- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Wedi'u gwneud
20 Rhagfyr 2001
Yn dod i rym
7 Ionawr 2002
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Monitro BSE (Diwygio) (Cymru) 2001, maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 7 Ionawr 2002.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001(3) yn unol â'r darpariaethau canlynol yn y rheoliad hwn.
(2) Diwygir rheoliad 2(1) fel a ganlyn—
(a)ar ôl diffiniad “milfeddyg” rhoddir y diffiniad canlynol—
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1248/2001(4)) sy'n diwygio Atodiadau III, X ac XI i Reoliad (EC) Rhif 999/2001(5) ynghylch arolygu epidemiolegol a phrofi enseffalopathïau sbyngffurf buchol;”;
(b)diddymir diffiniad “Penderfyniadau'r Comisiwn”;
(c)yn lle diffiniad “anifail buchol hysbysadwy” rhoddir y diffiniad canlynol—
“ystyr “anifail buchol hysbysadwy” (“a notifiable bovine animal”) yw anifail buchol dros 24 mis oed sydd wedi marw neu sydd wedi'i ladd ond na chafodd—
ei ladd er mwyn ei ddifa yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/1996(6);
ei ladd yn fframwaith epidemic megis clwy'r traed a'r genau; neu
ei gigydda i bobl ei fwyta;”; ac
(ch)yn niffiniad “safle”, ar ôl y geiriau “i'r cyhoedd,” mewnosodir y geiriau canlynol—
“gan gynnwys unrhyw le y gall carcasau anifeiliaid buchol neu rannau o garcasau o'r fath gael eu cadw”.
(3) Yn lle paragraff (2) o reoliad 2 rhoddir y paragraff canlynol—
“(2) Mae i'r ymadroddion yn y Rheoliadau hyn nad ydynt wedi'u diffinio ym mharagraff (1) uchod ac sydd i'w gweld yn Rheoliadau'r Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt at ddibenion Rheoliad y Comisiwn y maent i'w gweld ynddo.”.
(4) Yn rheoliad 3—
(a)yn lle'r pennawd rhoddir y canlynol—
(b)ym mharagraff (1) a pharagraff (4) diddymir yr ymadrodd “neu garcas anifail o'r fath,”;
(c)yn lle paragraff (2) rhoddir y paragraff canlynol—
“(2) Rhaid i unrhyw filfeddyg neu berson arall sydd, yng nghwrs ei ddyletswyddau yn archwilio neu'n arolygu unrhyw anifail buchol hysbysadwy, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn 24 awr beth bynnag o'r adeg y bydd yr anifail yn marw neu y mae'r carcas yn cael ei archwilio neu ei arolygu, roi gwybod am y ffaith i'r Cynulliad Cenedlaethol neu, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penodi asiant i dderbyn hysbysiadau ar ei ran o dan y rheoliad hwn, i'r asiant hwnnw.”
(5) Ym mharagraff (1) o reoliad 4 (Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc.) dileir y canlynol “(gan gynnwys unrhyw safle, neu unrhyw ran o safle, sy'n cael eu meddiannu fel annedd breifat)”.
(6) Ym mharagraff (2) o reoliad 4 (Pwerau mynediad, pwerau archwilio a chwilio a samplu etc.) dileir y canlynol “(heblaw unrhyw safle sy'n cael ei feddiannu fel annedd breifat)”.
(7) Yn is-baragraff 4(f) o reoliad 4 yn lle'r geiriau “Phenderfyniadau'r Comisiwn” rhoddir y geiriau “Rheoliad y Comisiwn”.
3.—(1) Diwygir Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(7) drwy roi'r diffiniad canlynol yn lle diffiniad “notifiable bovine animal”—
““notifiable bovine animal” means a bovine animal over 24 months of age which has died or has been killed but which was not—
killed for destruction pursuant to Commission Regulation (EC) No. 716/1996;
killed in the framework of an epidemic such as foot and mouth disease; or
slaughtered for human consumption;”.
(2) Diwygir Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000(8) drwy roi'r diffiniad canlynol yn lle diffiniad “anifail buchol hysbysadwy”—
“ystyr “anifail buchol hysbysadwy” (“notifiable bovine animal”) yw anifail buchol dros 24 mis oed sydd wedi marw neu sydd wedi'i ladd ond na chafodd—
ei ladd er mwyn ei ddifa yn unol â Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/1996;
ei ladd yn fframwaith epidemig megis clwy'r traed a'r genau; neu
ei gigydda i bobl ei fwyta;”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Rhagfyr 2001
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Monitro BSE (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2360 (Cy. 197)).
Mae'r diwygiadau'n rhoi eu heffaith i'r rhwymedigaethau a geir yn erthygl 1.1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1248/2001 (OJ Rhif L173, 27.6.2001, t.12) sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1) ynghylch arolygu epidemiolegol a phrofi enseffalopathïau sbyngffurf buchol.
Mae'r rhain yn ei gwneud yn ofynnol i'r Aelod-wladwriaethau sicrhau bod categorïau penodol o anifeiliaid buchol dros 24 mis oed yn cael eu harchwilio yn unol â'r isafswm gofynion sydd wedi'i bennu ar gyfer monitro BSE. Mae diffiniad “anifail buchol hysbysadwy” wedi'i ddiwygio yn sgil hyn er mwyn adlewyrchu'r newid yn oedran yr anifeiliaid y mae'r rhwymedigaeth yn gymwys iddynt.
Mae diwygiad yn cael ei wneud hefyd i baragraffau (1) a (4) o reoliad 3 i ddileu'r ymadrodd diangen “neu garcas anifail o'r fath,” ac mae paragraff (2) wedi'i amnewid yn sgil hynny. Mae rheoliad 4 a'r diffiniad o “safle” wedi'u diwygio er mwyn rhoi pwer i arolygwyr fynd i bob safle lle mae carcasau anifeiliaid neu rannau o garcasau o'r fath yn cael eu cadw.
O ganlyniad i'r diffiniad o “anifail buchol hysbysadwy” mae diwygiadau'n cael eu gwneud i Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/2969, O.S. 1999/1339 ac O.S. 2001/2360) (Cy. 197) a Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3339 (Cy. 217), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2360 (Cy. 197)).
OJ Rhif L173, 27.6.2001, t.12.
OJ Rhif L 147, 31.5.2001, t.1.
OJ Rhif L99, 20.4.1996, t.14.
O.S. 1998/871, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/2969, O.S. 1999/1339 ac O.S. 2001/2360 (Cy. 197).
O.S. 2000/3339 (Cy. 217), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2360 (Cy. 197).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: