4.—(a) Cefnogaeth i gynlluniau i wella addysgu llythrennedd a rhifedd mewn ysgolion cynradd gyda golwg ar wella safonau llythrennedd a rhifedd disgyblion yn yr ysgolion hynny.
(b)Projectau i wella lefelau llythrennedd teuluoedd drwy annog rhieni i gynorthwyo eu plant i ddysgu darllen ac ysgrifennu.
(c)Cefnogaeth i sefydlu a rhedeg ysgolion haf ar lythrennedd ac ysgolion haf ar rifedd.
(ch)Camau i ddatblygu a gweithredu strategaethau i wella safonau llythrennedd yn y Gymraeg a'r Saesneg a safonau rhifedd yn yr ysgolion.