- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Oni nodir yn wahanol, yn y Rheoliadau hyn:
ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw'r adroddiad a baratoir gan yr awdurdod perthnasol o dan reoliad 16(1);
mae i “awdurdod penodi” (“appointing authority”) yr ystyr a roddir i “appointing authority” yn adran 94(2) o'r Ddeddf ond mae'n cynnwys, pan fo'r cyd-destun yn mynnu hynny, un neu ragor o awdurdodau penodi yn gweithredu ar y cyd mewn perthynas â fforwm a sefydlir o dan reoliad 3(5) yn unol ag unrhyw drefniadau y cytunir arnynt rhwng yr awdurdodau penodi perthnasol at y diben hwnnw;
ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000;
ystyr “fforwm” (“forum”) yw fforwm mynediad lleol a sefydlir o dan adran 94(1) o'r Ddeddf gan gynnwys fforwm mynediad ar y cyd a sefydlir mewn dull tebyg;
mae i “hawliau tramwy lleol” (“local rights of way”) yr ystyr a roddir i “local rights of way” yn adran 95(3) o'r Ddeddf;
mae i “y person sy'n llywyddu” (“person presiding”) yr ystyr a roddir i “person presiding” yn rheoliad 15(3);
mae i “tir mynediad” (“access land”) yr ystyr a roddir i “access land” yn adran 1(1) o'r Ddeddf.
(2) Onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: