Search Legislation

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 4006 (Cy.332)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

13 Rhagfyr 2001

Yn dod i rym

11 Ionawr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(2) a 4(1) a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(2) fel y'i hymestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(3) yn gwneud y Rheoliadau Canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion a Ragnodir) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac ni fyddant yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau am grant a wnaed cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym.

Diwygio

2.  Yn y ffurflen (Saesneg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996(4)):

(a)ar ôl cwestiwn 3.34A(5) mewnosodwch—

3.34B  Please give details of any vCJD trust payment made to you, your partner or a member of your family or any payment made to you, your partner or a member of your family by another person or from another person’s estate which is made from a vCJD trust payment received by that other person. Note 90E;

(b)ar ôl nodyn 90D, mewnosodwch—

90E.  A vCJD trust payment is a payment made, from trusts set up by the Department of Health, to those who contracted variant Creutzfeldt-Jakob disease (vCJD) and their immediate families.

  • For the purpose of deciding whether someone is a member of your family, “family” means:

    (a)

    a married or unmarried couple;

    (b)

    a married or unmarried couple and a member of the same household for whom one of them is or both are responsible and who is a child or a young person;

    (c)

    a person who is not a member of a married or unmarried couple and a member of the same household for whom that person is responsible and who is a child or young person.

  • A payment made to the victim of vCJD or the victim’s partner or surviving partner is disregarded for that person’s lifetime.

  • A payment made to the parent of a vCJD victim, regardless of the age of the victim, or to a person who is or was acting in the place of a parent of a dependant child victim, is disregarded for 2 years from the date the payment was made to them.

  • Payments made to dependant children or young persons are disregarded for the period from the date of payment until the day before they leave full time education or the day before their 19th birthday or for 2 years from the date of payment, whichever is the latest date..

3.  Yn y ffurflen (Gymraeg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998(6):

(a)ar ôl cwestiwn 3.34A mewnosodwch—

3.34B  Rhowch fanylion unrhyw daliad o'r ymddiriedolaeth vCJD sydd wedi'i dalu i chi, i'ch partner neu i aelod o'ch teulu neu fanylion unrhyw daliad sydd wedi'i dalu i chi, i'ch partner neu i aelod o'ch teulu gan berson arall neu o ystad person arall ac sydd wedi'i dalu o daliad o'r ymddiriedolaeth vCJD a gafodd y person arall hwnnw. Nodyn 90E;

(b)yn dilyn nodyn 90D mewnosodwch—

90E  Taliad o'r ymddiriedolaeth vCJD yw taliad sy'n cael ei dalu, o ymddiriedolaethau sydd wedi'u sefydlu gan yr Adran Iechyd, i'r rhai a gafodd amrywiolyn clefyd Creutzfeldt-Jakob (vCJD) a'u teuluoedd agos.

  • Er mwyn penderfynu a yw rhywun yn aelod o'ch teulu, ystyr “teulu” yw:

    (a)

    pâr priod neu bâr dibriod;

    (b)

    pâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae un ohonynt neu'r ddau ohonynt yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc;

    (c)

    person nad yw'n aelod o bâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae'r person hwnnw yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc.

  • Mae taliad sydd wedi'i dalu i ddioddefwr vCJD neu i bartner y dioddefwr neu i bartner sydd wedi'i oroesi yn cael ei anwybyddu drwy gydol oes y person hwnnw.

  • Mae taliad sydd wedi'i dalu i riant dioddefwr vCJD, ni waeth beth fo oedran y dioddefwr, neu i berson sydd neu a oedd yn gweithredu yn lle rhiant i blentyn dibynnol sy'n ddioddefwr, yn cael ei anwybyddu am 2 flynedd o'r dyddiad y cafodd y taliad ei dalu iddynt.

  • Mae taliadau sydd wedi'u talu i blant neu bersonau ifanc dibynnol yn cael eu hanwybyddu drwy gydol y cyfnod o ddyddiad y taliad tan y diwrnod cyn iddynt ymadael ag addysg amser-llawn neu'r diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 19 oed neu am 2 flynedd o ddyddiad y taliad, p'un bynnag yw'r dyddiad olaf..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cendlaethol

13 Rhagfyr 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (O.S. 1998/1113 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996 (O.S. 1996/2891 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/4007(Cy.333)) i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890) ac maent yn ymwneud ag unrhyw daliadau o ymddiriedolaeth vCJD a delir i geisydd.

Mae'r diwygiadau'n ymwneud â thaliadau arbennig a delir i ddioddefwyr amrywidyn clefyd Creutzfeldt Jakob a'u teuluoedd agosaf.

(1)

Gweler y diffiniad o “prescribed” yn adran 101.

(2)

1996 p.53; gweler erthygl 2 o ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(5)

Mewnosodwyd cwestiwn 3.34A gan O.S.2001/2071(Cy.143)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources