xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN Rheoliadau 2 a 3DIBENION Y MAE GRANTIAU'N DALADWY ATYNT NEU'N GYSYLLTIEDIG Å HWY

1.  Darparu —

(a)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar i gynorthwyo ysgolion gyda gweithredu, trefnu a chyflawni'r Cwricwlwm Cenedlaethol;

(b)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar gyda golwg ar godi safonau cyrhaeddiad disgyblion ym mhynciau mathemateg, Cymraeg, gwyddoniaeth, Saesneg, technoleg, addysg gorfforol, hanes, daearyddiaeth, celf, cerddoriaeth, ieithoedd tramor modern ac addysg grefyddol, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn safonau cyrhaeddiad disgyblion gwryw a benyw;

(c)cefnogaeth a hyfforddiant i weithredu'r trefniadau ar gyfer asesu disgyblion yn yr ysgolion mewn perthynas â thargedau cyrhaeddiad y Cwricwlwm Cenedlaethol o dan Bennod II o Ran V o Ddeddf 1996(1), neu mewn perthynas â chynllun asesu sylfaenol;

(ch)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau mewn gweinyddu profion y Cwricwlwm Cenedlaethol, gweinyddu a marcio tasgau'r Cwricwlwm Cenedlaethol ac asesu athrawon ac athrawesau mewn perthynas â chyfnodau allweddol 2 a 3 yn unol â gofynion erthyglau 4 i 9 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 2) (Cymru) 1997(2) ac erthyglau 4 i 12 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu Cyfnod Allweddol 3) (Cymru) 1997(3);

(d)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau mewn gweinyddu a marcio asesiadau tasgau safonol ac asesiadau athrawon ac athrawesau mewn perthynas â chyfnod allweddol 1 yn unol â gofynion erthyglau 4 i 9 o Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth) (Cyfnod Allweddol 1) (Cymru) 1997(4)) a darparu staff ychwanegol i gynorthwyo ysgolion yn ystod y cyfnod pan fydd athrawon ac athrawesau wrthi gyda'r gweithgareddau hynny;

(dd)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau gyrfaoedd, a hyfforddiant i athrawesau ac athrawon eraill wrth ddarparu addysg a chyfarwyddyd galwedigaethol a gyrfaoedd mewn ysgolion;

(e)cefnogaeth i weithgareddau sydd wedi eu cynllunio i ddatblygu rhaglenni effeithiol o addysg gysylltiedig â gwaith (gan gynnwys hyfforddiant a datblygu i athrawon ac athrawesau) yn unol â'r fframwaith yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru(5) yn 2000 o dan y teitl “Fframwaith ar gyfer Addysg Gysylltiedig â Gwaith i Bobl Ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru”(6);

(f)hyfforddiant i athrawon ac athrawesau sydd â chyfrifoldeb dros ddarparu addysg bersonol a chymdeithasol mewn ysgolion, yn unol â'r fframwaith yn y ddogfen a gyhoeddwyd gan Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru yn 2000 o dan y teitl “Fframwaith Addysg Bersonol a Chymdeithasol”(7), sydd yn cynnwys addysg ar gyfleoedd cyfartal ac addysg iechyd a rhyw (gan gynnwys camddefnyddio cyffuriau);

(ff)hyfforddiant i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sydd wedi'i anelu at eu cymhwyso (neu eu cymhwyso'n well) at arwain, neu gynorthwyo i arwain, gwasanaethau crefyddol yn yr ysgolion hynny yn unol ag adran 70 o Ddeddf 1998;

(g)cefnogaeth, hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar gyda golwg ar godi safonau cyrhaeddiad disgyblion yn Arholiadau Safon Uwch a Safon Uwch Atodol y Dystysgrif Gyffredinol Addysg, yn enwedig mewn pynciau gwyddonol a thechnolegol, a lleihau unrhyw wahaniaeth yn y safonau cyrhaeddiad hynny rhwng disgyblion benyw a gwryw; ac

(ng)cefnogaeth i ysgolion sy'n cynnig cyrsiau galwedigaethol sy'n arwain at Gymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol, neu sy'n ymbaratoi at gyflwyno cyrsiau o'r fath, gan gynnwys darparu hyfforddiant, llyfrau a chyfarpar.

2.—(aCefnogaeth i fesurau i wella'r safonau y mae disgyblion yn eu cyrraedd mewn ysgolion sy'n achosi pryder ac mewn ysgolion eraill, gan gynnwys cefnogaeth i fesurau yng nghynllun strategol awdurdod addysg ac i fesurau mewn cynllun datblygu ysgol.

(b)Cefnogaeth i athrawon ac athrawesau mewn ysgolion uwchradd wrth sefydlu system effeithiol i adolygu a chofnodi cyraeddiadau disgyblion.

(c)Hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol a phersonau a gyflogir mewn ysgolion yn y medrau y mae'n rhaid iddynt wrthynt i'w galluogi i osod targedau, gwella cynlluniau datblygu ysgol a gosod amcanion ar gyfer gwelliant ym mherfformiad ysgol ym mhob pwnc cwricwlwm, ac i ymdrin ag unrhyw wendidau a nodwyd mewn adroddiad o arolygiad a wnaed gan aelod o'r Arolygiaeth neu arolygydd cofrestredig.

(ch)Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol mewn medrau rheoli ac arwain.

(d)Hyfforddiant personau a gyflogir yn gynorthwywyr ystafell ddosbarth.

(dd)Mesurau i ddarparu cymorth yn yr ystafell ddosbarth a chefnogaeth i athrawon ac athrawesau cymwysedig mewn ysgolion a gynhelir, gan gynnwys cyflogi cynorthwywyr ystafell ddosbarth.

3.—(aGwella cynllunio a chyd-drefnu'r ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant o dan bum mlwydd oed, a datblygu staff sy'n darparu addysg ar gyfer plant o'r fath.

(b)Adolygiad o ddarpariaeth addysgol ar gyfer plant o dan bum mlwydd oed.

4.—(aCefnogaeth i gynlluniau i wella addysgu llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion cynradd gyda golwg ar wella safonau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn yr ysgolion hynny.

(b)Projectau i wella lefelau llythrennedd teuluoedd drwy annog rhieni i gynorthwyo eu plant i ddysgu darllen ac ysgrifennu.

(c)Cefnogaeth i sefydlu a rhedeg ysgolion haf ar lythrennedd ac ysgolion haf ar rifedd.

(ch)Camau i ddatblygu a gweithredu strategaethau i wella safonau llythrennedd yn y Gymraeg a'r Saesneg a safonau rhifedd yn yr ysgolion.

5.—(aHyfforddiant i bersonau a gyflogir yn weithwyr ieuenctid a chymuned a gweithwragedd ieuenctid a chymuned.

(b)Projectau i feithrin ailintegreiddio neu symud personau ifanc ymlaen i ddulliau o addysg neu hyfforddiant sy'n addas i'w hanghenion, eu galluoedd a'u doniau.

(c)Mesurau i ddarparu cyfartaledd cyfle addysgol i bob grŵ p ethnig lleiafrifol, gan gynnwys yn benodol fesurau i gynorthwyo disgyblion y mae Saesneg yn iaith ychwanegol iddynt a mesurau i wella safonau cyrhaeddiad.

(ch)Camau i wella cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion, a lleihau nifer y plant sy'n cael eu gwahardd ohonynt, ac i wella'r ddarpariaeth ar gyfer disgyblion y mae eu hymddygiad yn creu anawsterau i'r ysgolion hynny.

(d)Hyfforddiant i athrawon ac athrawesau sydd â chyfrifoldeb penodol dros amddiffyn plant mewn ysgolion, a hyfforddiant i staff arall mewn ysgolion, pa un a ydynt yn addysgu neu beidio, ac i staff gwasanaethau cynnal awdurdodau addysg lleol mewn perthynas â chamau i gefnogi mesurau a leolir mewn ysgolion i amddifyn plant.

(dd)Camau i wella cyraeddiadau addysgol plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol o fewn ystyr Deddf Plant 1989(8).

6.—(aHyfforddiant i benaethiaid, athrawon ac athrawesau a chynorthwywyr anghenion arbennig mewn ysgolion a gynhelir neu ysgolion arbennig nad ydynt yn ysgolion a gynhelir ac i'r aelodau hynny o staff yr ysgolion hynny neu yng ngwasanaethau cynnal awdurdod addysg ac iddynt gyfrifoldeb am blant ag anghenion addysgol arbennig.

(b)Annog partneriaethau rhwng rhieni, awdurdodau addysg, ysgolion a chyrff gwirfoddol er mwyn sicrhau addysg well i blant ag anghenion addysgol arbennig, drwy ddefnyddio deunyddiau, technoleg gwybodaeth ac amser ychwanegol y staff i gryfhau mewnbwn yr awdurdod addysg i'r cyfarfodydd adolygu blynyddol.

(c)Mesurau i hybu presenoldeb plant ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion prif-ffrwd.

(ch)Cefnogaeth i ddatblygu cysylltiadau rhwng ysgolion arbennig ac ysgolion prif-ffrwd.

(d)Cefnogaeth i blant ag anawsterau emosiynol ac ymddygiadol neu sydd mewn perygl o ddatblgyu anawsterau emosiynol ac ymddygiadol.

(dd)Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgolion a gynhelir ac i'r rheiny sy'n cael eu cyflogi yn yr ysgolion hynny fel athrawon ac athrawesau ac mewn swyddi eraill, wrth ddatblygu polisïau ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig.

(e)Camau i hyrwyddo cydweithio, at ddibenion addysgol, rhwng awdurdodau addysg a chyrff eraill, gan gynnwys cefnogaeth i brojectau peilot dethol i ymchwilio i drefniadau cynllunio rhanbarthol i wella gwasanaethau i blant ag anghenion addysgol arbennig a'u datblygu.

(f)Camau i ddarganfod personau a enwyd.

7.  Hyfforddiant athrawon ac athrawesau i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg y pynciau y mae'n ofynnol eu haddysgu o dan y Cwricwlwm Cenedlaethol.

8.—(aCefnogaeth i ddarpariaeth barhaus, newydd neu gynyddol gan awdurdod addysg o wasanaeth cerddoriaeth canolog, gan gynnwys mesurau i wella ansawdd addysgu cerddoriaeth, i wella cyfartaledd mynediad at wasanaethau cerddoriaeth, i hyrwyddo datblygu corau ac ensembles offerynnol o bob math ac i hyrwyddo cydweithredu rhwng awdurdodau addysg a chyrff eraill.

(b)Cefnogaeth i sefydlu a rhedeg, y tu allan i oriau ysgol, weithgareddau dysgu ar gyfer disgyblion mewn ysgolion a gynhelir, gan gynnwys gweithgareddau ysgogiadol a chreadigol, chwaraeon a chlybiau gwaith cartref ac astudio.

9.—(aCefnogaeth i alluogi ysgolion a gynhelir i sicrhau defnydd effeithiol o'r gwasanaethau addysgol ar rwydwaith sydd ar gael drwy'r Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu.

(b)Cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, rhaglenni a data, a hyfforddiant i athrawon, athrawesau ac aelodau eraill o staff a leolir yn yr ysgol ar ddefnyddio'r cyfarpar, y rhaglenni a'r data i wella addysgu a dysgu yn holl bynciau'r cwricwlwm.

(c)Camau i'w gwneud yn haws i bobl gael defnyddio technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

10.—(aHyfforddiant a datblygiad proffesiynol penaethiaid.

(b)Hyfforddiant fel mentoriaid i benaethiaid.

(c)Datblygiad proffesiynol a hyfforddiant athrawon ac athrawesau (ac eithrio penaethiaid), gan gynnwys datblygiad proffesiynol a hyfforddiant gyda golwg ar ymgeisio am y Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth.

(ch)Hyfforddiant a datblygiad proffesiynol ym maes medrau rheoli ac arwain athrawon, athrawesau a phobl a gyflogir mewn ysgolion yn ysgrifenyddion, ysgrifenyddesau a bwrsariaid ac mewn swyddi gweinyddol eraill.

(d)Cefnogaeth i athrawon ac athrawesau cymwysedig sydd newydd gymhwyso.

(dd)Hyfforddiant ar roi cyngor, cymorth a chefnogaeth i bersonau sy'n ceisio mynd yn athrawon cymwysedig neu gofrestredig neu yn athrawesau cymwysedig neu gofrestredig.

(e)Hyfforddiant i bersonau y rhoddwyd trwydded neu awdurdodiad i addysgu iddynt o dan reoliadau sydd mewn grym am y tro o dan adran 218(3)(9) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 i'w galluogi i fynd yn athrawon cymwysedig neu'n athrawesau cymwysedig.

(f)Cefnogaeth a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol wrth adolygu perfformiad athrawon ac athrawesau (gan gynnwys penaethiaid a dirprwy penaethiaid).

11.  Darparu hyfforddiant a chyngor i bersonau a gyflogir mewn ysgolion ac sy'n ymwneud â chamau y gellid eu cymryd i wella diogelwch tir ac adeiladau ysgolion a diogelwch personol disgyblion a phersonau sy'n gweithio mewn ysgolion.

12.  Gwella safleoedd ysgolion, gan gynnwys —

(a)darparu offer gwylio a gwarchod;

(b)gwella, adnewyddu neu amnewid adeiladau, dodrefn a chyfarpar (ar wahân i gyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) a ddefnyddir at ddibenion addysgol;

(c)darparu a gosod ceblau ar gyfer cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, fel rhan o wella, adnewyddu neu amnewid o'r fath (ond nid darparu a gosod y cyfarpar ei hun); ac

(ch)darparu a gosod cyfarpar (gan gynnwys cyfarpar technoleg gwybodaeth a chyfathrebu) i wella addysgu a dysgu dylunio a thechnoleg yng nghyfnodau allweddol 3 a 4 ac uwchlaw hynny, yn enwedig mewn perthynas â thechnoleg rheoli ac â dylunio a gweithgynhyrchu nwyddau drwy gymorth technoleg a chyfarpar gwybodaeth a chyfathrebu.

13.  Hyfforddiant, ar gyfer athrawon ac athrawesau pynciau y mae cymorth cyntaf ac iechyd a diogelwch yn arbennig o berthnasol iddynt, ac a anelir at eu cymhwyso (neu at eu cymhwyso'n well) i roi cymorth cyntaf ac at roi gwybodaeth iddynt am faterion iechyd a diogelwch.

14.  Darparu staff ychwanegol i gynorthwyo ysgolion yn ystod y cyfnodau pan fydd athrawon ac athrawesau yn mynychu cyrsiau hyfforddu.

(1)

Diwygiwyd Pennod II gan baragraffau 26-28 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 a chan baragraffau 87-91 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2)

O.S. 1997/2009 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1977.

(3)

O.S. 1997/2010 a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1976.

(5)

Sefydlwyd Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru gan adran 14(1) (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (p.40), parhaodd mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 360 o Ddeddf Addysg 1996 a rhoddwyd ei enw cyfredol iddo gan adran 27(1) o Ddeddf Addysg 1997.

(6)

ISBN 1 86112 223 3.

(7)

ISBN 1 86112 2225.

(8)

1989 p.41; diwygiwyd adran 22(1) yn rhagolygol gan adran 107 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(9)

Diwygiwyd adran 218(3) gan adran 14(3) o Ddeddf Addysg 1994 a chan adran 10 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.