Search Legislation

Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 643 (Cy. 32)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001

Wedi'i wneud

28 Chwefror 2001

Yn dod i rym

1 Mawrth 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 1 o Ddeddf Tir Ffermio a Datblygu Gwledig 1988(1) ac adrannau 28 a 29 o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(2) yn gwneud y Cynllun canlynol:

Teitl, cymhwyso a chychwyn

1.  Teitl y Cynllun hwn yw Cynllun Grantiau Ailstrwythuro'r Diwydiant Moch (Cymru) 2001, bydd yn gymwys i Gymru a daw i rym ar 1 Mawrth 2001.

Dehongli

2.—(1Yn y Cynllun hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “banc” (“bank”) yw

    (i)

    unrhyw sefydliad sydd am y tro wedi'i awdurdodi o dan Ddeddf Bancio 1987(3);

    (ii)

    unrhyw berson sydd am y tro wedi'i bennu mewn unrhyw un o baragraffau 2 i 10 o Atodlen 2 i'r Ddeddf honno (personau esempt),

    (iii)

    unrhyw berson y mae ganddo hawl am y tro, yn rhinwedd Rheoliadau Cydgysylltu Bancio (Ail Gyfarwyddeb y Cyngor) 1992(4)) i dderbyn adneuon (o fewn ystyr y Ddeddf) yn y Deyrnas Unedig;

  • ystyr “cynhyrchu moch” (“pig production”) yw unrhyw fath o gynhyrchu moch gan gynnwys bridio, magu a gorffen;

  • ystyr “cynllun busnes” (“business plan”) yw cynllun manwl sy'n nodi amcanion y busnes, y strategaeth a'r tactegau ar gyfer bodloni'r amcanion hynny, amcangyfrifon ynghylch amgylchiadau ariannol ac amgylchiadau eraill y busnes os digwydd i'r amcanion gael eu gwireddu a'r buddsoddi sy'n angenrheidiol i wireddu'r amcanion hynny; ac

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2Yn y Cynllun hwn, mae unrhyw gyfeiriad—

(a)at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y Cynllun hwn sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)at is-baragraff â rhif (heb gyfeiriad cyfatebol at baragraff penodol) yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y paragraff y gwelir y cyfeiriad ynddo.

Talu'r grantiau a symiau'r grantiau

3.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y Cynllun hwn, caiff y Cynulliad Cenedlaethol roi grant i unrhyw berson cymwys tuag at y gwariant a dynnir wrth dalu'r llogau ar y rhan berthnasol o fenthyciad cymwys.

(2At ddibenion y Cynllun hwn, benthyciad cymwys yw benthyciad sydd wedi'i gael, neu sydd i'w gael, oddi wrth fanc er mwyn gweithredu cynllun busnes ar gyfer ailstrwythuro busnes cynhyrchu moch.

(3At ddibenion y Cynllun hwn, y rhan berthnasol o fenthyciad cymwys, yn achos gwariant y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei fod yn wariant o natur gyfalaf neu'n wariant a dynnwyd mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf, yw'r rhan honno o'r benthyciad—

(a)sydd wedi'i thynnu neu sydd i'w thynnu at ddibenion rhedeg busnes cynhyrchu moch neu mewn cysylltiad â'i redeg; a

(b)sydd wedi'i gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion grant o dan y Cynllun hwn.

(4At ddibenion y Cynllun hwn, y rhan berthnasol o fenthyciad cymwys, yn achos gwariant y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol nad yw'n wariant o natur gyfalaf nac yn wariant wedi'i dynnu mewn cysylltiad â gwariant o natur gyfalaf, yw'r rhan honno o'r benthyciad cymwys sydd wedi'i thynnu neu sydd i'w thynnu at ddibenion ailstrwythuro, mewn cysylltiad ag ailstrwythuro neu mewn cysylltiad ag unrhyw gynigion ar gyfer ailstrwythuro, drwy'r canlynol—

(a)sefydlu neu ehangu busnes fferm sy'n atodol i fusnes cynhyrchu moch ac sy'n gysylltiedig â chynhyrchion cynhyrchu moch;

(b)hybu busnes fferm sy'n atodol i fusnes cynhyrchu moch ac sy'n ymwneud â chynhyrchion cynhyrchu moch; neu

(c)marchnata unrhyw beth sy'n cael ei gynhyrchu neu ei gyflenwi yng nghwrs busnes fferm sy'n atodol i fusnes cynhyrchu moch ac sy'n gysylltiedig â chynhyrchion cynhyrchu moch.

(5Os oes benthyciad wedi'i dynnu'n rhannol at ddibenion ailstrwythuro neu mewn cysylltiad ag ailstrwythuro busnes cynhyrchu moch ac yn rhannol at ddibenion eraill, at ddibenion grant o dan y paragraff hwn caiff y Cynulliad Cenedlaethol drin cymaint o'r benthyciad hwnnw ag y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y gellir ei gyfeirio at yr ailstrwythuro hwnnw fel benthyciad cymwys.

(6Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant o dan is-baragraff (1) uchod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau y mae'n rhesymol iddo eu pennu.

(7Ni chaiff unrhyw grant o dan y Cynllun hwn fod yn fwy na 5% o'r benthyciad cymwys (heb gynnwys y llogau sydd wedi cronni).

Personau cymwys

4.—(1Bydd y personau canlynol yn gymwys i gael grant o dan y Cynllun hwn—

(a)unigolyn sy'n rhedeg busnes cynhyrchu moch, y mae benthyciad cymwys wedi'i roi neu i'w roi iddo ac sy'n ymrwymo, os yw ei gais yn llwyddiannus, i fynd ar drywydd amcanion ei gynllun busnes;

(b)corff sy'n rhedeg busnes cynhyrchu moch, y mae benthyciad cymwys wedi'i roi neu i'w roi iddo ac y mae person sydd wedi'i awdurdodi'n briodol at y diben hwnnw yn ymrwymo ar ei ran i fynd ar drywydd amcanion y cynllun busnes os yw cais y corff yn llwyddiannus;

(c)personau sy'n rhedeg busnes cynhyrchu moch mewn partneriaeth, y mae benthyciad cymwys wedi'i roi neu i'w roi iddynt ac y mae'r ymrwymiad y mae paragraff (a) uchod yn gofyn i unigolyn ei roi yn cael ei roi ar eu rhan gan berson sydd wedi'i awdurdodi'n briodol at y diben hwnnw.

Hawliadau grant

5.  Rhaid i unrhyw hawliadau am grant o dan y Cynllun hwn gael eu gwneud ar y ffurf, yn y modd ac ar yr adeg y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt o dro i dro, a rhaid i'r hawliwr grant roi'r holl fanylion a'r holl wybodaeth ynghylch yr hawliad a chopïau o'r dogfennau a chofnodion sy'n gysylltiedig ag ef y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdanynt.

Dal y grant yn ôl neu ei adennill

6.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddal y cyfan neu unrhyw ran o grant sy'n daladwy o dan y Cynllun hwn yn ôl neu adennill ar gais swm sy'n gyfartal â'r taliad sydd wedi'i wneud o dan y Cynllun hwn, neu unrhyw ran ohono y gall ei phennu, os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)nad ydys yn cydymffurfio neu na chydymffurfiwyd ag unrhyw amod y mae'r grant i'w dalu neu wedi'i dalu odano;

(b)bod y person cymwys wedi rhoi gwybodaeth am unrhyw fater sy'n berthnasol i'w gymhwyster i gael grant o dan y Cynllun hwn, neu sy'n berthnasol i'r hawliad am daliad, sy'n ffug neu'n gamarweiniol mewn ystyr berthnasol; neu

(c)bod y person cymwys wedi methu â chydymffurfio â'i ymrwymiad i fynd ar drywydd amcanion ei gynllun busnes.

(2Cyn dal y cyfan neu unrhyw ran o grant yn ôl neu adennill unrhyw swm sy'n gyfartal â'r taliad sydd wedi'i wneud neu ran o'r taliad sydd wedi'i wneud o dan ddarpariaethau paragraff (1) uchod, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'r rhesymau am y camau y bwriedir eu cymryd i'r person y byddai unrhyw daliad grant yn daladwy iddo, neu y gellid adennill unrhyw swm o'r fath oddi arno;

(b)rhoi cyfle i'r person hwnnw ymddangos gerbron person a benodir at y diben gan y Cynulliad Cenedlaethol a chael ei wrando ganddo; ac

(c)ystyried adroddiad person a benodir felly a rhoi copi ohono i'r person a grybwyllir ym mharagraff (a) o'r paragraff hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Chwefror 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)

Mae'r Cynllun hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Mae'n gwneud darpariaeth ar gyfer talu grantiau tuag at gost benthyciadau a dynnwyd mewn cysylltiad â:

  • gwariant cyfalaf a dynnwyd at ddibenion, neu mewn cysylltiad â, rhedeg busnes cynhyrchu moch; a

  • gwariant nad yw o natur cyfalaf a dynnwyd at ddibenion, neu mewn cysylltiad â, sefydlu neu hybu busnesau fferm sydd yn atodol i fusnesau cynhyrchu moch ac sydd yn ymwneud â chynhyrchion cynhyrchu moch fel rhan o ail-strwythuro busnes cynhyrchu moch (paragraff 4).

Diffinir y personau hynny sy'n gymwys ar gyfer grantiau o dan y Cynllun ym mharagraff 4.

Mae'r Cynllun yn darparu y bydd hawliadau am grant i gael eu gwneud ar ffurf y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdanynt (paragraff 5) ac yn caniatau dal grant yn ôl neu ei adennill o dan rhai amgylchiadau (paragraff 6).

Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadol ynghylch y Cynllun hwn.

(1)

1998 p.16. Cafodd holl swyddogaethau un o Weinidogion y Goron o dan y Ddeddf hon, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(2)

1970 p.40; mae adran 28(1) yn diffinio “the appropriate authority” a “the appropriate Minister”. Cafodd holl swyddogaethau un o Weinidogion y Goron o dan adran 28 a 29, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources