Search Legislation

Rheoliadau Cig (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio—

(a)Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/539, fel y'u diwygiwyd eisoes); a

(b)Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod, (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/540, fel y'u diwygiwyd eisoes),

yn y ddau achos i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae O.S. 1995/539 ac O.S. 1995/540 yn gymwys i Brydain Fawr gyfan. Mae OS 1995/539 yn cael ei ddiwygio gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn ac mae OS 1995/540 yn cael ei ddiwygio gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith yng Nghymru i Benderfyniad y Comisiwn 2001/471/EC sy'n gosod rheolau ar gyfer y gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol sy'n cael eu cyflawni gan y gweithredwyr mewn sefydliadau yn unol â Chyfarwyddeb 64/433/EEC ar amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a marchnata cig ffres a Chyfarwyddeb 71/118/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i roi ar y farchnad (OJ Rhif L165, 21.6.2001, t. 48). Maent yn dod i rym ar 7 Mehefin 2002, ac eithrio mewn perthynas â “sefydliadau cig bach” — a ddiffinnir yn rheoliad 2(3) — ac yn yr achos hwnnw maent yn dod i rym ar 7 Mehefin 2003.

3.  Effaith y diwygiadau sydd wedi'u gwneud i Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 yw—

(a)bod meddiannydd unrhyw ladd - dy, safle torri storfa oer neu ganolfan ailbecynnu yn gorfod gwneud gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol yr amodau cynhyrchu yn y safleoedd hynny a'r rheiny'n wiriadau sydd eisoes yn ofynnol o dan reoliad 20(1)(d) o'r Rheoliadau hynny drwy weithredu a chynnal gweithdrefn barhaol sydd wedi'i llunio yn unol ag egwyddorion penodol DPPhRhC (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol);

(b)bod meddiannydd lladd-dy sydd wedi'i drwyddedu o dan y Rheoliad hyn, wrth wneud y gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol yr amodau cynhyrchu yn y safleoedd hynny y cyfeiriwyd atynt uchod, yn gorfod cyflawni gwiriadau microbiolegol mewn perthynas â charcasau a glanhau'r safleoedd a'u diheintio; ac

(c)bod meddiannydd safle torri, wrth wneud y gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol yr amodau cynhyrchu yn y safleoedd hynny y cyfeiriwyd atynt uchod, yn gorfod cyflawni gwiriadau microbiolegol mewn perthynas â glanhau'r safleoedd a'u diheintio.

4.  Effaith y diwygiadau sydd wedi'u gwneud i Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod, (Hylendid ac Archwilio) 1995 yw bod meddiannydd unrhyw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cigydda dofednod, safle torri add-dy sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer torri cig dofednod ffres, storfa oer sy'n cael ei defnyddio ar gyfer storio cig dofednod ffres neu ganolfan ail-lapio sy'n cael ei defnyddio ar gyfer pacio, lapio neu ail-lapio cig dofednod ffres (sydd, ym mholo achos, wedi'u drwyddedu o dan y Rheoliadau hynny) yn gorfod gwneud y gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol yr amodau cynhyrchu yn y safleoedd hynny a'r rheiny'n wiriadau sydd eisoes yn ofynnol o dan reoliad 18(1)(d) o'r Rheoliadau hynny drwy weithredu a chynnal gweithdrefn barhaol sydd wedi'i llunio yn unol ag egwyddorion penodol DPPhRhC.

5.  Mae Rheoliad 5 (a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972) yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (OS 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

6.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1 EN.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources