http://www.legislation.gov.uk/wsi/2001/891/contents/made/welsh
Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2015-08-28
ADDYSG , CYMRU
Mae Adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sydd yn darparu ar gyfer talu grantiau ynglŷn â gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion addysgol, neu mewn cysylltiad â hwy, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylid annog gwariant o'r fath er lles addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r fath grantiau. Maent yn ailddeddfu, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2000. Amlinellir darpariaethau'r Rheoliadau, a'r newidiadau i'r Rheoliadau cynt, isod.Mae Rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn a chymwyso. Daw'r rheoliadau i rym ar 1 Ebrill 2001 ac maent yn gymwys i Gymru'n unig.Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau.Mae Rheoliad 3 yn darparu nad yw grantiau'n daladwy ond ar gyfer gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg lleol at y dibenion, neu mewn cysylltiad â'r dibenion, a nodir yn yr Atodlen yn ystod blwyddyn ariannol, a dim ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau.Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu grantiau ynglŷn â gwariant gan awdurdodau addysg lleol i dalu trydydd partïon am wariant ganddynt os byddai'r gwariant hwnnw'n gymwys ar gyfer grant petai'n wariant gan yr awdurdod.Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer cyfradd y grantiau sy'n daladwy.Mae Rheoliadau 6 i 8 yn nodi'r amodau sy'n gymwys ar gyfer talu grantiau, gan gynnwys gofynion archwilio. Mae'r dyddiad yn rheoliad 6(5) ar gyfer cyflwyno datganiad a thystysgrif archwilydd i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei newid o 31 Gorffennaf i 31 Hydref.Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol fynnu i awdurdod addysg lleol roi gwybodaeth iddo.Mae Rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad osod gofynion ychwanegol.Mae Rheoliad 11 yn caniatáu i'r Cynulliad fynnu i awdurdod addysg lleol ddirprwyo penderfyniadau ar wario i gyrff llywodraethu ysgolion.Mae Rheoliad 12 yn diddymu'r Rheoliadau blaenorol yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol.Mae'r Atodlen yn darparu ar gyfer dibenion y mae grantiau'n daladwy atynt, neu'n gysylltiedig â hwy. Mae trefn y paragraffau yn yr Atodlen wedi'i newid. Mae'r newidiadau o sylwedd i'r Atodlen fel a ganlyn:mae'r ddarpariaeth a oedd yn ymwneud â gweithredu a gweinyddu cynlluniau i gyllido ysgolion a gynhelir wedi'i dileu (paragraff 1(a) yn y Rheoliadau blaenorol);newid i baragraff 1(h) (paragraff 18 yn y Rheoliadau blaenorol) yn ymwneud ag addysg bersonol a chymdeithasol;paragraff newydd 3(b) yn ymwneud ag adolygiad o'r ddarpariaeth sy'n bodoli ar gyfer plant o dan bum mlwydd oed;newid i baragraff 5(e) (paragraff 15 yn y Rheoliadau blaenorol) sy'n ymestyn hyfforddiant mewn materion amddiffyn plant i holl staff ysgol ac i staff cynnal awdurdod addysg lleol; aparagraff newydd 5(f) yn ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol.