xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Y weithdrefn ar gyfer gwneud cais am daliadau sŵn

10.—(1Gall yr awdurdod ystyried cais am daliad sŵn os yw'n cael ei wneud yn ystod y cyfnod o chwe blynedd sy'n dechrau ar y diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cymhwyso.

(2Rhaid i gais am daliad sŵn gael ei gyflwyno yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)enw a chyfeiriad llawn y ceisydd ac unrhyw berson a awdurdodir i weithredu ar ran y ceisydd;

(b)cyfeiriad y cartref cymwys y mae'r cais yn cael ei wneud mewn perthynas ag ef;

(c)manylion maint a natur adeiladwaith y cartref cymwys;

(ch)a yw'r ceisydd yn meddiannu'r cartref cymwys fel prif neu unig breswylfa adeg gwneud y cais ac os felly y dyddiad y dechreuodd y feddiannaeth honno;

(d)natur buddiant y ceisydd yn y cartref cymwys a'r dyddiad y cafwyd y buddiant hwnnw a thrwy ba fodd y'i cafwyd;

(dd)a yw'r cartref cymwys wedi'i leoli yn ystod y cyfnod pan oedd wedi'i feddiannu gan y ceisydd, mewn unrhyw fan heblaw'r un y mae wedi'i leoli ynddi ar y dyddiad y mae'r cais yn cael ei wneud ac os felly manylion y fan honno neu'r mannau hynny a'r dyddiadau yr oedd wedi'i leoli felly ynddynt;

(e)a oes gan y ceisydd, ar ddyddiad y cais, unrhyw fuddiant yn y tir y mae'r cartref cymwys wedi'i leoli arno neu, yn achos cwch preswyl y mae wedi'i fwrio neu wedi'i glynu'n sownd fel arall wrtho neu a fu ganddo fuddiant o'r fath ar unrhyw adeg yn ystod meddiannaeth y ceisydd ar y cartref cymwys fel unig neu brif breswylfa ac os felly manylion y buddiant hwnnw a dyddiad ei gaffael ac, os yw'n briodol, dyddiad ei waredu;

(f)manylion y gwaith perthnasol;

(ff)y dyddiad perthnasol;

(g)a yw'r cais yn gais am daliad sŵn o dan reoliad 3(1) neu o dan reoliad 3(3);

(3Rhaid i gais o dan y rheoliad hwn gael ei lofnodi gan y ceisydd a rhaid iddo ymgorffori datganiad gan y ceisydd fod yr wybodaeth y mae'n ei chynnwys yn gywir hyd eithaf gwybodaeth a chred y ceisydd.

(4Ni fernir bod cais o dan y rheoliad hwn wedi'i wneud oni bai ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth a ragnodir gan y rheoliad hwn a'i fod yn ymgorffori'r datganiad sy'n ofynnol gan baragraff (3) o'r rheoliad hwn ac ni fernir ei fod wedi'i wneud nes i'r awdurdod y bwriedir ei gyflwyno iddo ei gael mewn gwirionedd.