Amendments3

In the (Welsh language) form set out in the Schedule to the Relocation Grants (Form of Application) (Welsh Form of Application) Regulations 19996:

a

after question 4.34A insert:

4.34B

Rhowch fanylion unrhyw daliad o'r ymddiriedolaeth vCJD sydd wedi'i dalu i chi, i'ch partner neu i aelod o'ch teulu neu fanylion unrhyw daliad sydd wedi'i dalu i chi, i'ch partner neu i aelod o'ch teulu gan berson arall neu o ystad person arall ac sydd wedi'i dalu o daliad o'r ymddiriedolaeth vCJD a gafodd y person arall hwnnw. Nodyn 50E

b

after note 50D insert:

50E

Taliad o'r ymddiriedolaeth vCJD yw taliad sy'n cael ei dalu, o ymddiriedolaethau sydd wedi'u sefydlu gan yr Adran Iechyd, i'r rhai a gafodd amrywiolyn clefyd Creutzfeldt-Jakob (vCJD) a'u teuluoedd agos.

  • Er mwyn penderfynu a yw rhywun yn aelod o'ch teulu, ystyr “teulu” yw:

    1. a

      pâr priod neu bâr dibriod;

    2. b

      pâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae un ohonynt neu'r ddau ohonynt yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc;

    3. c

      person nad yw'n aelod o bâr priod neu bâr dibriod ac aelod o'r un aelwyd y mae'r person hwnnw yn gyfrifol amdano ac sy'n blentyn neu'n berson ifanc.

  • Mae taliad sydd wedi'i dalu i ddioddefwr vCJD neu i bartner y dioddefwr neu i bartner sydd wedi'i oroesi yn cael ei anwybyddu drwy gydol oes y person hwnnw.

  • Mae taliad sydd wedi'i dalu i riant dioddefwr vCJD, ni waeth beth fo oedran y dioddefwr, neu i berson sydd neu a oedd yn gweithredu yn lle rhiant i blentyn dibynnol sy'n ddioddefwr, yn cael ei anwybyddu am 2 flynedd o'r dyddiad y cafodd y taliad ei dalu iddynt.

  • Mae taliadau sydd wedi'u talu i blant neu bersonau ifanc dibynnol yn cael eu hanwybyddu drwy gydol y cyfnod o ddyddiad y taliad tan y diwrnod cyn iddynt ymadael ag addysg amser-llawn neu'r diwrnod cyn eu pen-blwydd yn 19 oed neu am 2 flynedd o ddyddiad y taliad, p'un bynnag yw'r dyddiad olaf.?C?