Search Legislation

Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 4003 (Cy.331)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

13 Rhagfyr 2001

Yn dod i rym

1 Medi 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

(i)

ar ôl ymgynghori â'r pwyllgor a sefydlwyd(1) o dan adran 140(5) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(2);

(ii)

ar ôl cyhoeddi hysbysiad yn y London Gazette yn unol ag adran 140(6)(b) o'r Ddeddf honno;

(iii)

ar ôl ystyried y sylwadau a gyflwynwyd yn unol â'r hysbysiad hwnnw;

o'r farn ei bod yn briodol gwneud y Rheoliadau hyn er mwyn atal y sylweddau neu'r eitemau a bennir ynddynt rhag llygru'r amgylchedd a niwedio iechyd anifeiliaid, ac felly, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 140 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990(3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Cyfyngu'r Defnydd ar Beledi Plwm) (Cymru) 2001 ac maent yn dod i rym ar 1 Medi 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  —Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “aderyn gwyllt” (“wild bird”) yw unrhyw aderyn o fath sy'n preswylio'n gyffredin yng Nghymru yn gyffredinol, neu sy'n ymweld â Chymru, mewn cyflwr gwyllt.

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu unrhyw berson y mae swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn wedi'u dirprwyo iddynt yn unol ag adrannau 62 neu 63 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4);

  • ystyr “gwn cetris” (“shot gun”) yw gwn â baril llyfn ond nid yw'n cynnwys unrhyw wn cetris â siambr ar gyfer cetris ymyl-danio naw milimetr neu lai;

  • ystyr “peledi plwm” (“lead shot”) yw unrhyw beledi sydd wedi'u gwneud—

    (a)

    o blwm, neu

    (b)

    o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r gyfansoddyn hwnnw;

  • ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd o dan reoliad 4(1) isod;

  • mae “safle” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, cerbyd neu gwch, ond nid yw'n cynnwys safle sy'n cael ei ddefnyddio ddibenion preswyl;

  • ystyr “safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig” (“site of special scientific interest”) yw ardal sydd wedi ei hysbysu o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(5);

Gwahardd defnyddio cetris sy'n cynnwys peledi plwm

3.  Ni chaiff neb ddefnyddio peledi plwm er mwyn saethu gyda gwn cetris—

(a)ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;

(b)ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu

(c)unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau.

Pwerau mynediad er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau

4.—(1Gall person sy'n ymddangos yn addas i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei awdurdodi yn ysgrifenedig gan y Cynulliad Cenedlaethol i arfer, yn unol â thelerau'r awdurdod, unrhyw un o'r pwerau a bennir ym mharagraff (2) isod at ddiben penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn.

(2Dyma'r pwerau y gall person awdurdodedig gael ei awdurdodi i'w harfer o dan baragraff (1) uchod—

(a)mynd i mewn ar unrhyw adeg resymol i unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig le i gredu ei bod yn angenrheidiol mynd i mewn iddo;

(b)wrth fynd i mewn i unrhyw safle yn rhinwedd ag is-baragraff (a) uchod bod gydag ef:

(i)unrhyw berson awdurdodig arall;

(ii)os bydd sail resymol dros ddisgwyl unrhyw rwystr difrifol a fyddai'n atal y person awdurdodedig rhag cyflawni ei ddyletswydd, gwnstabl; ac

(iii)unrhyw gyfarpar (heblaw cyfarpar trwm) neu ddefnyddiau y mae eu hangen at unrhyw ddiben mae'r pŵer mynediad ar ei gyfer;

(c)wneud unrhyw archwiliad ac ymchwiliad sy'n angenrhediol o dan yr amgylchiadau;

(ch)cymryd unrhyw aderyn gwyllt sy'n farw neu wedi'i anafu neu beri bod samplau yn cael eu cymryd o unrhyw eitemau neu sylweddau sy'n cael eu darganfod mewn neu ar unrhyw safle y mae gan y person awdurdodedig bŵ er i fynd i mewn iddo ac i beri bod unrhyw aderyn neu sampl felly yn cael ei ddadansoddi neu'i brofi;

(d)yn achos unrhyw aderyn neu sampl a grybwyllir yn is-baragraff (ch) uchod, cymryd meddiant ohono a'i gadw gyhyd ag y mae ei angen at y cyfan neu unrhyw rai o'r dibenion canlynol, sef:

(i)ei archwilio, neu beri iddo gael ei archwilio, ac i wneud unrhyw beth iddo y mae gan y person awdurdodedig bŵ er i'w wneud o dan yr is-baragraff hwnnw neu beri i hynny gael ei wneud;

(ii)i sicrhau na fydd neb yn ymyrryd ag ef cyn bod yr archwiliad ohono wedi'i gwblhau;

(iii)sicrhau ei fod ar gael i'w ddefnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos llys ar gyfer tramgwydd;

(3Pan fydd person awdurdodedig yn bwriadu mynd i mewn i unrhyw safle a—

(a)bod mynediad wedi cael ei wrthod a bod y person awdurdodedig yn disgwyl ar seiliau rhesymol y gall fod yn angenrheidiol defnyddio grym i lwyddo i fynd mewn; neu

(b)bod y person awdurdodedig yn disgwyl, ar seiliau rhesymol, y bydd mynediad yn debyg o gael ei wrthod ac y gall fod yn angenrheidiol i ddefnyddio grym i lwyddo i fynd i mewn,

rhaid mynd i mewn i'r safle hwnnw yn rhinwedd y rheoliadau hyn o dan awdurdod gwarant yn rhinwedd paragraff (4) isod yn unig.

(4Os dangosir i ynad heddwch drwy dystiolaeth ysgrifenedig ar lw—

(a)bod yna seiliau rhesymol dros arfer, mewn perthynas ag unrhyw safle, bŵ er o dan y rheoliad hwn (gan gynnwys pŵer sy'n arferadwy yn unol â gwarant o dan y paragraff hwn), a

(b)bod un neu fwy o'r amodau a bennir ym mharagraff (5) isod wedi ei gyflawni,

gall yr ynad awdurdodi'r Cynulliad Cenedlaethol trwy warant i ddynodi person a awdurdodir i arfer y pŵer mewn perthynas â'r safle, yn unol â'r warant a thrwy rym os bydd angen.

(5Yr amodau a grybwyllir yn is-baragraff (4)(b) uchod yw—

(a)bod arfer y pŵer mewn perthynas â'r safle wedi'i wrthod;

(b)y disgwylir yn rhesymol y bydd yn cael ei wrthod;

(c)bod y safle heb ei feddiannu;

(ch)bod y meddiannydd yn absennol dros dro o'r safle a bod yr achos yn un brys; neu

(d)y byddai cais am fynediad i'r safle yn trechu diben y mynediad arfaethedig.

(6Bydd pob gwarant a rodddwyd o dan baragraff (4) uchod yn parhau mewn grym nes bod y dibenion y rhoddwyd y gwarant ar eu cyfer wedi eu cyflawni.

(7Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, ddangos tystiolaeth am yr awdurdod neu'r dynodiad (os gofynnir iddo wneud hynny).

(8Rhaid i berson awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, sydd, trwy arfer unrhyw bŵ er a roddir gan y rheoliad hwn, yn mynd i mewn i unrhyw safle nad yw wedi'i feddiannu neu y mae ei feddiannydd yn absennol dros dro, adael y safle wedi ei sicrhau yn erbyn tresmaswyr yr un mor effeithiol â chyn i'r person hwnnw fynd i mewn iddo.

(9Ni fydd person awdurdodedig, neu berson a ddynodwyd o dan baragraff (4) uchod, yn atebol mewn unrhyw achos sifil na throseddol am unrhyw beth a wnaed trwy honni arfer unrhyw bŵ er a roddir gan y rheoliad hwn os bydd y llys wedi'i fodloni bod y weithred wedi ei chyflawni'n ddidwyll a bod seiliau rhesymol dros ei chyflawni.

Tramgwyddau

5.—(1Bydd unrhyw berson sy'n torri rheoliad 3 uchod neu sy'n peri neu'n caniatáu i unrhyw berson arall dorri'r rheoliad hwnnw yn euog o dramgwydd a bydd yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(2Bydd unrhyw berson sy'n fwriadol yn rhwystro person sy'n gweithredu trwy arfer unrhyw bŵ er o dan reoliad 4 uchod yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Rhagfyr 2001

Rheoliad 3(b)

ATODLEN 1SAFLEOEDD O DDIDDORDEB GWYDDONOL ARBENNIG

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol ArbennigDyddiad Dynodi o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981Lleoliad (Cyfeirnod Grid OS) (gweler y nodyn isod)
Nodyn: Mae cyfeirnod Grid Cenedlaethol yr Arolwg Ordnans yn rhoi pwynt o fewn y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Angle Bay04/03/1993SM883025
Beddmynach-Cymyran25/09/1998SH275790
Broadwater13/01/1993SH582027
Burry Inlet and Loughor Estuary25/09/1989SS135985
Carew and Cresswell Rivers04/03/1993SN025055
Cosherton Pill04/03/1993SM990036
Daugleddau04/03/1993SN003116
Dee Estuary23/09/1998SJ220800
Dyfi14/03/1995SN635950
Flatholm10/03/1993ST220649
Gronant Dunes / Talacre Warren29/01/1998SJ100847
Inner Marsh Farm11/02/1995SJ307735
Laugharne and Pendine Burrows18/02/1990SN290070
Llyn Alaw29/03/1985SH390865
Llyn Syfaddan / Llangorse Lake09/02/1983SO133265
Llyn Traffwll18/02/1986SH325770
Llynnoedd y Fali / Valley Lakes22/05/1986SH310770
Morfa Harlech25/05/2001SH570660
Ynys Llanddwyn / Newborough Warren09/03/1995SH400640
Pembrey Coast10/11/1983SN316054
Pembroke River and Pwll Crochan Flats04/03/1993SM940025
Severn Estuary02/02/1989ST226758
Shotton Lagoon and Reedbeds19/10/1999SJ298709
Sully Island16/12/1986ST167670
Teifi Estuary08/12/1997SN158502
SN785675
Traeth Lafan24/09/1984SH630750
Whiteford Burrows and Landimore Marsh04/04/1984SS450955

Rheoliad 3(c)

ATODLEN 2ADAR GWYLLT MEWN PERTHYNAS Å HWY Y MAE'R GWAHARDDIAD AR SAETHU Å PHELENNI PLWM YN GYMWYS IDDYNT

Enw CyffredinEnw Gwyddonol/
Nodyn: Mae'r enw neu'r enwau cyffredin yn cael eu cynnwys fel canllaw yn unig; os bydd unrhyw anghydfod neu achos, rhaid peidio a chymryd yr enw neu'r enwau cyffredin i ystyriaeth.
CwtiarFulica Atra
Hwyaid a Gwyddau (holl rywogaethau pob un ohonynt)Anatidae
Iâr Ddŵ rGallinula chloropus

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwahardd defnyddio peledi plwm ar gyfer saethu â gwn cetris—

(a)ar unrhyw fan islaw'r marc penllanw neu drosti;

(b)ar y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a gynhwysir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau neu drostynt; neu

(c)unrhyw aderyn gwyllt a gynhwysir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau sef hwyaid a gwyddau (pob rhywogaeth o bob un ohonynt), cwtiar ac iâr ddŵ r (rheoliad 3).

Ystyr “peledi plwm” yw unrhyw beledi o blwm neu o unrhyw aloi neu gyfansoddyn plwm a phlwm yn ffurfio mwy nag 1% o'r aloi neu'r cyfansoddyn (rheoliad 2).

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer pwerau mynediad ac archwilio, pŵer i gymryd samplau, a phŵer i gymryd unrhyw adar meirw neu rai sydd wedi'u hanafu, er mwyn penderfynu a dorrwyd unrhyw ddarpariaethau'r Rheoliadau.

Mae Rheoliad 5 yn darparu bod torri rheoliad 3, neu rwystro person sy'n arfer unrhyw bŵ er o dan reoliad 4, yn dramgwydd troseddol y gellir ei gosbi drwy ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

Cofrestrir hysbysiadau o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig o dan adran 28(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 fel pridiannau tir lleol (adran 28(9) o'r Ddeddf honno).

Gellir cael manylion o'r ardaloedd sy'n cael eu cynnwys yn y safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig a restrir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau oddi wrth Gyngor Cefn Gwlad Cymru, Plas Penrhos, Ffordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2LQ.

(3)

Trosglwyddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999 Rhif 672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources