Sefydlu fforwm3

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i awdurdod penodi sefydlu fforwm neu fforymau ar gyfer yr ardal gyfan y mae'n awdurdod penodi iddi.

2

Gall awdurdod penodi naill ai sefydlu un fforwm ar gyfer yr holl ardal y mae'n awdurdod penodi iddi neu, fel arall, nifer o fforymau, a phob un ar gyfer rhan o'r ardal y mae'n awdurdod penodi iddi fel y gwêl yn dda.

3

Nid yw'r ddyletswydd a osodir ar awdurdod penodi gan baragraff (1) yn gymwys i'r ardal y mae'n awdurdod penodi ar ei chyfer neu i ran o'r ardal honno os oes cyfarwyddyd mewn grym mewn perthynas â'r ardal neu'r rhan honno o'r ardal wedi'i roi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 94(8) o'r Ddeddf.

4

Rhaid i'r awdurdod penodi gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) o fewn un flwyddyn galendr o'r dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

5

Gall awdurdod penodi, mewn perthynas ag unrhyw ardal y mae'n awdurdod penodi ar ei chyfer neu ran o'r ardal honno, gyflawni'r ddyletswydd a osodir gan baragraff (1) drwy benodi fforwm ar y cyd gydag un neu fwy o awdurdodau penodi eraill, yn unol ag unrhyw drefniadau y bydd yn eu gwneud gydag awdurdod neu awdurdodau penodi eraill o'r fath, mewn perthynas ag ardal sy'n cynnwys yr ardal honno neu ran o'r ardal honno.

6

Os bydd yr awdurdod penodi o'r farn ei bod yn briodol sefydlu fforwm ar gyfer rhan o'i ardal, rhaid iddo, wrth ystyried yr ardal y mae'r fforwm i'w chynnwys, ymgynghori ag unrhyw awdurdodau lleol a chyrff eraill y gwêl yn dda.