Search Legislation

Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

More Resources

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 495 (Cy. 22 )

ADDYSG , CYMRU

Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

15 Chwefror 2001

Yn dod i rym

1 Mawrth 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 46(2) a (3) a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir (Diwygio) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2001.

(2Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Ni fydd y diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ariannu ysgolion a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2001.

Diwygio Rheoliadau

2.—(1Mae Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2(1)(b) yn lle “28(a) to (d)” rhowch “28(a), (b) and (d)”.

(3Yn rheoliad 3, dilëwch yr “and” yn union o flaen paragraff (f) ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosodwch —

(g)expenditure in connection with the administration of committees dealing with education; and

(h)expenditure in connection with external audit..

(4 Yn Atodlen 2, ym mharagraff 28 hepgorwch is-baragraff (c) ac yn lle is-baragraff (d) rhowch “(d) revenue budget preparation and the production and publication of accounts.”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Chwefror 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Ariannu Ysgolion a Gynhelir 1999 (sydd erbyn hyn yn gymwys i Gymru yn unig), a hynny i weithredu penderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol nad yw'n briodol i wariant ar weinyddiaeth pwyllgorau addysg na gwariant ar archwiliadau allanol gael eu cynnwys yng nghyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol. Gan hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 2 a 3 o Reoliadau 1999 (sy'n nodi pa wariant sydd wedi'i gynnwys a pha wariant sydd heb ei gynnwys yn y gyllideb honno) er mwyn adlewyrchu'r penderfyniad hwnnw.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Atodlen 2 i Reoliadau 1999 (sy'n pennu dosbarthiadau a disgrifiadau o wariant a all gael eu tynnu oddi ar gyllideb ysgolion lleol awdurdod addysg lleol er mwyn cyfrif eu cyllideb ysgolion unigol) a hynny i ddileu cyfeiriadau at y ddau gategori gwariant y cyfeirir atynt uchod.

(1)

1998 p.31. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 142(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1999/101 a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/911(Cy.40). Yn wreiddiol yr oedd y Rheoliadau hynny yn gymwys i Gymru a Lloegr ill dwy ond cawsant eu diddymu mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2000/478.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources