Cynal cyfarfodydd fforwm

15.—(1Mae cyfarfod cyntaf y fforwm ar ôl y cyfarfod y daw penodiad holl aelodau'r fforwm yn weithredol ynddo (naill ai pan sefydlir y fforwm neu pan benodir aelodau ar ôl i aelodaeth yr holl aelodau ddod i ben o dan reoliad 4(3)) i ddigwydd yn yr amser a'r lle a benderfynir gan yr awdurdod penodi, mae ei agenda i'w benderfynu gan yr awdurdod penodi, ac mae'r Ysgrifennydd i lywyddu arno, ond wedyn gall y fforwm gyfarfod bob hyn a hyn fel y gwêl yn dda, ond rhaid iddo gyfarfod o leiaf ddwywaith ymhob cyfnod o 12 mis wedi'i gyfrifo drwy gyfeirio at y dyddiad pan sefydlwyd ef.

(2Gellir cynnal cyfarforydd y fforwm ar unrhyw ddyddiau a lle y bydd yr aelodau yn cytuno arnynt a rhaid iddynt fod yn agored i'r cyhoedd oni fydd y person sy'n llywyddu yn dyfarnu bod eitem benodol o fusnes i'w hystyried mewn cyfarfod yn ei gwneud yn briodol i'r cyhoedd gael eu gwahardd pan ystyrir yr eitem fusnes honno.

(3Mewn unrhyw gyfarfod o'r fforwm, y person sydd i lywyddu (y “person sy'n llywyddu” ) yw'r canlynol, yn ddarostyngedig i reoliad 12(3)—

(a)y Cadeirydd, os yw'n bresennol;

(b)os yw'r Cadeirydd yn absennol, y Dirprwy Gadeirydd; neu

(c)os yw'r Cadeirydd a'r Dirprwy Gadeirydd yn absennol, unrhyw aelod y mae'r aelodau sy'n bresennol yn ei ddewis.

(4Ni chynhelir unrhyw fusnes gan y fforwm onid yw nifer yr aelodau sy'n bresennol, heb gynnwys y person sy'n llywyddu, yn fwy na thraean o'r aelodaeth lawn.

(5Yn ddarostyngedig i unrhyw beth i'r gwrthwyneb a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, neu i unrhyw ganllawiau a roddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 94(6)(c) o'r Ddeddf, gall fforwm reoleiddio ei weithdrefn ei hun.

(6Ni fydd trafodion unrhyw gyfarfod yn cael eu hannilysu os bydd unrhyw berson sydd â hawl i'w cael yn methu â chael unrhyw hysbysiad neu ddogfennau eraill sy'n berthnasol i'r cyfarfod o dan sylw y mae'n ofynnol iddynt fel arall gael eu cyflwyno neu eu hanfon o dan y Rheoliadau hyn.

(7Rhaid paratoi cofnodion trafodion unrhyw gyfarfod (ac mae'n rhaid iddynt gynnwys enwau'r aelodau hynny sy'n bresennol ac yn absennol), eu cyflwyno i'w cytuno yn y cyfarfod nesaf a'u llofnodi gan y person sy'n llywyddu yn y cyfarfod nesaf hwnnw.

(8Gall y Cadeirydd wahodd sylwebyddion a/neu gynghorwyr i gyfarfod, a chaiff y sawl a wahoddir, os yw'r person sy'n llywyddu yn ystyried hynny'n briodol, gyfrannu at drafodion y fforwm.

(9Gall cynrychiolydd o'r Cynulliad Cenedlaethol a/neu Gyngor Cefn Gwlad Cymru, ac unrhyw swyddog o awdurdod (mewn perthynas â'r fforwm o dan sylw) sy'n awdurdod penodi, fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod o'r fforwm, neu o bwyllgor a sefydlir gan y fforwm hwnnw, fel sylwebydd.

(10Pan fydd y person sy'n llywyddu yn ystyried ei bod yn briodol pleidleisio ynghylch unrhyw gwestiwn, rhaid i'r person sy'n llywyddu ffurfio'r cwestiwn hwnnw, yn ysgrifenedig os gofynnir amdano, a phleidleisir drwy i'r aelodau sy'n bresennol godi llaw (ac eithrio nad oes gan y person sy'n llywyddu yr hawl i bleidleisio onid yw'r pleidleisiau'n gyfartal, ac os felly mae'r person sy'n llywyddu i gael pleidlais fwrw).