Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Cyraeddiadau Disgyblion Unigol) (Gwybodaeth) (Cymru) 1997 o ganlyniad i newidiadau i'r Cwricwlwm Cenedlaethol a ddaeth i rym ym mis Awst 2000. Cyn y newidiadau hynny, nid oedd darpariaeth ar gyfer mesur lefelau cyrhaeddiad disgyblion mewn celf, cerddoriaeth ac addysg gorfforol yng nghyfnod allweddol 3 drwy gyfrwng graddfa ffurfiol. Yn hytrach, i fesur cyraeddiadau disgyblion yng nghyfnod allweddol 3, yr oedd y Cwricwlwm Cenedlaethol yn cynnwys yr hyn a elwid “Disgrifiadau diwedd cyfnod allweddol” ar gyfer pob targed cyrhaeddiad. O dan y Cwricwlwm Cenedlaethol newydd, mae yna ddarpariaeth erbyn hyn ar gyfer mesur lefel cyrhaeddiad disgyblion yn y pynciau hyn drwy gyfrwng graddfa. Mae'r diwygiadau a wneir yn sgîl y Rheoliadau hyn i Reoliadau 1997 yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.