xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997 yn sgîl newidiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol a ddaeth i rym yn Awst 2000. Cyn y newidiadau hynny, nid oedd darpariaeth ar gyfer mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion mewn celf, cerddoriaeth ac addysg gorfforol yng nghyfnod allweddol 3 drwy gyfrwng graddfa ffurfiol. Yn hytrach, i fesur cyraeddiadau disgyblion yng nghyfnod allweddol 3, yr oedd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys yr hyn a elwid “Disgrifiadau diwedd cyfnod allweddol” ar gyfer pob targed cyrhaeddiad. O dan y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd, mae yna ddarpariaeth erbyn hyn ar gyfer mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn y pynciau hyn drwy gyfrwng graddfa. Mae'r diwygiadau a wneir yn sgîl y Gorchymyn hwn i Orchymyn 1997 yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.