Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2001 Rhif 891 (Cy.42)

ADDYSG , CYMRU

Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

8 Mawrth 2001

Yn dod i rym

1 Ebrill 2001

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 484, 489 a 569(4) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2001 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2001.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i awdurdodau addysg lleol yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

  • mae “aelod o'r Arolygiaeth” (“member of the Inspectorate”) yn gyfystyr â “member of the Inspectorate” yn adran 46(1) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996(3);

  • mae “anghenion addysgol arbennig” (“special educational needs”) yn gyfystyr â “special educational needs” yn adran 312(1) o Ddeddf 1996;

  • ystyr “arolygydd cofrestredig” (“registered inspector”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn arolygydd yn unol ag adran 7(1) a (2) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996;

  • ystyr “athro cofrestredig neu athrawes gofrestredig” (“registered teacher”) yw person y rhoddwyd awdurdodiad iddo neu iddi yn unol â Rhan III o Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Cymru) 1999(4);

  • ystyr “athro cymwysedig neu athrawes gymwysedig” (“qualified teacher”) yw person sydd, yn rhinwedd y rheoliadau(5) ynglŷn â chyflogi athrawon sydd mewn grym o bryd i'w gilydd o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(6) â chymhwyster i gael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol o'r math a ddisgrifir yn is-adran (12) o'r adran honno;

  • ystyr “awdurdod addysg” (“education authority”) yw awdurdod addysg lleol yng Nghymru;

  • ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth;

  • ystyr “cyfarfod adolygu blynyddol” (“annual review meeting”) yw cyfarfod i adolygu datganiad o anghenion addysgol arbennig fel y cyfeirir ato yn rheoliadau 15(5), 16(3) a 17(3) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) 1994(7)) ;

  • ystyr “cyfleusterau amser hamdden” (“leisure- time facilities”) yw cyfleusterau o fath y mae awdurdodau addysg dan ddyletswydd i sicrhau eu bod yn cael eu darparu o fewn i'w hardaloedd a ‘r ddyletswydd honno wedi'i gosod gan adrannau 2(3)(b) a 508(1) o Ddeddf 1996;

  • ystyr “cyfnodau allweddol 1, 2, 3 a 4” (“key stages 1, 2, 3 and 4”) yw'r cyfnodau a bennir ym mharagraffau (a), (b), (c) a (d), yn y drefn honno, o adran 355(1) o Ddeddf 1996;

  • mae “cynllun asesu sylfaenol” (“baseline assessment scheme”) yn gyfystyr â “baseline assessment scheme” yn adran 15 o Ddeddf Addysg 1997(8);

  • ystyr “cynllun datblygu ysgol” (“school development plan”) yw cynllun a baratowyd gan gorff llywodraethu'r ysgol dan sylw ac sy'n nodi cyrchnodau'r ysgol a'r camau sy'n angenrheidiol dros y blynyddoedd nesaf i alluogi'r ysgol i symud tuag at gyflawni'r cyrchnodau hynny;

  • ystyr “cynllun strategol addysg” (“education strategic plan”) yw cynllun datblygu addysg a baratowyd gan awdurdod addysg yn unol ag adran 6 o Ddeddf 1998;

  • ystyr “cynorthwyydd anghenion arbennig” (“special needs assistant”) yw person sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod addysg neu gorff llywodraethu ysgol sydd fel arfer yn bresennol mewn ystafell ddosbarth gydag athro neu athrawes ac sy'n cynorthwyo'r athro neu'r athrawes mewn perthynas â phlant ac iddynt anghenion addysgol arbennig;

  • ystyr “cynorthwyydd ystafell ddosbarth” (“classroom assistant”) yw person sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod addysg neu gan gorff llywodraethu ysgol ac sydd fel arfer yn bresennol mewn ystafell ddosbarth gydag athro neu athrawes ac sy'n cynorthwyo'r athro neu athrawes;

  • ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(9) ;

  • mae “disgybl” (“pupil”) yn gyfystyr â “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 1996;

  • ystyr “grant” (“grant”) yw grant yn unol â'r Rheoliadau hyn;

  • ystyr “y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu” (“National Grid for Learning”) yw'r system o rwydweithiau cydgysylltiol a gwasanaethau addysg sy'n seiliedig ar y rhyngrwyd ac sydd wedi'i gynllunio i gefnogi addysgu, dysgu, hyfforddi a gweinyddu mewn ysgolion, y gwasanaeth addysg ehangach, a'r gymuned;

  • ystyr “gwariant a gymeradwywyd” (“approved expenditure”) yw unrhyw wariant a gymeradwywyd yn ôl darpariaeth rheoliad 3;

  • ystyr “gwariant a ragnodwyd” (“prescribed expenditure”) yw gwariant gan awdurdod addysg ar gyfer unrhyw bwrpas neu mewn cysylltiad ag unrhyw bwrpas a bennir yn yr Atodlen;

  • ystyr “gweithiwr ieuenctid a chymuned neu weithwraig ieuenctid a chymuned” (“youth and community worker”) yw person sy'n cael ei gyflogi mewn cysylltiad â chyfleusterau amser hamdden, heblaw i wneud gwaith gweinyddol, ysgrifenyddol, clerigol neu gorfforol yn unig;

  • ystyr “mentor” (“mentor”) yw pennaeth profiadol sy'n rhoi cyngor a chymorth i gefnogi datblygiad proffesiynol pennaeth dibrofiad;

  • ystyr “penderfynu” (“determine”) yw penderfynu drwy hysbysiad ysgrifenedig;

  • ystyr “person a enwyd” (“named person”) yw person y mae'r awdurdod addysg yn fodlon ei fod yn gallu (gyda golwg ar unrhyw feini prawf a nodir yn y Cod Ymarfer a gyhoeddwyd o dan adran 313 o Ddeddf 1996(10)) darparu gwybodaeth gywir a chyngor doeth i riant am anghenion addysgol arbennig ei blentyn, ac sy'n cytuno i gael ei enwi'n berson y caiff y rhiant geisio'r wybodaeth a'r cyngor hwnnw ganddo pan fydd yr awdurdod addysg yn cyflwyno copi o ddatganiad o anghenion addysgol arbennig y plentyn i'r rhiant yn unol â pharagraff 6 o Atodlen 27 i Ddeddf 1996;

  • mae “person ifanc” (“young person”) yn gyfystyr â “young person” yn adran 579(1) o Ddeddf 1996;

  • mae “safle ysgol” (“school site”) yn gyfystyr â “school site” ym mharagraff 2(11) o Atodlen 3 i Ddeddf 1998;

  • ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg;

  • ystyr “ysgol brif-ffrwd” (“mainstream school”) yw ysgol a gynhelir nad yw'n ysgol arbennig;

  • ystyr “ysgol haf ar lythrennedd” (“summer literacy school”) yw cynllun sy'n diwgydd yn ystod gwyliau'r haf ac sydd wedi'i anelu at godi safonau llythrennedd disgyblion sydd ar fin ymuno ag ysgol uwchradd;

  • ystyr “ysgol haf ar rifedd” (“summer numeracy school”) yw cynllun sy'n digwydd yn ystod gwyliau'r haf ac sydd wedi'i anelu at godi safonau rhifedd disgyblion sydd ar fin ymuno ag ysgol uwchradd;

  • mae “ysgol arbennig” (“special school”) yn gyfystyr â “special school” yn adran 337(1) o Ddeddf 1996(11).

(2Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad a gynhwysir ynddynt, mae cyfeiriad mewn rheoliad at baragraff yn gyfeiriad at baragraff yn y rheoliad hwnnw, ac mae cyfeiriad at yr Atodlen yn gyfeiriad at yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwariant y mae grantiau yn daladwy ar ei gyfer

3.  Ni fydd grantiau ond yn daladwy ar gyfer gwariant a ragnodwyd ac a dynnwyd neu a dynnir yn ystod blwyddyn ariannol ac ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant hwnnw am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Grantiau ar gyfer taliadau i drydydd partïon

4.  Os —

(a)bydd awdurdod addysg yn gwario wrth wneud taliadau, boed er mwyn cynnal, cynorthwyo neu wneud rhywbeth arall, i unrhyw gorff arall neu bersonau eraill (gan gynnwys awdurdod addysg arall) sy'n gwario at ddibenion addysgol neu mewn cysylltiad â hwy, a

(b)byddai gwariant y sawl sy'n derbyn y taliadau neu unrhyw ran ohonynt yn wariant a ragnodwyd petai'n wariant yr awdurdod,

rhaid i'r taliadau hynny, i'r graddau hynny, gael eu trin yn wariant a ragnodwyd at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Cyfradd y Grantiau

5.  Rhaid talu grantiau ar gyfer gwariant a gymeradwywyd ar 1 Ebrill 2001 neu ar ôl hynny a'r rheiny o'r math y cyfeirir atynt yn y paragraffau o'r Atodlen a restrir yn y golofn ar y chwith i'r tabl isod yn ôl cyfradd ganrannol y gwariant a bennir mewn perthynas ag ef yn y golofn ar y dde i'r tabl.

TABL

Paragraff yr AtodlenCyfradd ganrannol y grant
12100
9(c)100
3(b)100
5(c)70
Pob paragraff arall60

Amodau talau grantiau

6.—(1Ni thelir grant onid yw'n ymateb i gais ysgrifenedig oddi wrth awdurdod addysg i'r Cynulliad Cenedlaethol, wedi'i ddilysu gan swyddog o'r awdurdod sy'n gyfrifol am weinyddu eu cyllid neu ei ddirprwy.

(2Rhaid i geisiadau am dalu grant ymwneud â gwariant dros un neu ragor o'r cyfnodau a bennir ym mharagraff (3) a rhaid iddynt bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y gwneir cais am grant ar ei gyfer ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd y bydd yn cael ei dynnu gan yr awdurdod addysg yn ystod pob un o'r cyfnodau hynny.

(3Y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

(a)o 1 Ebrill hyd at 31 Gorffennaf;

(b)o 1 Awst hyd at 31 Rhagfyr;

(c)o 1 Ionawr hyd at 31 Mawrth.

(4Os cyflwynir cais sy'n ymwneud â gwariant a gymeradwywyd ac y tynnwyd neu yr amcangyfrifwyd iddo gael ei dynnu yn ystod y cyfnod sy'n ymestyn o 1 Ionawr hyd at 31 Mawrth mewn unrhyw flwyddyn o dan baragraff (1), ceir gwneud yn ddi-oed unrhyw daliad y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arno nad yw'n fwy na thri chwarter o'r grant y gwnaed cais amdano mewn perthynas â'r gwariant hwnnw, ac eithrio pan fydd yn penderfynu fel arall, ond ni thelir grant pellach ar gyfer y gwariant hwnnw hyd nes cyflwyno datganiad yn unol â pharagraff (5)(a).

(5Rhaid i bob awdurdod addysg a dderbyniodd grant neu sy'n ceisio cael taliad grant ar gyfer gwariant a dynnwyd yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol, cyn 31 Hydref yn ystod y flwyddyn ariannol ddilynol neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw—

(a)gyflwyno datganiad i'r Cynulliad Cenedlaethol ac mae'n rhaid i'r datganiad hwnnw bennu'r gwariant a gymeradwywyd ac y mae cais wedi'i wneud neu'n cael ei wneud am grant ar ei gyfer, sef gwariant a dynnwyd gan yr awdurdod addysg yn ystod y flwyddyn honno; a

(b)sicrhau cyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol dystysgrif wedi'i llofnodi gan archwilydd a benodwyd gan y Comisiwn Archwilio i Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr i archwilio cyfrifon yr awdurdod neu unrhyw archwilydd sydd â chymhwyster i gael ei benodi yn rhinwedd adrannau 3(5), (6) a (7) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1988(12) ac sy'n ardystio bod y manylion a roddwyd yn y datganiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod yn unol â'r paragraff hwn, ym marn yr archwilydd, wedi'u datgan yn deg a bod y gwariant a dynnwyd wedi'i gymeradwyo at ddibenion adran 484 o Ddeddf 1996(13).

(6Ni thelir grant mewn perthynas â gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg yn ystod y cyfnod 1 Awst hyd at 31 Rhagfyr mewn unrhyw flwyddyn neu unrhyw gyfnod ar ôl hynny os talwyd grant i'r awdurdod mewn perthynas â gwariant yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol ond nad yw'r Cynulliad Cenedlaethol eto wedi derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b) am y flwyddyn honno.

(7Rhaid i unrhyw dandaliad neu ordaliad o grant sy'n dal heb ei dalu ar ôl derbyn tystysgrif yr archwilydd y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b), heb ragfarnu camau i adennill unrhyw ordaliad o unrhyw daliad dilynol o grant i'r awdurdod addysg, gael ei addasu â thaliad rhwng yr awdurdod a'r Cynulliad Cenedlaethol.

7.  Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol, ar adeg cymeradwyo gwariant at ddibenion y Rheoliadau hyn, yn mynnu gwybodaeth mewn perthynas ag unrhyw ddiben a restrir yn yr Atodlen, bydd talu'r grant at y diben hwnnw yn amodol ar gynnwys yr wybodaeth honno yng nghais yr awdurdod addysg i gael taliad y grant.

8.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol o bryd i'w gilydd benderfynu ar amodau pellach y bydd talu yn unol â'r Rheoliadau hyn yn ddibynnol ar eu cyflawni.

(2Os penderfynwyd ar amodau yn unol â'r rheoliad hwn ni cheir talu grant oni fydd yr amodau hynny wedi'u cyflawni neu wedi'u tynnu'n ôl yn unol â pharagraff (3).

(3Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, wedi ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio'r amodau y penderfynwyd arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.

Gofynion y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy

9.  Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei fynnu, roi iddo unrhyw wybodaeth bellach y bydd yn ei mynnu i'w alluogi i wirio bod unrhyw grant a dalwyd wedi cael ei dalu'n briodol o dan y Rheoliadau hyn.

10.  Rhaid i unrhyw awdurdod addysg y talwyd grant iddo gydymffurfio ag unrhyw ofynion (gan gynnwys gofynion sy'n ymwneud ag ad-dalu'r grant neu dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw symiau sy'n perthyn i werth asedau a gaffaelwyd, a ddarparwyd neu a wellhawyd drwy gymorth grant neu log ar symiau sy'n ddyledus iddo) y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu arnynt yn yr achos dan sylw.

11.—(1Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod yn rhaid i unrhyw awdurdod addysg ddirprwyo penderfyniadau ynghylch gwario—

(a)grant, a

(b)symiau a ddyrennir gan yr awdurdod i gwrdd â gwariant a ragnodwyd ac a gymeradwywyd yn unol â rheoliad 3,

i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu tynnu'n ôl neu, ar ôl ymgynghori â'r awdurdod addysg, amrywio gofynion y penderfynir arnynt yn unol â'r rheoliad hwn.

Darpariaethau diddymu ac eithriadu

12.  Drwy hyn mae Rheoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2000(14) yn cael eu diddymu, ond bydd y rheoliadau hynny'n parhau'n gymwys i daliadau grant a awdurdodwyd gan y Rheoliadau hynny mewn perthynas â gwariant a dynnwyd ar y diwrnod y daw'r Rheoliadau hyn i rym, neu cyn hynny, ac i unrhyw amod neu ofyniad a bennwyd gan y Rheoliadau sydd wedi'u diddymu, nac yn unol â hwy.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethool o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(15)

D. Elis Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mawrth 2001

ATODLEN Rheoliadau 2 a 3DIBENION Y MAE GRANTIAU'N DALADWY ATYNT NEU'N GYSYLLTIEDIG Å HWY

1.  Darparu —

(a)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar i gynorthwyo ysgolion gyda gweithredu, trefnu a chyflawni'r Cwricwlwm Cenedlaethol;

(b)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar gyda golwg ar godi safonau cyrhaeddiad disgyblion ym mhynciau mathemateg, Cymraeg, gwyddoniaeth, Saesneg, technoleg, addysg gorfforol, hanes, daearyddiaeth, celf, cerddoriaeth, ieithoedd tramor modern ac addysg grefyddol, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn safonau cyrhaeddiad disgyblion gwryw a benyw;

(c)cefnogaeth a hyfforddiant i weithredu'r trefniadau ar gyfer asesu disgyblion yn yr ysgolion mewn perthynas â thargedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol o dan Bennod II o Ran V o Ddeddf 1996(16), neu mewn perthynas â chynllun asesu sylfaenol;

(ch)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau mewn gweinyddu profion y Cwricwlwm Cenedlaethol, gweinyddu a marcio tasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac asesu athrawon ac athrawesau mewn perthynas â chyfnodau allweddol 2 a 3 yn unol â gofynion erthyglau 4 i 9 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997(17) ac erthyglau 4 i 12 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997(18);

(d)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau mewn gweinyddu a marcio asesiadau tasgau safonol ac asesiadau athrawon ac athrawesau mewn perthynas â chyfnod allweddol 1 yn unol â gofynion erthyglau 4 i 9 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 1997(19)) a darparu staff ychwanegol i gynorthwyo ysgolion yn ystod y cyfnod pan fydd athrawon ac athrawesau wrthi gyda'r gweithgareddau hynny;

(dd)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau gyrfaoedd, a hyfforddiant i athrawesau ac athrawon eraill wrth ddarparu addysg a chyfarwyddyd galwedigaethol a gyrfaoedd mewn ysgolion;

(e)cefnogaeth i weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i ddatblygu rhaglenni effeithiol o addysg gysylltiedig â gwaith (gan gynnwys hyfforddiant a datblygu i athrawon ac athrawesau) yn unol â'r fframwaith yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(20) yn 2000 o dan y teitl “Fframwaith ar gyfer Addysg Gysylltiedig â Gwaith i Bobl Ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru”(21);

(f)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu addysg bersonol a chymdeithasol mewn ysgolion, yn unol â'r fframwaith yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru yn 2000 o dan y teitl “Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol”(22), sydd yn cynnwys addysg ar gyfleoedd cyfartal ac addysg iechyd a rhyw (gan gynnwys camddefnyddio cyffuriau);

(ff)hyfforddiant i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sydd wedi'i anelu at eu cymhwyso (neu eu cymhwyso'n well) at arwain, neu gynorthwyo i arwain, gwasanaethau crefyddol yn yr ysgolion hynny yn unol ag adran 70 o Ddeddf 1998;

(g)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar gyda golwg ar godi safonau cyrhaeddiad disgyblion yn Arholiadau Safon Uwch a Safon Uwch Atodol y Dystysgrif Gyffredinol Addysg, yn enwedig mewn pynciau gwyddonol a thechnolegol, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn y safonau cyrhaeddiad hynny rhwng disgyblion benyw a gwryw; ac

(ng)cefnogaeth i ysgolion sy'n cynnig cyrsiau galwedigaethol sy'n arwain at Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol, neu sy'n ymbaratoi at gyflwyno cyrsiau o'r fath, gan gynnwys darparu hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar.

2.—(aCefnogaeth i fesurau i wella'r safonau y mae disgyblion yn eu cyrraedd mewn ysgolion sy'n achosi pryder ac mewn ysgolion eraill, gan gynnwys cefnogaeth i fesurau yng nghynllun strategol awdurdod addysg ac i fesurau mewn cynllun datblygu ysgol.

(b)Cefnogaeth i athrawon ac athrawesau mewn ysgolion uwchradd wrth sefydlu system effeithiol i adolygu a chofnodi cyraeddiadau disgyblion.

(c)Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol a phersonau a gyflogir mewn ysgolion yn y medrau y mae'n rhaid iddynt wrthynt i'w galluogi i osod targedau, gwella cynlluniau datblygu ysgol a gosod amcanion ar gyfer gwelliant ym mherfformiad ysgol ym mhob pwnc cwricwlwm, ac i ymdrin ag unrhyw wendidau a nodwyd mewn adroddiad o arolygiad a wnaed gan aelod o'r Arolygiaeth neu arolygydd cofrestredig.

(ch)Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol mewn medrau rheoli ac arwain.

(d)Hyfforddiant personau a gyflogir yn gynorthwywyr ystafell ddosbarth.

(dd)Mesurau i ddarparu cymorth yn yr ystafell ddosbarth a chefnogaeth i athrawon ac athrawesau cymwysedig mewn ysgolion a gynhelir, gan gynnwys cyflogi cynorthwywyr ystafell ddosbarth.

3.—(aGwella cynllunio a chyd-drefnu'r ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant o dan bum mlwydd oed, a datblygu staff sy'n darparu addysg ar gyfer plant o'r fath.

(b)Adolygiad o ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant o dan bum mlwydd oed.

4.—(aCefnogaeth i gynlluniau i wella addysgu llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion cynradd gyda golwg ar wella safonau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn yr ysgolion hynny.

(b)Projectau i wella lefelau llythrennedd teuluoedd drwy annog rhieni i gynorthwyo eu plant i ddysgu darllen ac ysgrifennu.

(c)Cefnogaeth i sefydlu a rhedeg ysgolion haf ar lythrennedd ac ysgolion haf ar rifedd.

(ch)Camau i ddatblygu a gweithredu strategaethau i wella safonau llythrennedd yn y Gymraeg a'r Saesneg a safonau rhifedd yn yr ysgolion.

5.—(aHyfforddiant i bersonau a gyflogir yn weithwyr ieuenctid a chymuned a gweithwragedd ieuenctid a chymuned.

(b)Projectau i feithrin ailintegreiddio neu symud personau ifanc ymlaen i ddulliau o addysg neu hyfforddiant sy'n addas i'w hanghenion, eu galluoedd a'u doniau.

(c)Mesurau i ddarparu cyfartaledd cyfle addysgol i bob grŵ p ethnig lleiafrifol, gan gynnwys yn benodol fesurau i gynorthwyo disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt a mesurau i wella safonau cyrhaeddiad.

(ch)Camau i wella cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion, a lleihau nifer y plant sy'n cael eu gwahardd ohonynt, ac i wella'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y mae eu hymddygiad yn creu anawsterau i'r ysgolion hynny.

(d)Hyfforddiant i athrawon ac athrawesau sydd â chyfrifoldeb penodol dros amddiffyn plant mewn ysgolion, a hyfforddiant i staff arall mewn ysgolion, pa un a ydynt yn addysgu neu beidio, ac i staff gwasanaethau cynnal awdurdodau addysg lleol mewn perthynas â chamau i gefnogi mesurau a leolir mewn ysgolion i amddifyn plant.

(dd)Camau i wella cyraeddiadau addysgol plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol o fewn ystyr Deddf Plant 1989(23).

6.—(aHyfforddiant i benaethiaid, athrawon ac athrawesau a chynorthwywyr anghenion arbennig mewn ysgolion a gynhelir neu ysgolion arbennig nad ydynt yn ysgolion a gynhelir ac i'r aelodau hynny o staff yr ysgolion hynny neu yng ngwasanaethau cynnal awdurdod addysg ac iddynt gyfrifoldeb am blant ag anghenion addysgol arbennig.

(b)Annog partneriaethau rhwng rhieni, awdurdodau addysg, ysgolion a chyrff gwirfoddol er mwyn sicrhau addysg well i blant ag anghenion addysgol arbennig, drwy ddefnyddio deunyddiau, technoleg gwybodaeth ac amser ychwanegol y staff i gryfhau mewnbwn yr awdurdod addysg i'r cyfarfodydd adolygu blynyddol.

(c)Mesurau i hybu presenoldeb plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd.

(ch)Cefnogaeth i ddatblygu cysylltiadau rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion prif-ffrwd.

(d)Cefnogaeth i blant ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol neu sydd mewn perygl o ddatblgyu anawsterau emosiynol ac ymddygiadol.

(dd)Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir ac i'r rheiny sy'n cael eu cyflogi yn yr ysgolion hynny fel athrawon ac athrawesau ac mewn swyddi eraill, wrth ddatblygu polisïau ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

(e)Camau i hyrwyddo cydweithio, at ddibenion addysgol, rhwng awdurdodau addysg a chyrff eraill, gan gynnwys cefnogaeth i brojectau peilot dethol i ymchwilio i drefniadau cynllunio rhanbarthol i wella gwasanaethau i blant ag anghenion addysgol arbennig a'u datblygu.

(f)Camau i ddarganfod personau a enwyd.

7.  Hyfforddiant athrawon ac athrawesau i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg y pynciau y mae'n ofynnol eu haddysgu o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol.

8.—(aCefnogaeth i ddarpariaeth barhaus, newydd neu gynyddol gan awdurdod addysg o wasanaeth cerddoriaeth canolog, gan gynnwys mesurau i wella ansawdd addysgu cerddoriaeth, i wella cyfartaledd mynediad at wasanaethau cerddoriaeth, i hyrwyddo datblygu corau ac ensembles offerynnol o bob math ac i hyrwyddo cydweithredu rhwng awdurdodau addysg a chyrff eraill.

(b)Cefnogaeth i sefydlu a rhedeg, y tu allan i oriau ysgol, weithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir, gan gynnwys gweithgareddau ysgogiadol a chreadigol, chwaraeon a chlybiau gwaith cartref ac astudio.

9.—(aCefnogaeth i alluogi ysgolion a gynhelir i sicrhau defnydd effeithiol o'r gwasanaethau addysgol ar rwydwaith sydd ar gael drwy'r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu.

(b)Cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, rhaglenni a data, a hyfforddiant i athrawon, athrawesau ac aelodau eraill o staff a leolir yn yr ysgol ar ddefnyddio'r cyfarpar, y rhaglenni a'r data i wella addysgu a dysgu yn holl bynciau'r cwricwlwm.

(c)Camau i'w gwneud yn haws i bobl gael defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

10.—(aHyfforddiant a datblygiad proffesiynol penaethiaid.

(b)Hyfforddiant fel mentoriaid i benaethiaid.

(c)Datblygiad proffesiynol a hyfforddiant athrawon ac athrawesau (ac eithrio penaethiaid), gan gynnwys datblygiad proffesiynol a hyfforddiant gyda golwg ar ymgeisio am y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth.

(ch)Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ym maes medrau rheoli ac arwain athrawon, athrawesau a phobl a gyflogir mewn ysgolion yn ysgrifenyddion, ysgrifenyddesau a bwrsariaid ac mewn swyddi gweinyddol eraill.

(d)Cefnogaeth i athrawon ac athrawesau cymwysedig sydd newydd gymhwyso.

(dd)Hyfforddiant ar roi cyngor, cymorth a chefnogaeth i bersonau sy'n ceisio mynd yn athrawon cymwysedig neu gofrestredig neu yn athrawesau cymwysedig neu gofrestredig.

(e)Hyfforddiant i bersonau y rhoddwyd trwydded neu awdurdodiad i addysgu iddynt o dan reoliadau sydd mewn grym am y tro o dan adran 218(3)(24) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 i'w galluogi i fynd yn athrawon cymwysedig neu'n athrawesau cymwysedig.

(f)Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol wrth adolygu perfformiad athrawon ac athrawesau (gan gynnwys penaethiaid a dirprwy penaethiaid).

11.  Darparu hyfforddiant a chyngor i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sy'n ymwneud â chamau y gellid eu cymryd i wella diogelwch tir ac adeiladau ysgolion a diogelwch personol disgyblion a phersonau sy'n gweithio mewn ysgolion.

12.  Gwella safleoedd ysgolion, gan gynnwys —

(a)darparu offer gwylio a gwarchod;

(b)gwella, adnewyddu neu amnewid adeiladau, dodrefn a chyfarpar (ar wahân i gyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) a ddefnyddir at ddibenion addysgol;

(c)darparu a gosod ceblau ar gyfer cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, fel rhan o wella, adnewyddu neu amnewid o'r fath (ond nid darparu a gosod y cyfarpar ei hun); ac

(ch)darparu a gosod cyfarpar (gan gynnwys cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) i wella addysgu a dysgu dylunio a thechnoleg yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 ac uwchlaw hynny, yn enwedig mewn perthynas â thechnoleg rheoli ac â dylunio a gweithgynhyrchu nwyddau drwy gymorth technoleg a chyfarpar gwybodaeth a chyfathrebu.

13.  Hyfforddiant, ar gyfer athrawon ac athrawesau pynciau y mae cymorth cyntaf ac iechyd a diogelwch yn arbennig o berthnasol iddynt, ac a anelir at eu cymhwyso (neu at eu cymhwyso'n well) i roi cymorth cyntaf ac at roi gwybodaeth iddynt am faterion iechyd a diogelwch.

14.  Darparu staff ychwanegol i gynorthwyo ysgolion yn ystod y cyfnodau pan fydd athrawon ac athrawesau yn mynychu cyrsiau hyfforddu.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud rheoliadau sydd yn darparu ar gyfer talu grantiau ynglŷn â gwariant a dynnwyd gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion addysgol, neu mewn cysylltiad â hwy, os ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylid annog gwariant o'r fath er lles addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r fath grantiau. Maent yn ailddeddfu, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Addysg (Grantiau Safonau Addysg) (Cymru) 2000. Amlinellir darpariaethau'r Rheoliadau, a'r newidiadau i'r Rheoliadau cynt, isod.

  • Mae Rheoliad 1 yn darparu ar gyfer enwi, cychwyn a chymwyso. Daw'r rheoliadau i rym ar 1 Ebrill 2001 ac maent yn gymwys i Gymru'n unig.

  • Mae Rheoliad 2 yn cynnwys diffiniadau.

  • Mae Rheoliad 3 yn darparu nad yw grantiau'n daladwy ond ar gyfer gwariant a dynnwyd gan awdurdod addysg lleol at y dibenion, neu mewn cysylltiad â'r dibenion, a nodir yn yr Atodlen yn ystod blwyddyn ariannol, a dim ond i'r graddau y cymeradwywyd y gwariant am y flwyddyn honno gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion y Rheoliadau.

  • Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu grantiau ynglŷn â gwariant gan awdurdodau addysg lleol i dalu trydydd partïon am wariant ganddynt os byddai'r gwariant hwnnw'n gymwys ar gyfer grant petai'n wariant gan yr awdurdod.

  • Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer cyfradd y grantiau sy'n daladwy.

  • Mae Rheoliadau 6 i 8 yn nodi'r amodau sy'n gymwys ar gyfer talu grantiau, gan gynnwys gofynion archwilio. Mae'r dyddiad yn rheoliad 6(5) ar gyfer cyflwyno datganiad a thystysgrif archwilydd i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei newid o 31 Gorffennaf i 31 Hydref.

  • Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol fynnu i awdurdod addysg lleol roi gwybodaeth iddo.

  • Mae Rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad osod gofynion ychwanegol.

  • Mae Rheoliad 11 yn caniatáu i'r Cynulliad fynnu i awdurdod addysg lleol ddirprwyo penderfyniadau ar wario i gyrff llywodraethu ysgolion.

  • Mae Rheoliad 12 yn diddymu'r Rheoliadau blaenorol yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol.

  • Mae'r Atodlen yn darparu ar gyfer dibenion y mae grantiau'n daladwy atynt, neu'n gysylltiedig â hwy. Mae trefn y paragraffau yn yr Atodlen wedi'i newid. Mae'r newidiadau o sylwedd i'r Atodlen fel a ganlyn:

    • mae'r ddarpariaeth a oedd yn ymwneud â gweithredu a gweinyddu cynlluniau i gyllido ysgolion a gynhelir wedi'i dileu (paragraff 1(a) yn y Rheoliadau blaenorol);

    • newid i baragraff 1(h) (paragraff 18 yn y Rheoliadau blaenorol) yn ymwneud ag addysg bersonol a chymdeithasol;

    • paragraff newydd 3(b) yn ymwneud ag adolygiad o'r ddarpariaeth sy'n bodoli ar gyfer plant o dan bum mlwydd oed;

    • newid i baragraff 5(e) (paragraff 15 yn y Rheoliadau blaenorol) sy'n ymestyn hyfforddiant mewn materion amddiffyn plant i holl staff ysgol ac i staff cynnal awdurdod addysg lleol; a

    • paragraff newydd 5(f) yn ymwneud â phlant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol.

(1)

1996 p.56; diwygiwyd adrannau 484 a 489 gan adran adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraffau 125 a 126 o Atodlen 30 iddi. I gael ystyr “regulations” gweler adran 579(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(5)

Adeg gwneud y Rheoliadau hyn, y rheoliadau mewn grym oedd, ar gyfer Cymru, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau lechyd Athrawon) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2817 (Cy.18)), ac ar gyfer Lloegr, Rheoliadau Addysg (Cymwysterau a Safonau Iechyd Athrawon) (Lloegr) 1999 (O.S. 1999/2166).

(6)

Diwygiwyd adran 218 (i'r graddau y mae'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn) gan baragraff 49 o Atodlen 8 i Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13); gan adran 14(1) a (3) o Ddeddf Addysg 1994 a pharagraff 8(4) o Atodlen 2 iddi; gan baragraff 76 o Atodlen 37 i Ddeddf Addysg 1996; gan adran 49(1)-(4) o Ddeddf Addysg 1997; a chan baragraff 17 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998; a chan adrannau 10, 11, ac 13 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).

(8)

1997 p.44. Diwygiwyd adran 15 gan baragraff 209 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(10)

Diwygiwyd adran 313 gan baragraff 72 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(11)

Diwygiwyd adran 337(1) gan baragraff 80 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1988.

(12)

1988 p.18.

(13)

Diwygiwyd adran 484 gan adran 7(10) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 a pharagraff 125 o Atodlen 30 iddi.

(15)

1998 p.38.

(16)

Diwygiwyd Pennod II gan baragraffau 26-28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 a chan baragraffau 87-91 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(17)

O.S. 1997/2009 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1977.

(18)

O.S. 1997/2010 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1976.

(20)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1) (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.

(21)

ISBN 1 86112 223 3.

(22)

ISBN 1 86112 2225.

(23)

1989 p.41; diwygiwyd adran 22(1) yn rhagolygol gan adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(24)

Diwygiwyd adran 218(3) gan adran 14(3) o Ddeddf Addysg 1994 a chan adran 10 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources