Y pŵ er i wneud taliadau sŵn

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw defnyddio priffordd berthnasol yn achosi sŵn, mewn perthynas â chartref cymwys, ar lefel heb fod yn llai na'r lefel benodedig neu y disgwylir iddo achosi sŵn o'r fath, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.

(2At ddibenion paragraff (1) o'r rheoliad hwn mae defnyddio priffordd berthnasol yn achosi sŵn ar lefel heb fod yn llai na'r lefel benodedig neu disgwylir iddo achosi sŵn o'r fath —

(a)os yw lefel sŵn berthnasol o leiaf 1 dB(A) yn fwy na'r lefel sŵn gyffredinol, a

(b)os yw sŵn sydd wedi'i achosi neu y disgwylir iddo gael ei achosi gan draffig sy'n defnyddio'r briffordd honno neu y disgwylir iddo ei defnyddio yn gwneud cyfraniad effeithiol at y lefel sŵn berthnasol o 1 dB(A) o leiaf.

(3Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy, os yw gwaith ar gyfer adeiladu neu newid priffordd ar unrhyw bryd ar ôl y dyddiad cychwyn, yn achosi sŵn ar lefel sydd, ym marn yr awdurdod, wedi cael effaith andwyol ddifrifol ar fwynhad cartref cymwys dros gyfnod di-dor o nid llai na chwe mis, caiff yr awdurdod wneud taliad o dan y paragraff hwn o'r rheoliad hwn.

(4Pan ddaw priffordd yn briffordd y gellir ei chynnal ar gost y cyhoedd o fewn ystyr adran 329(1) o Ddeddf Priffyrdd 1980(1) o fewn tair blynedd ar ôl y dyddiad perthnasol, caiff yr awdurdod priffyrdd ar gyfer y briffordd wneud taliad o dan baragraffau (1) neu (3) o'r rheoliad hwn mewn perthynas â chartref cymwys os byddai pŵ er i wneud hynny wedi codi petai'r briffordd wedi bod yn briffordd y gellid ei chynnal ar gost y cyhoedd ar y dyddiad perthnasol a phetai gwaith adeiladu neu newid y briffordd wedi'i gyflawni gan yr awdurdod priffyrdd hwnnw.

(5Cyfeirir at daliad o dan y rheoliad hwn fel “taliad sŵn” yn y Rheoliadau hyn.