Search Legislation

Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rhan IVDYLETSWYDDAU AR ÔL GWNEUD CEISIADAU

Dyletswydd y ceisydd ar ôl gwneud cais am ganiatâd i ollwng neu i farchnata

20.—(1Mae'r diwygiad i adran 111 o'r Ddeddf (caniatadau y mae eu hangen gan bersonau penodol) a wnaed gan reoliad 19(1) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002, sy'n mewnosod y canlynol fel ail frawddeg yn is-adran (b)—

  • A notice under this subsection must state the reasons for requiring the further information specified in the notice.

yn effeithiol mewn perthynas â Chymru.

(2Rhaid i geisydd am ganiatâd i ollwng neu i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru o unrhyw wybodaeth yn unol ag adran 111(6A) o'r Ddeddf (y gofyniad i'r ceisydd roi hysbysiad o wybodaeth newydd am risgiau o niwed i'r amgylchedd) gyflwyno yn ysgrifenedig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fersiwn ddiwygiedig o'r cais gwreiddiol am ganiatâd sydd wedi'i ddiwygio i gymryd yr wybodaeth newydd i ystyriaeth.

Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gael ceisiadau am ganiatâd i ollwng

21.  Ar ôl cael cais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;

(b)gwahodd unrhyw berson drwy gyfrwng cais sy'n cael ei osod ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau iddo mewn perthynas â'r gollyngiad cyn diwedd cyfnod sydd i'w bennu, sef cyfnod y mae'n rhaid iddo beidio â bod yn llai na chwe deg diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais i'w law;

(c)sicrhau bod crynodeb o'r cais hwnnw ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 11(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol yn cael ei anfon ymlaen i'r Comisiwn o fewn 30 diwrnod;

(ch)archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r rheoliadau hyn;

(d)gwerthuso'r risgiau y bydd yr amgylchedd yn cael ei niweidio gan y gollyngiad arfaethedig gan barchu'r asesiad risg amgylcheddol;

(dd)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau sy'n ymwneud â risgiau o beri niwed i'r amgylchedd drwy ollwng cyn diwedd y cyfnod a bennwyd yn unol â pharagraff (b) ac unrhyw sylwadau a wnaed gan awdurdod neu awdurdodau cymwys Aelod-wladwriaethau eraill wedi i'r Comisiwn ddosbarthu iddynt y crynodeb y cyfeirir ato ym mharagraff (c).

Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau am ganiatâd i ollwng

22.—(1Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o'r Ddeddf fel y mae'n ymwneud ag amddiffyn iechyd dynol heb gytundeb yr Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch(1).

(2Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi na gwrthod caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd cyfnod o chwe deg diwrnod gan ddechrau ar y dyddiad y daeth y cais am ganiatâd i law.

(3Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyfathrebu ei benderfyniad ar gais am ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig i'r ceisydd a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i'r Comisiwn cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law a chydag unrhyw gais a fydd yn cael ei wrthod rhaid iddo gynnwys y rhesymau dros y penderfyniad.

(4Ni fydd y cyfnod a ragnodwyd ym mharagraff (3) yn cynnwys—

(a)unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu'n ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf bod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais ac sy'n gorffen ar y diwrnod pan fydd yr wybodaeth honno yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu

(b)cyfnod amser pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried sylwadau a gyflwynwyd gan unrhyw bersonau yn unol â rheoliad 21(b), ar yr amod na fydd yr ystyriaeth hon yn ymestyn y cyfnod o 90 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gan fwy na 30 diwrnod.

(5Rhaid i ganiatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig ei gwneud hi'n ofynnol i'r ceisydd anfon unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i asesu'r risg o beri niwed i'r amgylchedd, gyda chyfeiriad penodol, pan fo hynny'n briodol, at unrhyw gynnyrch y bwriedir ei farchnata yn y dyfodol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl cwblhau'r gollyngiad ac wedi hynny, bob hyn a hyn yn ôl yr hyn y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn barnu ei fod yn briodol ar sail canlyniadau'r asesiad risg amgylcheddol.

(6Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon i'r Comisiwn yr wybodaeth a gyflwynwyd iddo yn unol â pharagraff (5).

Amrywio neu ddiddymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig

23.  Dim ond pan fydd gwybodaeth newydd ar gael iddo a allai yn ei farn ef effeithio ar yr asesiad o'r risg o beri niwed i'r amgylchedd y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru amrywio neu ddirymu caniatâd i ollwng organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o'r Ddeddf heb gytundeb deiliad y caniatâd.

Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â cheisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

24.—(1Ar ôl cael cais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;

(b)sicrhau bod crynodeb o'r cais hwnnw ar y ffurf a sefydlwyd gan y Comisiwn o dan Erthygl 13(2)(h) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol yn cael ei anfon yn ddi-oed i'r Comisiwn ac awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau;

(c)archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;

(ch)cyn diwedd y cyfnod o 90 diwrnod, gan ddechrau â'r diwrnod y daeth y cais i'w law, naill ai—

(i)anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi y dylai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata ac o dan ba amodau, neu

(ii)wrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 sy'n nodi na ddylid marchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig;

(d)sicrhau bod copi o'r cais yn cael ei anfon i'r Comisiwn pan gaiff ei fodloni ei fod yn cydymffurfio â'r gofynion a ragnodwyd yn rheoliad 15 a hynny heb fod yn hwyrach na phan y bydd yn anfon ei adroddiad asesu yn unol â pharagraff (ch).

(2Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod—

(i)ei adroddiad asesu,

(ii)unrhyw wybodaeth bellach y mae wedi'i chael oddi wrth y ceisydd yn unol â chyflwyno hysbysiad o dan adran 111(6) o'r Ddeddf,

(iii)unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae wedi seilio'i adroddiad asesu arni,

yn cael eu hanfon ymlaen i'r Comisiwn o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(i), cyn pen diwedd cyfnod o naw deg diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddaeth y cais i law, ac, o dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn rheoliad 24(1)(ch)(ii), heb fod yn gynt na phymtheg diwrnod o'r dyddiad pan anfonodd yr adroddiad asesu at y ceisydd a heb fod yn hwyrach na chant a phum diwrnod o'r dyddiad y daeth y cais i law.

(3Ni chaiff y cyfnodau o naw deg diwrnod a ragnodwyd ym mharagraffau (1) a (2) gynnwys unrhyw gyfnod sy'n dechrau â'r diwrnod y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi rhybudd ysgrifenedig o dan adran 111(6) o'r Ddeddf fod angen gwybodaeth bellach mewn perthynas â'r cais a chan ddiweddu ar y diwrnod y daeth yr wybodaeth i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.

Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

25.—(1Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n dangos y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu marchnata a naill ai—

(a)nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod y cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu

(b)bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb ei benderfynu wedi cael ei ddatrys yn unol ag Erthygl 15(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 105 diwrnod gan ddechrau â'r diwrnod pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu

(c)os oes gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.

(2Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn o'i benderfyniad i roi caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o roi ei ganiatâd.

(3At y diben o gyfrifo'r cyfnod o bedwar deg pum diwrnod terfynol y cant a phum diwrnod yn is-baragraff (1)(b) uchod, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw gyfnod pan ddisgwylir gwybodaeth bellach gan y ceisydd.

(4Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), caiff caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ei roi am uchafswm cyfnod o ddeng mlynedd gan ddechrau â'r diwrnod pan roddwyd y caniatâd.

(5At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig neu epil o'r organedd hwnnw a addaswyd yn enetig a'r epil hwnnw wedi'i gynnwys mewn amrywiad planhigyn lle mae'r amrywiad planhigyn wedi'i fwriadu ar gyfer marchnata ei hadau yn unig o dan ddarpariaethau perthnasol y Gymuned bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl y dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf yr amrywiad planhigyn cyntaf sy'n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar gatalog cenedlaethol swyddogol o'r amrywiadau planhigion yn unol â Chyfarwyddebau 2002/53/EC(2) a 2002/55/EC(3) fel y'u diwygiwyd.

(6At y diben o roi caniatâd i farchnata organedd a addaswyd yn enetig sydd wedi'i gynnwys mewn deunydd fforest atgynhyrchiol, bydd cyfnod y caniatâd cyntaf yn dod i ben fan bellaf ddeng mlynedd ar ôl dyddiad y cynhwyswyd am y tro cyntaf y deunydd sylfaenol sy'n cynnwys yr organedd a addaswyd yn enetig ar gofrestr genedlaethol swyddogol o ddeunydd sylfaenol yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 1999/105/EC(4).

Dyletswyddau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wrth gael ceisiadau am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

26.—(1Wrth gael cais am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)hysbysu'r ceisydd yn ysgrifenedig o'r dyddiad y daeth y cais i law;

(b)archwilio'r cais i weld a yw'n cydymffurfio â gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn ac, os yw hynny'n angenrheidiol, gofyn i'r ceisydd gyflenwi gwybodaeth ychwanegol;

(c)naill ai—

(i)anfon at y ceisydd adroddiad asesu a baratowyd yn unol ag Atodlen 4 ac sy'n nodi y dylid parhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig ac o dan ba amodau, neu

(ii)gwrthod y cais, gan ddatgan y rhesymau dros ei benderfyniad, a hynny wedi'i ategu gan adroddiad asesu sy'n nodi na ddylid parhau i farchnata'r organedd a addaswyd yn enetig;

(ch)sicrhau bod copi o'r cais a'i adroddiad asesu yn cael ei anfon i'r Comisiwn.

(2Pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu cyflwyno i'r Comisiwn adroddiad asesu sy'n nodi y dylid caniatáu i'r organeddau a addaswyd yn enetig y mae'r cais yn ymwneud â hwy gael eu marchnata, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ymgynghori'n gyntaf â'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch a rhaid iddo beidio ag anfon barn ffafriol ymlaen ar y cais fel y mae'n ymwneud â diogelu iechyd dynol os yw'r Weithrediaeth Iechyd a Diogelwch wedi hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru nad yw'n cyflawni gofynion y Ddeddf a'r Rheoliadau hyn.

Penderfyniadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar geisiadau i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig

27.—(1Ni chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno ar gais am adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig ond os yw wedi paratoi adroddiad asesu sy'n nodi y dylid parhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig a naill ai—

(a)nad oes unrhyw wrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn yn ystod cyfnod o 60 diwrnod gan ddechrau â'r dyddiad pan ddosbarthodd y Comisiwn yr adroddiad asesu, neu

(b)bod gwrthwynebiad wedi'i godi neu wrthwynebiadau wedi'u codi gan naill ai awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu gan y Comisiwn ond bod pob un o'r materion a oedd heb eu penderfynu wedi'u datrys yn unol ag Erthygl 17(8) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o fewn cyfnod o 75 diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod y dosbarthodd y Comisiwn ei adroddiad asesu, neu

(c)bod gwrthwynebiad wedi'i godi gan awdurdod cymwys unrhyw Aelod-wladwriaeth neu'r Comisiwn a bod y Comisiwn wedi mabwysiadu penderfyniad yn unol ag Erthygl 18(1) o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol o blaid rhoi caniatâd.

(2Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod yr awdurdod neu awdurdodau cymwys pob Aelod-wladwriaeth a'r Comisiwn yn cael eu hysbysu o'i benderfyniad i adnewyddu'r caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o fewn tri deg diwrnod o'i adnewyddu.

(3Caiff caniatâd a adnewyddwyd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig gael ei roi am uchafswm o 10 mlynedd oni bai bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru o'r farn bod modd cyfiawnhau cyfnod byrrach neu gyfnod hwy, ac os felly rhaid iddo roi ei resymau yn ysgrifenedig.

(4Caiff y ceisydd barhau i farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig o dan yr amodau a bennwyd yn y caniatâd gwreiddiol hyd nes y bydd y cais wedi'i benderfynu'n derfynol.

Organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig

28.—(1Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru beidio â rhoi caniatâd ar gyfer cais am ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig a allai gael effaith andwyol ar iechyd dynol a'r amgylchedd ar ôl—

(i)31 Rhagfyr 2004 yn achos marchnata, a

(ii)31 Rhagfyr 2008 yn achos gollyngiadau.

(2Os cyn 31 Rhagfyr 2004 yn achos marchnata a 31 Rhagfyr 2008 yn achos gollyngiadau, y mae cais yn cael ei wneud am ganiatâd i ollwng neu farchnata organeddau a addaswyd yn enetig sy'n cynnwys marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru werthuso'r wybodaeth yn yr asesiad amgylcheddol sy'n mynd gyda'r cais, gan ystyried yn benodol y marcwyr ymwrthedd gwrthfiotig hynny a ddefnyddir ar gyfer triniaethau meddygol neu filfeddygol, gyda'r nod o ganfod a diddymu'n raddol y weithred o ollwng neu farchnata'r organeddau a addaswyd yn enetig ac y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) o fewn y terfynau amser a bennwyd yn y paragraff hwnnw.

(1)

Gweler adran 10 o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 (p.37).

(2)

O.J. Rhif L193, 20.7.2002, t1.

(3)

O.J. Rhif L193, 20.7.2002, t33.

(4)

Cyfarwyddeb y Cyngor 1999/105/EC ar farchnata deunydd atgenhedlu fforest OJ Rhif L11 15.1.2000 t. 17.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources