xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 889 (Cy. 40)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) (Diwygio) 2001

Wedi'i wneud

8 Mawrth 2001

Yn dod i rym

1 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 356(2)(c), (5), (6) ac (8) a 568(5) a (6) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) (Diwygio) 2001 a daw i rym ar 1 Ebrill 2001.

Diwygio'r Gorchymyn

2.—(1Mae Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997(3) yn cael ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 3(1) yn lle “references to levels of attainment, attainment targets, end of key stage descriptions and programmes of study are references to the levels, targets, descriptions and programmes set out in the associated documents” rhowch “references to levels of attainment, attainment targets and programmes of study are to the levels, targets and programmes set out in the associated documents.”.

(3Yn lle erthygl 8 rhowch —

Teacher assessment: geography, history, art music and physical education

8.  In the case of geography, history, art, music and physical education, the purpose of the assessment shall be to determine the level of attainment achieved by the pupil in the subject, and the record of the results shall consist of a statement of that level..

(4Hepgorir erthygl 9.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997 yn sgîl newidiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol a ddaeth i rym yn Awst 2000. Cyn y newidiadau hynny, nid oedd darpariaeth ar gyfer mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion mewn celf, cerddoriaeth ac addysg gorfforol yng nghyfnod allweddol 3 drwy gyfrwng graddfa ffurfiol. Yn hytrach, i fesur cyraeddiadau disgyblion yng nghyfnod allweddol 3, yr oedd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys yr hyn a elwid “Disgrifiadau diwedd cyfnod allweddol” ar gyfer pob targed cyrhaeddiad. O dan y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd, mae yna ddarpariaeth erbyn hyn ar gyfer mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn y pynciau hyn drwy gyfrwng graddfa. Mae'r diwygiadau a wneir yn sgîl y Gorchymyn hwn i Orchymyn 1997 yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1997/2010 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/1976.