

(c)os yw wedi cyhoeddi hysbysiad sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) mewn o leiaf un papur newydd dyddiol sy'n cylchredeg drwy'r rhan gyfan honno o Gymru sy'n cynnwys yr ardal y mae'r map drafft yn ymwneud â hi ac unrhyw bapurau newydd neu gyhoeddiadau eraill sy'n cylchredeg yn y rhan honno o Gymru fel y gwêl y Cyngor yn dda;

(ch)os yw wedi anfon hysbysiad yn ysgrifenedig neu ar ffurf electronig, sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2), at bob un o'r llyfrgelloedd cyhoeddus a restrir yn Atodlen 2, gyda chais bod copi o'r hysbysiad yn cael ei arddangos i'r cyhoedd yn y llyfrgell honno.

(2Rhaid i hysbysiad sy'n cydymffurfio â gofynion y paragraff hwn:

(a)nodi'r ardal y mae'r map drafft yn ymwneud â hi;

(b)datgan mai effaith y map drafft, os yw wedi'i gadarnhau, fydd pennu dros faint o'r tir y bydd y cyhoedd, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r cyfyngiadau y mae'r Ddeddf yn darparu ar eu cyfer, yn cael hawl i fynd arno o dan adran 2 o'r Ddeddf pan ddaw'r adran honno i rym;

(c)datgan na fydd cadarnhau'r map drafft yn rhagfarnu hawl unrhyw berson y mae ganddo fuddiant mewn tir sydd wedi'i gynnwys yn y tir a ddangosir ar y map drafft fel tir adran 4(2) i apelio i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn dilyn y cadarnhad hwnnw yn erbyn cynnwys y tir hwnnw;

(ch)rhoi manylion ynghylch y modd y gall aelodau o'r cyhoedd archwilio copi o'r map drafft;

(d)rhoi manylion ynghylch y modd y gall aelodau o'r cyhoedd gyflwyno sylwadau i'r Cyngor ynglyn â dangos, neu fethu â dangos, unrhyw ddarn o dir ar y map drafft fel tir agored fel y diffinnir “open country” yn y Ddeddf, neu fel tir comin cofrestredig ac esbonio na fydd rhaid i'r Cyngor ystyried y sylwadau hynny ond os ydynt yn dod i law'r Cyngor o fewn y cyfnod ymgynghori ac y dylai unrhyw berson sy'n cyflwyno sylwadau o'r fath gadw mewn cof y gellir cyhoeddi cynnwys y sylwadau hynny;

(dd)datgan y gall unrhyw berson y mae ganddo fuddiant mewn unrhyw dir a ddangosir ar y map drafft fel tir adran 4(2), drwy gais ysgrifenedig sy'n dod i law cyn diwedd y cyfnod ymgynghori, ac sy'n nodi natur y buddiant hwnnw a'r tir y mae'n ymwneud ag ef, ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor ddarparu i'r person hwnnw yn rhad ac am ddim un copi a gynhyrchwyd o dan reoliad 3(8) o'r map drafft neu ddarn o'r map drafft sy'n ymwneud â'r tir hwnnw, a bod rhaid i'r copi hwnnw fod ar ffurf brintiedig neu, os yw'r Cyngor a'r person hwnnw yn cytuno, ar ffurf electronig;

(e)datgan y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw gais o dan is-baragraff (dd) ato;

(f)pennu'r cyfnod ymgynghori, sef cyfnod nad yw'n llai na thri mis o'r dyddiad y cyhoeddir gyntaf hysbysiad sy'n cydymffurfio â'r paragraff hwn; ac

(ff)peidio â'i gyhoeddi gyntaf yn gynharach na'r dyddiad y mae'r Cyngor wedi cydymffurfio, mewn perthynas â'r map drafft y mae'r hysbysiad yn ymweud ag ef, â holl ofynion paragraffau (1)(a) ac (1)(b).

(3Gall unrhyw hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (1)(c) neu sy'n cael ei anfon yn unol â pharagraff (1)(ch), yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys o dan baragraff (2), gynnwys unrhyw wybodaeth bellach y gwêl y Cyngor yn dda.

Dyletswydd gyffredinol i roi gwybod i'r cyhoedd am ddarpariaethau mapiau drafft

5.—(1Rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw gamau sy'n rhesymol er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am ddarpariaethau mapiau drafft a rhoi'r camau hynny ar waith a rhaid iddo ystyried yn benodol a yw'n ddymunol:

(a)trefnu bod yr wybodaeth sy'n cyfateb i'r wybodaeth a ddangosir ar fapiau drafft ar gael, cyhyd â'i bod yn ymarferol, drwy gyfrwng mapiau ar raddfa lai a gyhoeddir ar unrhyw wefan y mae'n ei chynnal ar y rhyngrwyd ; a

(b)tynnu sylw'r rhai y mae'n ymddangos bod ganddynt fuddiant mewn tir a ddangosir fel tir adran 4(2) ar fap drafft, drwy ba ddull bynnag sy'n briodol, y ffaith bod y map hwnnw wedi'i ddyroddi ac ym mhle y gellir ei archwilio.

(2Ni fydd y ddyletswydd sy'n cael ei gosod o dan baragraff (1) yn rhagfarnu dyletswyddau'r Cyngor o dan reoliad 4 ond ni fydd unrhyw fethiant ar ran y Cyngor i gyflawni'r ddyletswydd sy'n cael ei gosod gan baragraff (1) mewn perthynas â map drafft yn annilysu dyroddi'r map drafft hwnnw gan y Cyngor neu unrhyw gamau eraill y mae'n ofynnol i'r Cyngor eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.

Ystyried sylwadau sy'n ymwneud â mapiau drafft

6.—(1Rhaid i'r Cyngor ystyried unrhyw sylw sy'n dod i'w law o fewn y cyfnod ymgynghori mewn perthynas â dangos, neu fethu â dangos, unrhyw ddarn o dir fel tir agored neu dir comin cofrestredig ar fap drafft os yw'r sylw yn cydymffurfio â gofynion paragraff (2).

(2Mae sylw yn cydymffurfio â gofynion y paragraff hwn yw:—

(a)wedi'i gyflwyno yn ysgrifenedig neu ar ffurf electronig;

(b)yn dwyn enw, cyfeiriad a chod post y person sy'n cyflwyno'r sylw;

(c)yn cynnwys manylion digonol am y tir y mae'n ymwneud ag ef er mwyn ei gwneud yn bosibl adnabod y tir hwnnw;

(ch)yn cynnwys unrhyw fanylion i alluogi'r Cyngor i ddeall unrhyw addasiad y mae'r person sy'n cyflwyno'r sylw yn cynnig y dylid ei wneud i'r map drafft; a

(d)os yw'n cael ei wneud gan berson sy'n honni fod ganddo fuddiant yn y tir y mae'n ymwneud ag ef, yn nodi natur y buddiant hwnnw.

(3Heb ragfarnu paragraff (4), gall y Cyngor, os yw'n cael unrhyw sylw nad yw'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) am ei fod wedi hepgor gwybodaeth benodol, ofyn i'r person a gyflwynodd y sylw ddarparu unrhyw wybodaeth a hepgorwyd o fewn unrhyw gyfnod pellach y mae'r Cyngor yn ei ganiatáu a rhaid i'r Cyngor, os yw'r wybodaeth honno yn cael ei darparu o fewn y cyfnod hwnnw, ystyried y sylw hwnnw.

(4Os yw sylw yn methu â chynnwys digon o fanylion am y tir y mae'n ymwneud ag ef i'w gwneud yn bosibl adnabod y tir hwnnw mae'r wybodaeth y gall y Cyngor ofyn amdani o dan baragraff (3) gynnwys map neu blan y mae ffiniau'r tir o dan sylw wedi'u marcio arno.

(5Gall y Cyngor, yn ôl ei ddoethineb, ystyried unrhyw sylw nad yw'n cydymffurfio â gofynion paragraff (2) neu gyda chais am wybadeth a wnaed o dan baragraff (3), a gall ymgynghori ag unrhyw bersonau eraill ag y gwêl yn dda.

Cadarnhau map drafft

7.—(1Gall y Cyngor, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau y mae'n ofynnol iddo eu hystyried o dan ddarpariaethau rheoliad 6(1) neu (2) ynghyd ag unrhyw sylwadau pellach y mae'n penderfynu eu hystyried, yn ôl ei ddoethineb, o dan reoliad 6(4), gadarnhau'r map drafft gydag addasiadau neu hebddynt.

(2Os yw'r Cyngor yn cadarnhau'r map drafft heb addasiadau rhaid iddo nodi'r ffaith ar y map drafft ac ar unrhyw gopi o'r map drafft sy'n cael ei wneud ar ôl y cadarnhad hwnnw.

(3Os yw'r Cyngor yn cadarnhau'r map drafft gydag addasiadau rhaid iddo:

(a)paratoi map y bydd ei ffurf yn union yr un fath â'r map drafft ac eithrio i'r graddau y mae'n ymgorffori'r addasiadau hynny;

(b)paratoi datganiad ysgrifenedig sy'n nodi'r addasiadau hynny ac yn ymgorffori datganiad cryno o'r rhesymau dros eu gwneud; ac

(c)nodi ar y map sy'n cael ei baratoi yn unol ag is-baragraff (a) o'r paragraff hwn ac ar unrhyw gopi o'r map hwnnw y ffaith mai hwnnw sy'n cynrychioli'r map drafft fel y'i cadarnhawyd gydag addasiadau.

(4Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at gadarnhau map yn gyfeiriadau at ei gadarnhau yn unol ag adran 5(c) o'r Ddeddf.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Rhagfyr 2001

Rheoliad 4(1)(b)

ATODLEN 1Y CYRFF Y DYLID YMGYNGHORI Å HWY YN UNOL Å RHEOLIAD 4(1)(B)

  • Y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Saethu a Chadwraeth

  • Cyngor Mynydda Prydain

  • Cyndeithas Tir a Busnes Cefn Gwlad

  • Yr Asiantaeth Cefn Gwlad (os oes gan dir sydd wedi'i gynnwys mewn map drafft ffin â Lloegr)

  • Undeb Amaethwyr Cymru

  • Y Comisiwn Goedwigaeth

  • Fforymau mynediad lleol perthnasol

  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn

  • Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, Cymru

  • Awdurdodau parciau cenedlaethol perthansol

  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

  • Cymdeithas y Mannau Agored

  • Cymdeithas y Crwydwyr

  • Cynghorau Tref a Chynghorau Cymuned yng Nghymru y mae'r ardal y maent yn gyfrifol amdani yn cynnwys tir sydd wedi'i gynnwys mewn map drafft

  • Awdurodau lleol perthansol

  • Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys, neu

  • Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, neu

  • Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent, neu

  • Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd

  • (os ydyw'r ardal y mae'r Ymddiriedolaeth Archaeolegol honno yn gyfrifol amdani yn cynnwys tir sydd wedi'i gynnwys mewn map drafft)

Rheoliad 4(1)(ch)

ATODLEN 2LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS Y DYLID ANFON HYSBYSIAD IDDYNT YN UNOL Å RHEOLIAD 4(1)(ch)

  • Aberdâr

  • Aberystwyth

  • Bangor

  • Y Barri

  • Coed-duon

  • Aberhonddu

  • Pen-y-bont ar Ogwr

  • Bryn-mawr

  • Caernarfon

  • Caerdydd Canolog

  • Aberteifi

  • Caerfyrddin

  • Cas-gwent

  • Bae Colwyn

  • Cwmbrân

  • Dolgellau

  • Sir y Fflint

  • Grangetown

  • Hwlffordd

  • Llandrindod

  • Llandudno

  • Llanelli

  • Llangefni

  • Llanrwst

  • Maesteg

  • Merthyr Tudful

  • Castell-nedd

  • Casnewydd Canolog

  • Y Drenewydd

  • Doc Penfro

  • Penarth

  • Pontypridd

  • Port Talbot

  • Pwllheli

  • Rhuthun

  • Rhymni

  • Y Rhyl

  • Dwyrain Abertawe

  • Treorci

  • Wrecsam

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan adran 11 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”), gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu drwy reoliadau y gweithdrefnau sydd i'w dilyn wrth baratoi mapiau, yn unol ag adran 4(2) o'r Ddeddf, ac a fydd yn dangos pob tir agored (fel y diffinnir y term cyfatebol Saesneg 'open country' gan y Ddeddf) a phob tir comin cofrestredig yng Nghymru. Mae hawl y cyhoedd i gael mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf yn cael ei diffinio drwy gyfeirio at y mathau hyn o dir, yn ddarostyngedig i eithriadau ac ychwanegiadau penodol a nodir yn y Ddeddf.

Mae Rheoliad 3 yn nodi'r gweithdrefnau a'r gofynion ar gyfer paratoi mapiau drafft gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru (“y Cyngor”) o dan Ran 1 o'r Ddeddf, gan gynnwys darparu ynghylch ffurf a graddfa mapiau drafft nad ydynt i fod ar raddfa sy'n llai nag 1:10,000 (neu, os nad yw'n bosibl sicrhau'r raddfa honno drwy ddefnyddio'r dechnoleg mapiau sylfaen sydd ar gael yn rhesymol i'r Cyngor, y raddfa fwyaf sy'n ymarferol drwy ddefnyddio'r dechnoleg sylfaen mapiau honno) ond sy'n darparu pŵer i gopïau gael eu paratoi a'u cyhoeddi ar raddfeydd gwahanol, os yw'n briodol.

Mae Rheoliad 3(3) yn ei gwneud yn ofynnol bod mapiau neu fapiau mewnosod ar raddfa fwy yn cael eu paratoi os yw'n angenrheidiol neu'n ddymunol gwneud hynny er mwyn ddangos ffin tir adran 4(2) yn gywir.

Mae Rheoliad 3(5) yn ei gwneud yn ofynnol bod mapiau drafft (gan gynnwys mapiau mewnosod) yn cael eu paratoi ar ffurf electronig ac eithrio os nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny

Mae Rheoliad 4 yn sefydlu'r gweithdrefnau ar gyfer dyroddi a chyhoeddi map drafft ar ôl iddo gael ei baratoi.

Mae Rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cyngor roi cyhoeddusrwydd ynghylch darpariaethau mapiau drafft yn gyffredinol.

Mae Rheoliad 6 yn sefydlu'r gweithdrefnau ynghylch ymgynghori ynglyn â mapiau drafft sydd wedi'u dyroddi.

Mae Rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth ynghylch cadarnhau mapiau drafft, boed hynny gydag addasiadau neu beidio.

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn ymwneud â dyroddi mapiau drafft sydd wedi'u cadarnhau a'u dyroddi ar ffurf dros dro o dan adran 5(d) neu (e) o'r Deddf nac yn ymwneud â'r hawl i apelio yn erbyn y mapiau drafft sydd wedi'u cadarnhau a'u dyroddi felly, nac ynghylch dyroddi mapiau ar eu ffurf derfynol. Bydd y gweithdrefnau ar gyfer hyn oll yn destun Rheoliadau pellach.

(1)

2000 p.37. Mae'r cyfeiriad yn adran 11 at reoliadau yn golygu, mewn perthynas â Chymru, reoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (gweler diffiniad “regulations” yn adran 45(2)).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources