Search Legislation

Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1129 (Cy.117)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

NEWIDIADAU I ARDALOEDD LLYWODRAETH LEOL

Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002

Wedi'i wneud

28 Mawrth 2002

Yn dod i rym

at y dibenion sydd wedi'u disgrifio yn erthygl 1(2)

30 Mawrth 2002

at bob diben arall

2 Mai 2002

Gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, drwy weithredu yn unol ag adran 55(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) wedi gwneud argymhellion i'r Comisiwn ynglyn â chynigion mewn perthynas â chymuned Cynffig yn y Fwrdeistref Sirol honno;

a chan fod y Comisiwn yn ei gweld hi'n dda, yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o'r Ddeddf honno, i wneud cynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;

a chan fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi i'r cynigion hynny effaith, heb eu newid;

a chan fod mwy na chwe wythnos wedi mynd ers i'r cynigion gael eu gwneud;

mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn awr, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2) sydd bellach wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002.

(2Bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar 30 Mawrth 2002 at y dibenion a restrir yn rheoliad 4(1) (y Gorchymyn yn dod yn weithredol) y Rheoliadau fel y'u haddaswyd gan baragraff (4).

(3At bob diben arall, bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym ar y diwrnod penodedig.

(4Yn rheoliad 4(1), ni fydd eitem (e) yn gymwys i gyfansoddiad unrhyw gyngor cymuned newydd.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Comisiwn” (“the Commision”) yw'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru;

  • ystyr “y diwrnod penodedig” (“the appointed day”) yw 2 Mai 2002;

  • ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a baratowyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac sy'n dwyn y teitl “Map Gorchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002” ac sydd wedi'i adneuo yn unol â Rheoliad 5 y Rheoliadau;

  • ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheolidau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (3) fel y'u diwygiwyd; ac

  • ystyr “sy'n bodoli eisoes” (“existing”) mewn perthynas â chymuned Cynffig yw'r gymuned fel y mae'n bodoli ar ddyddiad y Gorchymyn hwn.

Newidiadau i Ardaloedd Cymunedol

3.—(1Bydd cymuned Cynffig sy'n bodoli eisoes yn cael ei dileu.

(2Bydd cymuned newydd yn cael ei chreu o'r enw Corneli sef yr ardal sy'n cael ei dangos ar y map ffiniau.

(3Bydd cymuned newydd yn cael ei chreu o'r enw y Pîl sef yr ardal sy'n cael ei dangos ar y map ffiniau.

(4Os yw ffin sy'n cael ei dangos ar y map ffiniau yn rhedeg ar hyd ffordd, llinell y rheilffordd, troedffordd, dyfrffordd neu nodwedd ddaearyddol debyg, bydd y ffin yn cael ei thrin fel pe bai'n rhedeg ar hyd canol y nodwedd honNo.

(5Naw fydd y nifer o gynghorwyr ar gyfer y naill a'r llall o gymunedau Corneli a'r Pîl.

Etholiadau i gynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl.

4.—(1Bydd yr etholiadau i gynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl yn cael eu cynnal ar yr un pryd ar y diwrnod penodedig a bydd y personau sy'n cael eu hethol yn ymgymryd â'i swyddogaethau ar 6 Mai 2002 ac yn ymddeol ar y pedwerydd dydd ar ôl yr etholiad cyffredin o gynghorwyr yn 2004.

(2Bydd cyfarfod blynyddol cynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl yn cael ei galw gan y swyddog a apwyntiwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont at y diben hwnnw.

(3Bydd y cynghorwyr hynny sy'n dal swydd yng nghymuned Cynffig yn union cyn y diwrnod penodedig yn ymddeol ar y diwrnod hwnnw.

Costau a dynnir gan gynghorau cymuned newydd Corneli a'r Pîl

5.—(1Yn yr erthygl hon—

  • ystyr “yr awdurdod bilio arfaethedig” (“the prospective billing authority”) yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr;

  • ystyr “y cymunedau newydd” (“the new communities”) yw cynghorau cymunedau newydd Corneli a'r Pîl;

  • ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (4);

  • ystyr “y flwyddyn ariannol berthnasol” (“the relevant financial year”) yw'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2002; ac

  • ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Praeseptau) (Cymru) 1995 (5).

(2Bydd i adran 41 Deddf 1992 (cyhoeddi praeseptau gan awdurdodau praeseptio lleol) effaith—

(a)mewn perthynas â chynghorau'r cymunedau newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol; a

(b)mewn perthynas â'r cyfnod sy'n dechrau ar 30 Mawrth 2002 ac sy'n dod i ben yn union cyn y dyddiad i gynghorau cymunedau newydd Corneli a'r Pîl gyhoeddi praeseptau ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol,

gan roi'r is-adran ganlynol yn lle is-adran (3)—

(3) In making calculations in accordance wth section 32 above (originally or by way of substitute) the billing authority shall take into account for the purposes of its estimate under section 32(2) (a) above an amount equal to that specified in article 5(6) of the Bridgend (Cynffig, Cornelly and Pyle Communities) (Electoral Changes) Order 2002..

(3Mewn perthynas â chyngorau'r cymunedau newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol—

(a)bydd i adran 32 o Ddeddf 1992 (cyfrifo angenion cyllidol gan awdurdodau bilio) effaith ond gan hepgor is-adran (6);

(b)bydd i adran 41(4) o Ddeddf 1992 effaith on gan roi'r geiriau “October in the financial year for which it is issued” yn lle'r geiriau “March in the financial year preceding that for which it is issued”; ac

(c)bydd y cyfeiriad yn adran 54(4) Deddf 1992 (pwer i ddynodi awdurdodau) at braesept a ragwelir ei osod gan awdurdod bilio yn unol â rheoliadau o dan adran 41 Deddf 1992 yn cael ei ddehongli fel cyfeiriad at y swm a bennir ym mharagraff (6) o'r erthygl hon.

(4Mewn perthynas â'r swm sy'n cael ei gymryd i ystyriaeth at ddibenion adran 32(2)(a) o Ddeddf 1992 yn rhinwedd paragraff (2) uchod, bydd i Bennod III o Ran I o Ddeddf 1992 (gosod y dreth gyngor) effaith fel pe bai—

(a)y swm yn eitem sy'n cael ei chrybwyll yn darn 35(1) Deddf 1992 (eitemau arbennig) sy'n ymwneud â'r cymunedau newydd; a

(b)ardal yr awdurdod bilio arfaethedig wedi'i chynnwys yn y cymunedau newydd.

(5Bydd cynghorau cymunedau newydd Corneli a'r Pîl yn gwneud y cyfrifiadau sydd eu hangen o dan adran 50 o Ddeddf 1992 (cyfrifo anghenion cyllidol gan awdurdodau bilio) ar gyfer y flwyddyn ariannol berthnasol er mwyn sichrau nad yw'r swm a gyfrifir fel eu hangenion cyllidol ar gyfer y flwyddyn honno yn fwy na'r swm a bennir ym mharagraff (6) isod.

(6Y swm a bennir yn y paragraff hwn mewn perthynas â'r naill a'r llall o gymunedau newydd Corneli a'r Pîl yw pymtheng mil o bunnoedd.

(7Mewn perthynas â chynghorau'r cymunedau newydd, yr awdurdod bilio arfaethedig a'r flwyddyn ariannol berthnasol, bydd i Reoliadau 1995 effaith fel pe bai—

(a)rheoliad 5 (gwybodaeth ar drefnlenni taliadau); a

(b)yn is-baragraffau (1), (2) a (3) o baragraff 8 o Ran II o'r Atodlen (rheolau ar gyfer penderfynu trefnlenni rhandaliadau), ym mhob achos yr ail “or” a'r geiriau sy'n dilyn hyd at ddiwedd pob is-baragraff,

wedi'u hepgor.

Deddfau lleol, gorchmynion ac is-ddeddfau lleol.

6.  Mae cymuned Cynffig sy'n bodoli eisoes wedi'i bennu mewn perthynas â rheoliad 41(4) (Deddfau Lleol, Gorchmynion ac Is-ddeddfau Lleol) y Rheoliadau a phennir drwy hyn gymunedau newydd Corneli a'r Pîl mewn perthynas a'r gymuned honno sy'n bodoli eisoes.

Eiddo, atebolrwydd, contractau, etc., hysbysiadau ac achosion.

7.  Ar y diwrnod penodedig, bydd holl eiddo ac atebolrwydd Cyngor Cymuned Cynffig a bennir yng Ngholofn (1) o'r tabl yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael ei freinio yn yr awdurdod a bennir yng Ngholofn (2).

Llofnodwyd

E.Hart

Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau

28 Mawrth 2002

ATODLEN

Tabl

(1) Y Materion i'w Trosglwyddo(2) Yr Awdurdod y Trosglwyddir y Materion iddo
Hanner unrhyw arian sy'n cael ei ddal mewn cyfrif banc.Cyngor Cymuned Corneli a Chyngor Cymuned y Pîl.
Hanner gwerth yr holl offer swyddfa.Cyngor Cymuned Corneli a Chyngor Cymuned y Pîl.
Y rhent blynyddol o Randiroedd Maudlam, CorneliCyngor Cymuned Corneli
Ffioedd dirprwyo blynyddol mewn perthynas â chae chwarae Meadow Street, Gogledd Corneli, CorneliCyngor Cymuned Corneli
Ffioedd dirprwyo blynyddol mewn perthynas â chae chwarae Groft Goch, Mynyddcynffig, Y PîlCyngor Cymuned y Pîl
Y bathodyn swyddogaeth cyfredolCyngor Cymuned y Pîl
Bathodyn swyddogaeth Cyngor Tref Cynffig gyntCyngor Cymuned Corneli
Atebolrwydd am gynnal ac addurno Neuadd y Cyhoedd, Heol Las, Corneli.Cyngor Cymuned Corneli
Atebolrwydd i yswirio, Neuadd y Cyhoedd, Heol Las (Corneli), y Bathodyn swyddogaeth, y gofgolofn ryfel, Moriah Place, Mynyddcynffig (y Pîl), y llochesi bysus canlynol: Pyle Road (ger Hen Orsaf yr Heddlu) y Pîl, Ffald Road, y Pîl (ger y fynedfa i'r Co-operative Stores), Marlas Road, y Pîl, Pyle Road, y Pîl (ger y modurdy), Pyle Road, y Pîl (ger Margaret’s Wool Shop), Cwrt Anghorfa, Pyle Road, y Pîl, Moriah Place, Mynyddcynffig, Eglwys St. Theodor, Mynyddcynffig Capel Pisgah, Mynyddcynffig, Hawthorne Drive, De Corneli, y Clwb Golff, Waun y Môr, Cynffig, dwy loches bysus wrth Eglwys Maudlam, Maudlam, Heol y Parc, Gogledd Corneli, dwy loches bysus wrth Ffordd yr Eglwys, Gogledd Corneli, dwy loches bysus wrth Broadlands, Gogledd Corneli, Heol Tydraw, y Pîl, Cornelly Cross, Ael y Bryn, Gogledd Corneli, Prince of Wales, Cynffig, Ton Kenfig, Heol Henfoes, Brynamlwg, Gogledd Corneli, Afon y Felin, Gogledd Corneli.Cyngor Cymuned Corneli a Chyngor Cymuned y Pîl ar yr amod bod y naill gyngor a'r llall, os yw'r atebolrwydd mewn perthynas ag adeiladau neu strwythurau yng Ngholofn (1), yn derbyn eu bod yn atebol mewn perthynas a'r fath adeiladau neu strwythurau sydd o fewn eu hardaloedd fel y'u dangosir ar y map ffiniau.
Atebolrwydd i'r cyhoedd, gwarant cywirdeb ac yswiriant rhag damweiniau i'r person.
Atebolrwydd i gynnal hawliau tramwy i'r cyhoedd a gafodd eu cynnwys yn y map swyddogol a baratowyd gan Gyngor Sir Morgannwg Ganol gynt (ac a wnaethpwyd o dan ddarpariaethau Rhan IV o Ddeddf y Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949) ac yn unol â chytundeb asiantaeth a gytunwyd rhwng Cyngor Cymuned Cynffig a Chyngor Sir Morgannwg Ganol gynt yn 1996 er mwyn cynnal yr hawliau tramwy hynny, y seddau ymyl ffordd canlynol: tair sedd wrth Marlas Road, y Pîl, un sedd yn Pandy Crescent, y Pîl, un sedd wrth Pyle Road, y Pîl, un sedd wrth Ffald Road, y Pîl, pedair sedd wrth School Road, Mynyddcynffig, un sedd wrth Penrhyn Gates, Mynyddcynffig, un sedd wrth New Road (ger llain las y ffordd), Mynyddcynffig, dwy sedd wrth Waunbant Road, Mynyddcynffig, un sedd wrth Collwyn, y Pîl, dwy sedd wrth Broadlands, Gogledd Corneli, un sedd wrth Heol Tydraw, un sedd wrth Cornelly Cross, un sedd wrth Ton Kenfig, dwy sedd ger yr Angel Inn, Maudlam a'r llochesi bysus canlynol (gan gynnwys glanhau'r rheini) Ffald Road, y Pîl (ger y fynedfa i'r Co-operative Stores), Pyle Road, Pyle (ger Margaret’s Wool Shop), Cwrt Anghorfa, Pyle Road, y Pîl, Ffald Road, y Pîl, Moriah Place, Mynyddcynffig, Capel Pisgah, Mynyddcynffig, Hawthorne Drive, De Corneli, y Clwb Golff, Waun y Môr, Cynffig, dwy loches bysus wrth Eglwys Maudlam, Maudlam, Heol y Parc, Gogledd Corneli, dwy loches bysus wrth Ffordd yr Eglwys, Gogledd Corneli, dwy loches bysus wrth Broadlands, Gogledd Corneli, Heol Tydraw, y Pîl, Cornelly Cross, Ael y Bryn, Gogledd Corneli, Prince of Wales, Cynffig, Ton Kenfig, Heol Henfoes, Brynamlwg, Gogledd Corneli, Afon y Felin, Gogledd Corneli.Cyngor Cymuned Corneli a Chyngor Cymuned y Pîl ar yr amod bod y fath atebolrwydd yn perthyn i'r hawliau tramwy, seddau ymyl ffordd a llochesi bysus yng Ngholofn (1) ag sydd o fewn eu hardaloedd fel y'u dangosir ar y map ffiniau.
Atebolrwydd dros gyflogau i dalu am y clerc ac ysgrifenyddion y caeau chwarae.Cyngor Cymuned Corneli a Chyngor Cymuned y Pîl.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 55(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”), gall cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru wneud awgrymiadau i'r Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru (“y Comisiwn”) mewn perthynas â dileu neu newid cymunedau yn eu hardal. Yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf 1972, yn dilyn y fath awgrymiadau, gall y Comisiwn wneud y fath gynigion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ag sy'n ymddangos i'r Comisiwn yn fanteisiol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus. Fe all Cynulliad Cenedlaethol Cymru rhoi effaith i unrhyw argymhellion o'r fath o dan adran 58(2) o Ddeddf 1972.

Gwnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr argymhellion i'r Comisiwn mewn perthynas â Chymuned Cynffig o fewn ei ardal. Yn ei dro, ym Mawrth 2001, gwnaeth y Comisiwn argymhellion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi effaith i'r argymhellion hynny.

Mae erthygl 3 yn dileu cymuned Cynffig ac yn creu dwy gymuned newydd, sef cymuned Corneli a chymuned y Pîl sydd yn cael eu dangos ar y map ffiniau sy'n dwyn y teitl “Map o Orchymyn Pen-y-bont ar Ogwr (Cymunedau Cynffig, Corneli a'r Pîl) (Newidiadau Etholiadol) 2002” sydd wedi'i adneuo yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Swyddfeydd Dinesig, Angel Street, Pen-y-bont ar Ogwr ac yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd (yr Is-adran Llywodraeth Leol) a gellir archwilio'r map yn ystod oriau swyddfa arferol.

Mae Erthygl 4 yn darparu bod etholiadau i'w cynnal i'r ddau gyngor cymuned newydd ar 2 Mai 2002. Bydd y cynghorwyr a etholir o ganlyniad yn ymgymryd â'i swyddogaethau ar 6 Mai 2002 ac yn ymddeol ar y pedwerydd dydd ar ôl yr etholiad cyffredin o gynghorwyr yn 2004. Bydd aelodau cyngor cymuned Cynffig yn ymddeol ar 2 Mai 2002.

Mae Erthygl 5 yn ymwneud â'r costau a dynnir gan ddau gyngor cymuned newydd Corneli a'r Pîl, ac mae Erthygl 6 yn pennu'r ddwy gymuned at ddibenion rheoliad 41(4) o Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (Deddfau Lleol, Gorchmynion ac Is-ddeddfau Lleol).

Mae Erthygl 7, drwy gyfeirio at yr Atodlen, yn ymwneud â throsglwyddo materion eiddo penodol o gyngor cymuned Cynffig i'r ddau gyngor cymuned newydd.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)

(3)

O.S. 1976/246 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources