Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2001

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 890 (Cy. 41)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2001

Wedi'u gwneud

8 Mawrth 2001

Yn dod i rym

1 Ebrill 2001

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan nad oes neb yr oedd yn ymddangos iddo y byddai'n ddymunol ymgynghori â hwy, yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 408 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) (Diwygio) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebril1 2001.

Diwygio Rheoliadau

2.—(1Mae Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997(3) yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 3(10), hepgorwch is-baragraff (c).

(3Yn rheoliad 6(2), hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (a) a'r cyfan o is-baragraff (b).

(4Ym mharagraff 3 o Atodlen 1, hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (1) a'r cyfan o is-baragraff (2).

(5Ym mharagraff 3 o Atodlen 2, hepgorwch “(other than art, music and physical education)” yn is-baragraff (2).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4))

D.Elis Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2001

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 o ganlyniad i newidiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol a ddaeth i rym ym mis Awst 2000. Cyn y newidiadau hynny, nid oedd darpariaeth ar gyfer mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion mewn celf, cerddoriaeth ac addysg gorfforol yng nghyfnod allweddol 3 drwy gyfrwng graddfa ffurfiol. Yn hytrach, i fesur cyraeddiadau disgyblion yng nghyfnod allweddol 3, yr oedd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys yr hyn a elwid “Disgrifiadau diwedd cyfnod allweddol” ar gyfer pob targed cyrhaeddiad. O dan y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd, mae yna ddarpariaeth erbyn hyn ar gyfer mesur lefel cyrhaeddiad disgyblion yn y pynciau hyn drwy gyfrwng graddfa. Mae'r diwygiadau a wneir yn sgîl y Rheoliadau hyn i Reoliadau 1997 yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.

(1)

1996 p.56. Diwygiwyd adran 408 gan baragraff 30(a) o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44) a chan baragraff 106 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31); ac fe'i diwygir yn rhagolygol ar ddyddiad i'w benodi gan baragraff 57 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21) . I gael ystyr “regulations” a “prescribed” gweler adran 579(1) o Ddeddf Addysg 1996.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources