(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio—

a

Rheoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/539, fel y'u diwygiwyd eisoes); a

b

Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod, (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/540, fel y'u diwygiwyd eisoes),

yn y ddau achos i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru. Mae O.S. 1995/539 ac O.S. 1995/540 yn gymwys i Brydain Fawr gyfan. Mae OS 1995/539 yn cael ei ddiwygio gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn ac mae OS 1995/540 yn cael ei ddiwygio gan reoliad 4 o'r Rheoliadau hyn.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith yng Nghymru i Benderfyniad y Comisiwn 2001/471/EC sy'n gosod rheolau ar gyfer y gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol sy'n cael eu cyflawni gan y gweithredwyr mewn sefydliadau yn unol â Chyfarwyddeb 64/433/EEC ar amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a marchnata cig ffres a Chyfarwyddeb 71/118/EEC ar broblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i roi ar y farchnad (OJ Rhif L165, 21.6.2001, t. 48). Maent yn dod i rym ar 7 Mehefin 2002, ac eithrio mewn perthynas â “sefydliadau cig bach” — a ddiffinnir yn rheoliad 2(3) — ac yn yr achos hwnnw maent yn dod i rym ar 7 Mehefin 2003.

3

Effaith y diwygiadau sydd wedi'u gwneud i Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Archwilio) 1995 yw—

a

bod meddiannydd unrhyw ladd - dy, safle torri storfa oer neu ganolfan ailbecynnu yn gorfod gwneud gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol yr amodau cynhyrchu yn y safleoedd hynny a'r rheiny'n wiriadau sydd eisoes yn ofynnol o dan reoliad 20(1)(d) o'r Rheoliadau hynny drwy weithredu a chynnal gweithdrefn barhaol sydd wedi'i llunio yn unol ag egwyddorion penodol DPPhRhC (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol);

b

bod meddiannydd lladd-dy sydd wedi'i drwyddedu o dan y Rheoliad hyn, wrth wneud y gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol yr amodau cynhyrchu yn y safleoedd hynny y cyfeiriwyd atynt uchod, yn gorfod cyflawni gwiriadau microbiolegol mewn perthynas â charcasau a glanhau'r safleoedd a'u diheintio; ac

c

bod meddiannydd safle torri, wrth wneud y gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol yr amodau cynhyrchu yn y safleoedd hynny y cyfeiriwyd atynt uchod, yn gorfod cyflawni gwiriadau microbiolegol mewn perthynas â glanhau'r safleoedd a'u diheintio.

4

Effaith y diwygiadau sydd wedi'u gwneud i Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod, (Hylendid ac Archwilio) 1995 yw bod meddiannydd unrhyw sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer cigydda dofednod, safle torri add-dy sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer torri cig dofednod ffres, storfa oer sy'n cael ei defnyddio ar gyfer storio cig dofednod ffres neu ganolfan ail-lapio sy'n cael ei defnyddio ar gyfer pacio, lapio neu ail-lapio cig dofednod ffres (sydd, ym mholo achos, wedi'u drwyddedu o dan y Rheoliadau hynny) yn gorfod gwneud y gwiriadau rheolaidd ar hylendid cyffredinol yr amodau cynhyrchu yn y safleoedd hynny a'r rheiny'n wiriadau sydd eisoes yn ofynnol o dan reoliad 18(1)(d) o'r Rheoliadau hynny drwy weithredu a chynnal gweithdrefn barhaol sydd wedi'i llunio yn unol ag egwyddorion penodol DPPhRhC.

5

Mae Rheoliad 5 (a wnaed o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972) yn gwneud nifer o ddiwygiadau canlyniadol i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Tarddu o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (OS 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

6

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 1, Southgate House, Caerdydd CF10 1 EN.