Search Legislation

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 4002 (Cy.330)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

13 Rhagfyr 2001

Yn dod i rym

1 Ionawr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 94 a 95 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Fforymau Mynediad Lleol) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Oni nodir yn wahanol, yn y Rheoliadau hyn:

  • ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw'r adroddiad a baratoir gan yr awdurdod perthnasol o dan reoliad 16(1);

  • mae i “awdurdod penodi” (“appointing authority”) yr ystyr a roddir i “appointing authority” yn adran 94(2) o'r Ddeddf ond mae'n cynnwys, pan fo'r cyd-destun yn mynnu hynny, un neu ragor o awdurdodau penodi yn gweithredu ar y cyd mewn perthynas â fforwm a sefydlir o dan reoliad 3(5) yn unol ag unrhyw drefniadau y cytunir arnynt rhwng yr awdurdodau penodi perthnasol at y diben hwnnw;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;

  • ystyr “fforwm” (“forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlir o dan adran 94(1) o'r Ddeddf gan gynnwys fforwm mynediad ar y cyd a sefydlir mewn dull tebyg;

  • mae i “hawliau tramwy lleol” (“local rights of way”) yr ystyr a roddir i “local rights of way” yn adran 95(3) o'r Ddeddf;

  • mae i “y person sy'n llywyddu” (“person presiding”) yr ystyr a roddir i “person presiding” yn rheoliad 15(3);

  • mae i “tir mynediad” (“access land”) yr ystyr a roddir i “access land” yn adran 1(1) o'r Ddeddf.

(2Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

Sefydlu fforwm

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod penodi sefydlu fforwm neu fforymau ar gyfer yr ardal gyfan y mae'n awdurdod penodi iddi.

(2Gall awdurdod penodi naill ai sefydlu un fforwm ar gyfer yr holl ardal y mae'n awdurdod penodi iddi neu, fel arall, nifer o fforymau, a phob un ar gyfer rhan o'r ardal y mae'n awdurdod penodi iddi fel y gwêl yn dda.

(3Nid yw'r ddyletswydd a osodir ar awdurdod penodi gan baragraff (1) yn gymwys i'r ardal y mae'n awdurdod penodi ar ei chyfer neu i ran o'r ardal honno os oes cyfarwyddyd mewn grym mewn perthynas â'r ardal neu'r rhan honno o'r ardal wedi'i roi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 94(8) o'r Ddeddf.

(4Rhaid i'r awdurdod penodi gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) o fewn un flwyddyn galendr o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

(5Gall awdurdod penodi, mewn perthynas ag unrhyw ardal y mae'n awdurdod penodi ar ei chyfer neu ran o'r ardal honno, gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) drwy benodi fforwm ar y cyd gydag un neu fwy o awdurdodau penodi eraill, yn unol ag unrhyw drefniadau y bydd yn eu gwneud gydag awdurdod neu awdurdodau penodi eraill o'r fath, mewn perthynas ag ardal sy'n cynnwys yr ardal honno neu ran o'r ardal honno.

(6Os bydd yr awdurdod penodi o'r farn ei bod yn briodol sefydlu fforwm ar gyfer rhan o'i ardal, rhaid iddo, wrth ystyried yr ardal y mae'r fforwm i'w chynnwys, ymgynghori ag unrhyw awdurdodau lleol a chyrff eraill y gwêl yn dda.

Aelodaeth fforwm

4.—(1Rhaid i fforwm gynnwys Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd, a benodir yn unol â rheoliad 12, ac Ysgrifennydd, ynghyd â dim llai na 10 a dim mwy nag 20 o aelodau eraill (neu unrhyw nifer arall o aelodau y tu allan i'r ystod hwnnw y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei awdurdodi yn ysgrifenedig).

(2Bernir bod fforwm wedi'i sefydlu ar y dyddiad a bennir gan yr awdurdod penodi yn y llythyrau penodi y mae'n eu hanfon at y personau sydd i'w penodi yn aelodau o'r fforwm, a'r dyddiad hwnnw yw dyddiad cyfarfod cyntaf y fforwm.

(3Mae aelodaeth person o fforwm yn parhau nes y daw'r cyfnod o dair blynedd i ben o ddyddiad cyfarfod cyntaf y fforwm, neu unrhyw gyfnod byrrach a bennir gan yr awdurdod penodi yn y llythyrau penodi y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), onid yw aelodaeth y person hwnnw yn terfynu yn unol â rheoliad 14.

(4Mae person sy'n peidio â bod yn aelod o fforwm yn gymwys i gael ei ailethol.

5.—(1Gall awdurdod penodi, yn ychwanegol at benodi aelodau er mwyn llenwi swyddi gwag dros dro yn aelodaeth fforwm, benodi aelodau pellach i fforwm ar unrhyw adeg ar yr amod nad yw cyfanswm yr aelodau, heb gynnwys y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd, o ganlyniad i hynny yn fwy na 20 (neu'r nifer arall hwnnw y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei awdurdodi yn unol â rheoliad 4(1)).

(2Pan fydd swydd wag dros dro yn codi yn aelodaeth fforwm, gall yr awdurdod penodi ymatal rhag penodi aelod i lenwi'r swydd honno ar yr amod nad yw aelodaeth fforwm, heb gynnwys y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd, o ganlyniad i hynny yn disgyn yn is na 10 (neu unrhyw nifer arall a awdurdodir gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol â rheoliad 4(1)).

(3Cyn bod awdurdod penodi yn arfer ei bwerau o dan baragraff (1) i benodi aelod neu aelodau pellach o'r fforwm yn ychwanegol at unrhyw rai y mae eu hangen i lenwi swydd wag dros dro, neu cyn iddo arfer ei bŵ er o dan baragraff (2) i ymatal rhag penodi aelod i lenwi swydd wag dros dro yn aelodaeth fforwm, rhaid iddo ymgynghori â'r fforwm ac unrhyw gyrff eraill y gwêl yn dda.

6.—(1Pan fydd ardal fforwm yn dod yn llwyr o fewn ardal yr awdurdod penodi, rhaid i'r awdurdod hwnnw benodi un (ond ni all benodi mwy nag un) aelod o'r fforwm sydd naill ai'n swyddog neu'n aelod o'r awdurdod penodi.

(2Pan fydd ardal fforwm yn dod o fewn ardal mwy nag un awdurdod penodi a bod—

(a)dau awdurdod penodi, rhaid i bob awdurdod penodi mewn perthynas â'r fforwm hwnnw benodi un (ond ni allant benodi mwy nag un) aelod o'r fforwm sydd naill ai'n swyddog neu'n aelod o'r awdurdod penodi hwnnw;

(b)mwy na dau awdurdod penodi, rhaid i'r awdurdodau penodi mewn perthynas â'r fforwm hwnnw benodi, yn unol â threfniadau y cytunwyd arnynt gan yr awdurdodau penodi hynny ar adeg sefydlu'r fforwm, ddim mwy na chyfanswm o ddau aelod o'r fforwm sydd naill ai'n swyddogion neu'n aelodau o'r awdurdodau penodi.

7.  Wrth ystyried pa bersonau i'w penodi yn aelodau o'r fforwm, rhaid i awdurdod penodi:

(a)ymgynghori ag unrhyw unigolion a chyrff sydd â buddiant yn swyddogaethau'r fforwm y gwêl yn dda;

(b)rhoi hysbyseb mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn y fro y mae'r fforwm ynddi yn rhoi cyfle i bersonau fynegi diddordeb mewn dod yn aelod o fforwm;

(c)gwahodd unrhyw gyrff sydd â buddiant yn swyddogaethau'r fforwm i enwebu person i'w ystyried gan yr awdurdod penodi ar gyfer aelodaeth o'r fforwm;

(ch)cymryd i ystyriaeth ei bod yn ddymunol penodi personau sy'n byw yn ardal y fforwm, neu sydd fel arall yn gyfarwydd iawn â hi, neu y mae ganddynt fuddiannau eraill sy'n berthnasol iddi;

(d)sicrhau bod aelodaeth y fforwm yn llwyddo i gael cydbwysedd rhesymol rhwng buddiannau defnyddwyr hawliau tramwy lleol neu'r hawliau mynediad a roddir gan adran 2(1) o'r Ddeddf a pherchenogion a meddiannwyr tir mynediad neu dir y mae hawliau tramwy lleol drosto yn bodoli;

(dd)rhoi sylw i'r angen i sicrhau, i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gydbwysedd teg rhwng personau o genderau, hiliau, oedrannau, anableddau a nodweddion eraill gwahanol.

8.  Rhaid i awdurdod penodi beidio â phenodi unrhyw person yn aelod o fforwm y mae'n ymddangos i'r awdurdod fod ganddo, neu y mae'n debygol bod ganddo, fuddiant ariannol neu fuddiant fel arall yn y materion y mae'n ofynnol i'r fforwm gynghori arnynt a'r buddiant hwnnw yn debygol o gael effaith sylweddol andwyol ar allu'r person hwnnw i gyflawni'r swyddogaeth yn briodol ac yn effeithiol fel aelod o'r fforwm.

9.  Cyn penodi person yn aelod o fforwm rhaid i'r awdurdod pendodi ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw roi iddo unrhyw wybodaeth y gall yn rhesymol ofyn amdani at y diben o asesu addasrwydd y person hwnnw i fod yn aelod o'r fforwm hwnnw.

Gweinyddu Fforwm

10.—(1Rhaid i'r awdurdod penodi mewn perthynas â phob fforwm benodi person (a rhaid iddo beidio â bod yn aelod o'r fforwm) i weithredu fel ei Ysgrifennydd a bod yn gyfrifol am weinyddu'r fforwm.

(2Er gwaethaf cyffredinolrwydd paragraff (1), mae dyletswyddau'r Ysgrifennwydd yn cynnwys—

(a)trefnu cyfarfodydd a llunio, cadw, cynhyrchu a chyflwyno'r cofnodion i'r cyfarfod nesaf;

(b)rheoli unrhyw adnoddau ariannol a ddarperir i'r fforwm i'w defnyddio wrth arfer ei swyddogaethau;

(c)sicrhau bod—

(i)hysbysiad o gyfarfod arfaethedig;

(ii)copi o'r agenda a luniwyd gan yr Ysgrifennydd mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd ac sy'n pennu'r prif fusnes y bwriedir ei drafod mewn cyfarfod;

(iii)unrhyw bapurau eraill sy'n berthnasol i gyfarfod;

yn cael eu cyflwyno naill ai'n bersonol neu drwy'r post i'r cyfeiriad hwnnw a bennir gan aelod at y diben, i bob aelod o'r fforwm fel y ceir hwy (neu yn achos cyflwyno drwy'r post fel y cyflwynir hwy yn ôl y drefn bostio arferol) o leiaf saith diwrnod clir cyn dyddiad cyfarfod;

(ch)tynnu sylw'r fforwm at ddarpariaethau unrhyw godau ymarfer cenedlaethol, canllawiau a roddir gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru, neu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'r gofynion statudol y mae'r fforwm i roi sylw iddynt wrth arfer ei swyddogaethau.

(3Rhaid i'r Ysgrifennydd fod yn bresennol yn holl gyfarfodydd fforwm a gall fod yn bresennol yng nghyfarfodydd unrhyw bwyllgor a sefydlir o dan reoliad 13.

(4Os bydd yr Ysgrifennydd yn analluog dros dro, rhaid i'r awdurdod penodi benodi Ysgrifennydd Gweithredol i gyflawni dyletswyddau'r Ysgrifennydd yn ystod cyfnod ei analluedd.

11.  Rhaid i'r awdurdod penodi dalu'r holl gostau rhesymol a dynnir gan fforwm wrth gyflawni ei ddyletswyddau gan gynnwys y costau hynny (heblaw colli enillion a chostau eraill sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chyflogaeth person) a dynnir yn rhesymol ac yn angenrheidiol gan y Cadeirydd, y Dirprwy Gadeirydd ac aelodau o'r fforwm wrth fynychu cyfarfodydd.

Penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd

12.—(1Rhaid i'r Ysgrifennydd—

(a)yng nghyfarfod cyntaf y fforwm a gynhelir ar ôl y cyfarfod y mae penodiad o holl aelodau'r fforwm yn dod yn effeithiol ynddo (p'un ai wrth sefydlu'r fforwm neu wrth benodi aelodau ar ôl i aelodaeth yr holl aelodau ddod i ben o dan reoliad 4(3)), sicrhau mai'r eitem gyntaf o fusnes i'w chynnal fydd ethol Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd, a

(b)pan ddaw swydd y Cadeirydd neu'r Dirprwy Gadeirydd yn wag y tro nesaf, sicrhau mai eitem gyntaf y busnes i'w chynnal yng nghyfarfod nesaf y fforwm fydd ethol Cadeirydd a/neu Ddirprwy Gadeirydd, yn ôl y gofyn.

(2Rhaid i'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd fod yn aelodau o'r fforwm yr etholir hwy yn Gadeirydd ac yn Ddirprwy Gadeirydd arno a rhaid iddynt gael eu hethol gan aelodau o'r fforwm drwy bleidlais gyfrinachol.

(3Rhaid i'r Ysgrifennydd lywyddu yn unrhyw gyfarfod o'r fforwm hyd nes yr etholir Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd a rhaid iddo gynnal etholiad y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd.

(4Os canlyniad y bleidlais gyntaf neu bleidlais bellach yw bod ymgeisydd yn cael pleidleisiau mwy na hanner yr aelodau sy'n pleidleisio rhaid i'r Ysgrifennydd ddatgan bod y person wedi'i ethol.

(5Os canlyniad y bleidlais gyntaf neu bleidlais bellach yw nad oes unrhyw ymgeisydd yn cael pleidleisiau mwy na hanner yr aelodau sy'n pleidleisio, rhaid i'r Ysgrifennydd gynnal pleidlais bellach gan wahardd yr ymgeisydd a gafodd y nifer lleiaf o bleidleisiau yn y bleidlais flaenorol.

(6Os digwydd mewn unrhyw bleidlais fod pleidleisiau cyfartal rhwng dau ymgeisydd a bod nifer y pleidleisiau y maent yn eu cael yn llai na'r hyn a gafwyd gan unrhyw ymgeisydd arall rhaid i'r Ysgrifennydd benderfynu drwy ddulliau hap pa un ohonynt a waherddir rhag unrhyw bleidlais bellach.

Sefydlu pwyllgor gan fforwm

13.—(1Gall aelodau fforwm, gyda chytundeb y Cadeirydd, sefydlu unrhyw bwyllgor neu bwyllgorau o aelodau y gwelant yn dda.

(2Yn ddarostyngedig i unrhyw beth i'r gwrthwyneb a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, pan sefydlir pwyllgor, penderfynir y dull y caiff ei gadeirio, dull penodi ei aelodau, a'i gylch gwaith gan aelodau'r fforwm a'i sefydlodd.

Terfynu aelodaeth

14.—(1Mae aelodaeth person o fforwm, gan gynnwys y Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd, yn terfynu pan ddigwydd un o'r canlynol:

(a)bod cyfnod yr aelodaeth yn dod i ben;

(b)bod yr aelod yn marw;

(c)bod yr Ysgrifennydd yn cael hysbysiad ysgrifenedig o ymddiswyddiad aelod;

(ch)bod yr awdurdod penodi yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i aelod fod yr amgylchiadau, ym marn yr awdurdod, o'r math pe byddai'r awdurdod wedi ystyried a fyddai'n penodi'r person fel aelod o'r fforwm byddai wedi'i rwystro rhag gwneud hynny gan ddarpariaethau rheoliad 8;

(d)bod yr awdurdod penodi, ar ôl ymgynghori â'r fforwm ynghylch y camau arfaethedig, yn rhoi hysbysiad i aelod o amgylchiadau penodol, sydd ym marn yr awdurdod yn ei gwneud yn ddymunol, er mwyn cynnal swyddogaethau'r fforwm yn effeithiol, fod y person o dan sylw yn peidio â bod yn aelod;

(dd)bod aelod yn cael ei ethol yn aelod o'r awdurdod penodi neu fod aelod yn cael ei benodi yn swyddog o'r awdurdod penodi neu, os yw fforwm wedi'i sefydlu gan fwy nag un awdurdod penodi, yn aelod o unrhyw un o'r awdurdodau hynny;

(e)bod aelod ym methu â bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r fforwm, neu gyfarfod o unrhyw bwyllgor o'r fforwm, dros gyfnod parhaus o 12 mis, oni roddwyd i'r aelod, yn dilyn cais ysgrifenedig i'r awdurdod penodi sydd wedi'i wneud o fewn y cyfnod hwnnw ac yn pennu'r rhesymau dros y cais, ganiatâd i fod yn absennol gan yr awdurdod penodi am gyfnod y gwêl yr awdurdod penodi'n dda, ac yn yr achos hwnnw nid yw'r cyfnod o 12 mis a bennir yn y paragraff hwn i gynnwys unrhyw gyfnod y mae caniatâd o'r fath i fod yn absennol yn berthnasol iddo.

(2Rhaid i'r Ysgrifennydd hysbysu'r awdurdod penodi o unrhyw le gwag yn aelodaeth y fforwm nad yw'r awdurdod penodi yn ymwybodol ohono neu efallai nad yw fel arall yn ymwybodol ohono a rhaid i'r awdurdod penodi sy'n dod yn ymwybodol o le gwag o'r fath, yn ddarostyngedig i reoliad 5, benodi person i lenwi'r lle gwag hwnnw.

(3Os etholir aelod o fforwm yn Gadeirydd neu'n Ddirprwy Gadeirydd o'r fforwm hwnnw, rhaid i'r awdurdod penodi, yn ddarostyngedig i reoliad 5, benodi person yn aelod o'r fforwm fel pe bai'r person a etholir yn Gadeirydd neu'n Ddirprwy Gadeirydd wedi peidio â bod yn aelod o'r fforwm.

Cynal cyfarfodydd fforwm

15.—(1Mae cyfarfod cyntaf y fforwm ar ôl y cyfarfod y daw penodiad holl aelodau'r fforwm yn weithredol ynddo (naill ai pan sefydlir y fforwm neu pan benodir aelodau ar ôl i aelodaeth yr holl aelodau ddod i ben o dan reoliad 4(3)) i ddigwydd yn yr amser a'r lle a benderfynir gan yr awdurdod penodi, mae ei agenda i'w benderfynu gan yr awdurdod penodi, ac mae'r Ysgrifennydd i lywyddu arno, ond wedyn gall y fforwm gyfarfod bob hyn a hyn fel y gwêl yn dda, ond rhaid iddo gyfarfod o leiaf ddwywaith ymhob cyfnod o 12 mis wedi'i gyfrifo drwy gyfeirio at y dyddiad pan sefydlwyd ef.

(2Gellir cynnal cyfarforydd y fforwm ar unrhyw ddyddiau a lle y bydd yr aelodau yn cytuno arnynt a rhaid iddynt fod yn agored i'r cyhoedd oni fydd y person sy'n llywyddu yn dyfarnu bod eitem benodol o fusnes i'w hystyried mewn cyfarfod yn ei gwneud yn briodol i'r cyhoedd gael eu gwahardd pan ystyrir yr eitem fusnes honno.

(3Mewn unrhyw gyfarfod o'r fforwm, y person sydd i lywyddu (y “person sy'n llywyddu” ) yw'r canlynol, yn ddarostyngedig i reoliad 12(3)—

(a)y Cadeirydd, os yw'n bresennol;

(b)os yw'r Cadeirydd yn absennol, y Dirprwy Gadeirydd; neu

(c)os yw'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd yn absennol, unrhyw aelod y mae'r aelodau sy'n bresennol yn ei ddewis.

(4Ni chynhelir unrhyw fusnes gan y fforwm onid yw nifer yr aelodau sy'n bresennol, heb gynnwys y person sy'n llywyddu, yn fwy na thraean o'r aelodaeth lawn.

(5Yn ddarostyngedig i unrhyw beth i'r gwrthwyneb a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, neu i unrhyw ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 94(6)(c) o'r Ddeddf, gall fforwm reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

(6Ni fydd trafodion unrhyw gyfarfod yn cael eu hannilysu os bydd unrhyw berson sydd â hawl i'w cael yn methu â chael unrhyw hysbysiad neu ddogfennau eraill sy'n berthnasol i'r cyfarfod o dan sylw y mae'n ofynnol iddynt fel arall gael eu cyflwyno neu eu hanfon o dan y Rheoliadau hyn.

(7Rhaid paratoi cofnodion trafodion unrhyw gyfarfod (ac mae'n rhaid iddynt gynnwys enwau'r aelodau hynny sy'n bresennol ac yn absennol), eu cyflwyno i'w cytuno yn y cyfarfod nesaf a'u llofnodi gan y person sy'n llywyddu yn y cyfarfod nesaf hwnnw.

(8Gall y Cadeirydd wahodd sylwebyddion a/neu gynghorwyr i gyfarfod, a chaiff y sawl a wahoddir, os yw'r person sy'n llywyddu yn ystyried hynny'n briodol, gyfrannu at drafodion y fforwm.

(9Gall cynrychiolydd o'r Cynulliad Cenedlaethol a/neu Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ac unrhyw swyddog o awdurdod (mewn perthynas â'r fforwm o dan sylw) sy'n awdurdod penodi, fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r fforwm, neu o bwyllgor a sefydlir gan y fforwm hwnnw, fel sylwebydd.

(10Pan fydd y person sy'n llywyddu yn ystyried ei bod yn briodol pleidleisio ynghylch unrhyw gwestiwn, rhaid i'r person sy'n llywyddu ffurfio'r cwestiwn hwnnw, yn ysgrifenedig os gofynnir amdano, a phleidleisir drwy i'r aelodau sy'n bresennol godi llaw (ac eithrio nad oes gan y person sy'n llywyddu yr hawl i bleidleisio onid yw'r pleidleisiau'n gyfartal, ac os felly mae'r person sy'n llywyddu i gael pleidlais fwrw).

Adroddiadau blynyddol

16.—(1Rhaid i'r awdurdod penodi baratoi a chymeradwyo, mewn perthynas â phob fforwm y mae'n awdurdod penodi arno, adroddiad blynyddol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl 31 Mawrth ym mhob blwyddyn.

(2Rhaid i adroddiad blynyddol a baratoir o dan baragraff (1) gynnwys—

(a)gwybodaeth ynglyn â pherfformiad y fforwm o'i swyddogaethau yn ystod y cyfnod o 12 mis yn diweddu ar y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1); a

(b)rhaglen waith y cytunwyd arni rhwng y fforwm a'r awdurdod penodi y mae'r fforwm yn bwriadu ymgymryd â hi yn ystod y 12 mis sy'n dechrau yn union ar ôl y dyddiad hwnnw.

(3Rhaid sicrhau bod copi o'r adroddiad blynyddol, wedi iddo gael ei gymeradwyo, ar gael ar gyfer archwiliad gan aelodau o'r cyhoedd yn swyddfeydd yr awdurdod penodi yn ystod oriau swyddfa arferol yn rhad ac am ddim.

(4Rhaid i awdurdod penodi, ar gais unrhyw aelod o'r cyhoedd, ddarparu copi i'r person hwnnw o unrhyw adroddiad blynyddol sydd wedi'i baratoi a'i gymeradwyo o dan y Rheoliad hwn, neu unrhyw ran ohono, pan delir cost y postio ac unrhyw swm pellach nad yw'n fwy na 10 ceiniog y tudalen y bydd yr awdurdod penodi yn gofyn amdano.

Hysbysu penodiadau etc.

17.  Rhaid i'r awdurdod penodi:

(a)hysbysu Cyngor Cefn Gwlad Cymru (y Cyngor) o enwau a chyfeiriadau'r holl bersonau a benodir i fod yn aelodau (gan gynnwys Cadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion) o fforymau ac o unrhyw newidiadau yn aelodaeth y fforymau hynny;

(b)anfon copi o bob adroddiad blynyddol at y Cyngor ar ôl ei gymeradwyo; ac

(c)pan ofynir amdani, rhoi i'r Cyngor unrhyw wybodaeth arall am weithgareddau unrhyw fforwm y bydd y Cyngor yn rhesymol ofyn amdani.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Rhagfyr 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 94(1) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i fforwm mynediad lleol (“fforwm”) gael ei sefydlu gan awdurdodau priffyrdd lleol neu, pan fydd yr ardal sydd i'w chynnwys gan fforwm yn gyfrifoldeb Parc Cenedlaethol, gan awdurdod Parc Cenedlaethol (“awdurdodau penodi”).

Pan sefydlir fforwm ar gyfer rhan o'i ardal, mae'r awdurdod sy'n ei sefydlu o dan ddyletswydd i sefydlu fforwm neu fforymau pellach ar gyfer gweddill y rhan neu'r rhannau o'r ardal honno.

Gellir sefydlu fforwm mynediad lleol ar y cyd gan ddau awdurdod penodi neu fwy os ydynt o'r farn ei bod yn briodol gwneud hynny.

Bydd fforymau mynediad lleol yn cynghori cyrff sy'n arfer swyddogaethau a roddir gan y Ddeddf ar faterion sy'n ymwneud â gwella mynediad cyhoeddus i dir ac unrhyw faterion eraill a ragnodir gan Reoliadau yn y dyfodol.

Mae Adrannau 94 a 95 o'r Ddeddf yn rhoi pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau i ddarparu ar gyfer sefydlu a gweithredu fforwm.

Drwy arfer y pwerau hyn, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan yr awdurdod penodi wrth sefydlu fforwm, ac ar gyfer penodi aelodau iddo ac yn darparu'r rheolau sy'n llywodraethu gweithdrefnau fforymau.

Mae Rheoliad 3 yn pennu'r gweithdrefnau y mae'n ofynnol i awdurdodau penodi sefydlu fforymau odanynt.

Mae Rheoliad 4 yn pennu'r terfynau ar faint fforymau.

Mae Rheoliad 5 yn galluogi awdurdod penodi i newid maint fforwm yn ystod ei dymor.

Mae Rheoliadau 6 i 9 yn nodi'r darpariaethau sy'n ymwneud â phenodi aelodau fforymau.

Mae Rheoliadau 10 ac 11 yn darparu ar gyfer gweinyddu fforwm ac ar gyfer penodi Ysgrifennydd at y diben hwn ac ar gyfer cymorth ariannol ar gyfer gweithgareddau fforymau.

Mae Rheoliad 12 yn pennu'r weithdrefn ar gyfer ethol Cadeirydd a Dirprwy Gardeirydd fforwm.

Mae Rheoliad 13 yn darparu ar gyfer sefydlu pwyllgorau gan fforwm.

Mae Rheoliad 14 yn ymdrin â'r amgylchiadau y mae aelodaeth person o fforwm yn terfynu odanynt ac yn darparu ar gyfer llenwi swyddi gwag dros dro.

Mae Rheoliad 15 yn nodi'r gweithdrefnau a'r gofynion sydd i'w dilyn wrth gynnal cyfarfodydd fforwm.

Mae Rheoliad 16 yn darparu ar gyfer paratoi adroddiadau blynyddol mewn perthnas â fforymau.

Mae Rheoliad 17 yn darparu ar gyfer darparu gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas ag aelodaeth a gweithgareddau fforymau.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources