Search Legislation

Rheoliadau Organeddau A Addaswyd Yn Enetig (Eu Gollwng Yn Fwriadol) (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliadau 12 ac 17

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL

1.  Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio ac am ollwng yr organeddau, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiad, ac am ei ddiogelwch.

2.  Teitl y prosiect.

Rhan IIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGION RHIENIOL NEU'R PLANHIGYN DERBYN

3.  Enw llawn y planhigyn—

(a)enw teuluol,

(b)genws,

(c)rhywogaeth,

(ch)isrywogaeth,

(d)llinell cyltifar/fridio,

(dd)enw cyffredin.

4.  Gwybodaeth ynghylch—

(a)atgenhedliad y planhigyn:

(i)dull neu ddulliau atgenhedlu,

(ii)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar atgenhedlu,

(iii)amser cenhedliad; a

(b)cydweddoldeb rhywiol y planhigyn â rhywogaethau a gafodd eu trin neu rywogaethau planhigion gwyllt eraill gan gynnwys dosbarthiad y rhywogaeth gydweddol yn Ewrop.

5.  Gwybodaeth ynghylch gallu'r planhigyn i oroesi:

(a)ei allu i ffurfio strwythurau i oroesi neu ar gyfer cysgadrwydd,

(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar ei allu i oroesi.

6.  Gwybodaeth ynghylch gwasgariad y planhigyn:

(a)dull a hyd a lled (megis brasamcan o sut y mae paill a/neu hadau hyfyw yn dirywio dros bellter pan fo hynny'n gymwys) y gwasgariad; a

(b)unrhyw ffactorau penodol sy'n effeithio ar wasgariad.

7.  Dosbarthiad daearyddol y planhigyn.

8.  Pan fo'r cais yn ymwneud â rhywogaeth planhigyn nad yw'n cael ei dyfu yn arferol yn y Deyrnas Unedig, disgrifiad o gynefin naturiol y planhigyn, gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, parasitiaid, cystadleuwyr a symbontiaid.

9.  Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill, sy'n berthnasol i'r organedd a addaswyd yn enetig, rhwng y planhigyn ag organeddau yn yr ecosystem lle caiff ei dyfu'n arferol, gan gynnwys gwybodaeth am effeithiau gwenwynig ar bobl, anifeiliaid ac organeddau eraill.

Rhan IIIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ADDASIAD GENETIG

10.  Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasiad genetig.

11.  Natur a ffynhonnell y fector a ddefnyddiwyd.

12.  Maint, swyddogaeth arfaethedig ac enw'r organedd neu'r organeddau rhoi pob rhan cyfansoddol o'r rhanbarth lle bwriedir eu cynnwys.

Rhan IVGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R PLANHIGYN A ADDASWYD YN ENETIG

13.  Disgrifiad o nodwedd neu nodweddion y planhigyn a addaswyd yn enetig sydd wedi'u cyflwyno neu wedi'u haddasu.

14.  Yr wybodaeth ganlynol am y dilyniannau a fewnroddwyd neu a ddilewyd:

(a)maint a strwythur y mewnosodiad a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad, gan gynnwys gwybodaeth am unrhyw rannau o'r fector a gyflwynwyd i'r planhigyn a addaswyd yn enetig neu unrhyw gariwr neu DNA estron sy'n dal i fod yn y planhigyn a addaswyd yn enetig ,

(b)maint a swyddogaeth y rhanbarth neu'r rhanbarthau a ddilewyd,

(c)rhif copi y mewnosodiad, a

(ch)lleoliad neu leoliadau y mewnosodiad neu'r mewnosodiadau yng nghelloedd y planhigyn (p'un a ydyw wedi'i integreiddio yn y cromosom, y cloroplastau, y mitocondria, neu ar ffurf anintegredig) a'r dulliau ar gyfer ei benderfynu.

15.  Yr wybodaeth ganlynol am fynegi'r mewnosodiad—

(a)gwybodaeth am fynegiant datblygiadol y mewnosodiad yn ystod cylch bywyd y planhigyn a'r dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer ei nodweddiad,

(b)y rhannau o'r planhigyn lle mae'r mewnosodiad wedi'i fynegi, megis gwreiddiau, coesau neu baill.

16.  Gwybodaeth ynghylch sut y mae'r planhigyn a addaswyd yn enetig yn wahanol mewn perthynas â'r planhigyn rhieiniol neu'r planhigyn derbyn o safbwynt y canlynol—

(a)modd neu foddau a/neu gyfradd yr atgenhedlu,

(b)gwasgariad,

(c)y gallu i oroesi.

17.  Sefydlogrwydd genetig y mewnosodiad a sefydlogrwydd ffenotypig y planhigyn a addaswyd yn enetig .

18.  Unrhyw newid i allu'r planhigyn a addaswyd yn enetig i drosglwyddo deunydd genetig i organeddau eraill.

19.  Gwybodaeth am unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu effeithiau niweidiol eraill ar iechyd dynol sy'n deillio o'r addasiad genetig.

20.  Gwybodaeth am ddioglewch y planhigyn a addaswyd yn enetig i iechyd anifeiliaid, yn arbennig unrhyw effeithiau gwenwynig, alergenig neu niweidiol eraill sy'n deillio o'r addasiad genetig, pan fwriedir defnyddio'r planhigyn a addaswyd yn enetig mewn bwydydd anifeiliaid.

21.  Mecanwaith y rhyngweithio rhwng y planhigyn a addaswyd yn enetig ac organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.

22.  Newidiadau posibl yn rhyngweithiadau'r planhigyn a addaswyd yn enetig ag organeddau heb fod yn organeddau targed sy'n deillio o'r addasiad genetig.

23.  Y rhyngweithiadau posibl â'r amgylchedd anfiotig.

24.  Disgrifiad o dechnegau canfod ac adnabod ar gyfer y planhigyn a addaswyd yn enetig.

25.  Gwybodaeth ynghylch unrhyw ollyngiadau blaenorol o'r planhigyn a addaswyd yn enetig, os yw hynny'n gymwys.

Rhan VGWYBODAETH YNGHYLCH SAFLE'R GOLLYNGIAD

(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)

26.  Lleoliad a maint safle'r gollyngiad neu safleoedd y gollyngiadau.

27.  Disgrifiad o ecosystem safle'r gollyngiad, gan gynnwys hinsawdd, fflora a ffawna.

28.  Manylion unrhyw rywogaethau perthnasau gwyllt neu rywogaethau planhigion trin sy'n gydweddol yn rhywiol ac yn bresennol yn safleoedd y gollyngiadau.

29.  Agosrwydd safleoedd y gollyngiadau at fiotopau a gydnabyddir yn swyddogol neu ardaloedd gwarchodedig y gall gollyngiadau effeithio arnynt.

Rhan VIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R GOLLYNGIAD

(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)

30.  Diben gollwng y planhigyn a addaswyd yn enetig, gan gynnwys ei ddefnydd cychwynnol ac unrhyw fwriad i'w ddefnyddio fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.

31.  Y dyddiad neu'r dyddiadau a ragwelir ar gyfer y gollwng a hyd y gollwng.

32.  Y dull a gaiff ei ddefnyddio ar gyfer gollwng y planhigion a addaswyd yn enetig.

33.  Y dull ar gyfer paratoi a rheoli safle'r gollyngiad, cyn, yn ystod ac yn dilyn y gollyngiad, gan gynnwys arferion amaethu a dulliau cynaeafu.

34.  Bras amcan o nifer y planhigion a addaswyd yn enetig (neu blanhigion fesul m2) sydd i'w gollwng.

Rhan VIIGWYBODAETH AM REOLI, MONITRO, CYNLLUNIAU ÔL-OLLWNG A THRIN GWASTRAFF

(Ceisiadau am ganiatâd i ollwng yn unig)

35.  Disgrifiad o—

(a)unrhyw ragofalon i gadw'r planhigyn a addaswyd yn enetig bellter i ffwrdd o rywogaethau planhigion sy'n gydnaws o ran rhyw, perthnasau gwyllt a chnydau.

(b)unrhyw fesurau i leihau neu atal gwasgariad unrhyw organ atgenhedlu y planhigyn a addaswyd yn enetig (megis paill, hadau, cloronen).

36.  Disgrifiad o'r dulliau ar gyfer trin y safle neu'r safleoedd ar ôl y gollyngiad.

37.  Disgrifiad o ddulliau trin y deunydd planhigion a addaswyd yn enetig gan gynnwys gwastraff ar ôl y gollyngiad.

38.  Disgrifiad o gynlluniau a thechnegau monitro.

39.  Disgrifiad o unrhyw gynlluniau argyfwng.

40.  Dulliau a gweithdrefnau i ddiogelu'r safle.

Rhan VIIIGWYBODAETH AM FETHODOLEG

41.  Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.

Rheoliadau 12 a 17

ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CEISIADAU AM GANIATÅD I OLLWNG NEU FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG AC EITHRIO UWCHBLANHIGION A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL

1.  Enw a chyfeiriad y ceisydd, ac enw, cymwysterau a phrofiad y gwyddonydd a phob person arall a fydd yn gyfrifol am gynllunio a gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig, ac am oruchwylio a monitro'r gollyngiadau ac am eu diogelwch.

2.  Teitl y prosiect.

Rhan IIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R ORGANEDDAUAU A ADDASWYD YN ENETIG

Nodweddion yr organeddau rhoi, yr organeddau rhieniol a'r organeddau derbyn

3.  Enw gwyddonol a thacsonomi.

4.  Amrywogaeth, cyltifar neu enw arall arferol.

5.  Marcwyr ffenotypig a genetig.

6.  Graddau'r berthynas rhwng yr organeddau rhoi a derbyn neu rhwng organeddau rhieniol.

7.  Disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod.

8.  Sensitifrwydd, dibynadwyedd (mewn termau meintiol) a phenodoldeb y technegau canfod ac adnabod.

9.  Disgrifiad dosbarthiad daearyddol a chynefin naturiol yr organeddau gan gynnwys gwybodaeth am ysglyfaethwyr naturiol, ysglyfaeth, parasitiaid a chystadleuwyr, symbiontiaid a lletywyr.

10.  Yr organeddau y gwyddys y mae trosglwyddo deunydd genetig yn digwydd drwyddynt o dan amodau naturiol.

11.  Gwiriad o sefydlogrwydd genetig yr organeddau a ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd hwnnw.

12.  Y nodweddion patholegol, ecolegol a ffisiolegol canlynol—

(a)dosbarthu peryglon yn unol â rheolau presennol y Gymuned sy'n ymwneud â diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd;

(b)hyd cenhedliad mewn ecosystemau naturiol, y cylch atgenhedlu rhywiol ac anrhywiol;

(c)gwybodaeth am oroesi, gan gynnwys amrywiad tymhorol, a'r gallu i ffurfio strwythurau goroesi, gan gynnwys hadau, sborau a sglerotia;

(ch)pathogenigrwydd, gan gynnwys heintusrwydd, gwenwyndra, mileindra, alergenigrwydd, cariwr (fector) pathogen, fectorau posibl, ystod lletywyr gan gynnwys organeddau nad ydynt yn darged a'r posibilrwydd y caiff firysau cudd eu hysgogi (profirysau) a'r gallu i gytrefu organeddau eraill;

(d)ymwrthedd gwrthgyrff, a defnydd posibl y gwrthgyrff hyn mewn pobl ac organeddau domestig ar gyfer atal clefydau a therapi;

(dd)rhan mewn prosesau amgylcheddol, gan gynnwys cynyrchu sylfaenol, trosiant maetholion, dadelfeniad deunydd organig a resbiradaeth.

13.  Dilyniant, amledd cynnull a sbesiffigedd fectorau cynhenid, a phresenoldeb genynnau yn y fectorau hynny, sef genynnau sy'n cyflwyno ymwrthedd i bwysau amgylcheddol.

14.  Hanes addasiadau genetig blaenorol.

Nodweddion y fector

15.  Natur a ffynhonnell y fector.

16.  Dilyniant transbosonau, fectorau a segmentau genetig eraill nad ydynt yn codio a ddefnyddir i lunio'r organeddau a addaswyd yn enetig ac i wneud i'r fector a gyflwynwyd a'r mewnosodiad weithredu yn yr organeddau hynny.

17.  Amledd cynnull, galluoedd trosglwyddo genetig a/neu ddulliau o benderfynu'r fector a fewnosodwyd.

18.  Y graddau y mae'r fector wedi'i gyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.

Nodweddion yr organeddau a addaswyd yn enetig

19.  Y dulliau a ddefnyddiwyd ar gyfer yr addasu.

20.  Y dulliau a ddefnyddiwyd—

(a)i lunio mewnosodiadau a chyflwyno'r mewnosodiad neu'r mewnosodiadau i'r organedd sy'n eu derbyn;

(b)i ddileu dilyniant.

21.  Disgrifiad unrhyw fewnosodiad a/neu wneuthuriad y fector.

22.  Purdeb y mewnosodiad o unrhyw ddilyniant anhysbys a gwybodaeth am y graddau y mae'r dilyniant a fewnosodwyd wedi'i chyfyngu i'r DNA sy'n ofynnol i gyflawni'r swyddogaeth arfaethedig.

23.  Y dulliau a'r meini prawf a ddefnyddiwyd ar gyfer dethol.

24.  Dilyniant, hunaniaeth swyddogaethol a lleoliad y segmentau asid niwclëig dan sylw a newidiwyd, a fewnosodwyd neu a ddilewyd, ac yn benodol unrhyw ddilyniant niweidiol hysbys.

Nodweddion organeddau a addaswyd yn enetig

25.  Disgrifiad o nodweddion genetig neu nodweddion ffenotypig ac yn benodol unrhyw nodweddion newydd a allai gael eu mynegi neu nad ydynt bellach yn cael eu mynegi.

26.  Strwythur a swm unrhyw fector neu asid niwclëig rhoi sy'n parhau yng ngwneuthuriad terfynol yr organeddau a addaswyd.

27.  Sefydlogrwydd yr organeddau o safbwynt nodweddion genetig.

28.  Cyfradd a lefel mynegiant y deunydd genetig newydd yn yr organeddau, a dull a sensitifrwydd mesuriad y gyfradd a'r lefel honNo.

29.  Actifedd y cynnyrch genynnol.

30.  Y disgrifiad o dechnegau adnabod a chanfod, gan gynnwys technegau ar gyfer adnabod a chanfod y dilyniant a'r fector a fewnosodwyd.

31.  Sensitifrwydd, dibynadwyedd (yn nhermau meintiol), a sbesiffigedd y technegau canfod ac adnabod.

32.  Hanes gollyngiadau neu ddefnyddiau blaenorol yr organeddau.

33.  Mewn perthynas â iechyd dynol, iechyd anifeiliaid a iechyd planhigion—

(a)effeithiau gwenwynig neu alergenig yr organeddau a/neu eu cynhyrchion metabolig,

(b)cymhariaeth rhwng yr organeddau â'r rhoddwr, y derbynnydd neu (os yw'n briodol) yr organeddau rhieniol mewn perthynas â phathogenigrwydd,

(c)gallu'r organeddau i gytrefu,

(ch)os yw'r organeddau yn bathogenig i bobl sy'n imiwnogymwys—

(i)yr afiechydon a achosir a mecanwaith y pathogenigrwydd gan gynnwys ymledoldeb a mileindra,

(ii)heintusrwydd,

(iii)dogn heintiol,

(iv)ystod lletywyr a'r posibilrwydd o newid,

(v)y posibilrwydd o oroesi y tu allan i'r lletywr dynol,

(vi)presenoldeb fectorau neu ddulliau lledaenu,

(vii)sefydlogrwydd biolegol,

(viii)patrymau ymwrthedd gwrthfiotig,

(ix)alergenedd, a

(x)argaeledd therapïau priodol; a

(d)peryglon eraill y cynnyrch.

Rhan IIIGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R AMODAU AR GYFER GOLLWNG

Y gollyngiad

34.  Disgrifiad o'r gollyngiad bwriadol arfaethedig, gan gynnwys diben neu ddibenion y gollyngiad ac unrhyw fwriad i ddefnyddio'r organedd a addaswyd yn enetig fel neu mewn cynnyrch yn y dyfodol.

35.  Dyddiadau arfaethedig y gollyngiad ac amserlen yr arbrawf gan gynnwys amledd a hyd y gollyngiadau.

36.  Paratoi'r safle cyn y gollyngiad.

37.  Maint y safle.

38.  Y dulliau sydd i'w defnyddio ar gyfer y gollyngiad.

39.  Swm yr organeddau sydd i'w gollwng.

40.  Sut y caiff y safle ei aflonyddu, gan gynnwys math a dull yr amaethu, y cloddio, y dyfrhau neu'r gweithgareddau eraill.

41.  Y mesurau a gymerir i amddiffyn gweithwyr yn ystod y gollyngiad.

42.  Sut y caiff y safle ei drin wedi'r gollyngiad.

43.  Y technegau a ragwelir ar gyfer dileu neu sicrhau nad yw'r organeddau a addaswyd yn enetig yn actif ar ddiwedd yr arbrawf neu ddiben arall y gollyngiad.

44.  Gwybodaeth am ollyngiadau blaenorol yr organeddau a addaswyd yn enetig a'u canlyniadau, ac yn arbennig, gollyngiadau ar raddfeydd gwahanol neu i ecosystemau gwahanol.

Yr amgylchedd (ar y safle ac yn yr amgylchedd ehangach)

45.  Lleoliad daearyddol a chyfeirnod grid cenedlaethol y safle lle bwriedir gollwng, neu'r mannau a ragwelir ar gyfer defnyddio'r cynnyrch.

46.  Agosrwydd ffisegol neu fiolegol safle'r organeddau a addaswyd yn enetig at bobl a biota arwyddocaol eraill.

47.  Agosrwydd at fiotopau arwyddocaol, ardaloedd gwarchodedig neu gyflenwadau dŵ r yfed.

48.  Nodweddion hinsoddol y rhanbarth neu ranbarthau y mae'r gollyngiad yn debygol o effeithio arnynt.

49.  Y nodweddion daearyddol, daearegol a phriddegol.

50.  Y fflora a'r ffawna, gan gynnwys cnydau, da byw a rhywogaethau ymfudol.

51.  Disgrifiad o'r ecosystemau targed a'r rhai nad ydynt yn darged ac y mae'r gollyngiad yn debygol o effeithio arnynt.

52.  Cymhariaeth rhwng cynefin naturiol yr organeddau derbyn â safle neu safleoedd arfaethedig y gollyngiad.

53.  Unrhyw ddatblygiadau neu newidiadau arfaethedig hysbys o ran defnydd tir yn y rhanbarth a allai ddylanwadu ar effaith amgylcheddol y gollyngiad.

Rhan IVGWYBODAETH SY'N YMWNEUD Å'R RHYNGWEITHIADAU RHWNG YR ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG A'R AMGYLCHEDD

Nodweddion sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniad

54.  Y nodweddion biolegol sy'n effeithio ar oroesiad, lluosiad a gwasgariad.

55.  Yr amodau amgylcheddol y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ac a allai effeithio ar oroesiad, lluosiad a lledaeniad gan gynnwys gwynt, dwr, pridd, tymheredd a pH.

56.  Sensitifrwydd i gyfryngau penodol.

Rhyngweithiadau â'r amgylchedd

57.  Cynefin rhagweledig yr organeddau a addaswyd yn enetig.

58.  Yr astudiaethau ar ymddygiad a nodweddion yr organeddau a'u heffaith ecolegol a gynhaliwyd mewn amgylcheddau naturiol efelychiadol, megis microcosmau, ystafelloedd tyfu a thai gwydr.

59.  Y gallu i drosglwyddo deunydd genetig ar ôl y gollyngiad—

(a)o'r organeddau a addaswyd yn enetig i organeddau mewn ecosystemau yr effeithir arnynt,

(b)o organeddau cynhenid i'r organeddau a addaswyd yn enetig.

60.  Y tebygolrwydd y byddai detholiad ar ôl y gollyngiad yn arwain at fynegiad nodweddion annisgwyl ac/neu annymunol yn yr organeddau a addaswyd yn enetig.

61.  Y mesurau a ddefnyddiwyd i sicrhau ac i wirio sefydlogrwydd genetig, disgrifiad o nodweddion genetig a allai atal deunydd genetig rhag cael ei wasgaru neu gadw hynny i'r lleiaf posibl, a dulliau i wirio sefydlogrwydd genetig.

62.  Llwybrau gwasgariad biolegol, dulliau hysbys neu ddulliau posibl o ryngweithio â'r cyfrwng gwasgaru, gan gynnwys anadliad, llyncu, cysylltiad arwyneb a thurio.

63.  Disgrifiad o ecosystemau y gallai'r organeddau a addaswyd yn enetig gael eu gwasgaru iddynt.

64.  Y potensial ar gyfer cynnydd gormodol ym mhoblogaeth yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn yr amgylchedd.

65.  Mantais gystadleuol yr organeddau mewn perthynas â'r organedd neu organeddau derbyn neu rhieniol na chawsant eu haddasu.

66.  Adnabod a disgrifio'r organeddau targed os yw hynny'n berthnasol.

67.  Y mecanwaith a'r canlyniad a ragwelir o'r ryngweithio rhwng yr organeddau a ollyngwyd a'r organeddau targed, os yw hynny'n berthnasol.

68.  Adnabod a disgrifio'r organeddau nad ydynt yn darged ac y gallai gollwng yr organeddau a addaswyd yn enetig effeithio'n andwyol arnynt, a'r mecanweithiau a ragwelir ar gyfer unrhyw ryngweithiad andwyol a ganfuwyd.

69.  Y tebygolrwydd o symudiadau mewn rhyngweithiadau biolegol neu yn yr ystod lletywyr ar ôl y gollwng.

70.  Y rhyngweithiadau y gwyddys amdanynt neu a ragwelir ag organeddau nad ydynt yn darged yn yr amgylchedd, gan gynnwys cystadleuwyr, ysglyfaethau, lletywyr, symbiontiaid, ysglyfaethwyr, parasitiaid a phathogenau.

71.  Y rhan y mae'r organeddau yn ei chwarae mewn prosesau biogeocemegol neu'r rhan y ragwelir y byddant yn ei chwarae.

72.  Unrhyw ryngweithiadau posibl eraill rhwng yr organeddau â'r amgylchedd.

Rhan VGWYBODAETH AM FONITRO, RHEOLI, TRIN GWASTRAFF A CHYNLLUNIAU YMATEB MEWN ARGYFWNG

Technegau monitro

73.  Dulliau ar gyfer olrhain yr organeddau a monitro eu heffeithiau.

74.  Sbesiffigedd (i adnabod yr organeddau a addaswyd yn enetig ac i'w gwahaniaethu o'r rhoddwr, y derbynnydd neu, os yw'n briodol, yr organeddau rhieniol), sensitifrwydd a dibynadwyedd y technegau monitro.

75.  Technegau ar gyfer canfod trosglwyddiad y deunydd genetig a roddwyd i organeddau eraill.

76.  Hyd ac amlder y monitro.

Rheoli'r gollyngiad

77.  Y dulliau a'r gweithdrefnau i osgoi a/neu leihau ymlediad yr organeddau a addaswyd yn enetig y tu hwnt i safle'r gollwng neu'r ardal a ddynodwyd ar gyfer eu defnyddio.

78.  Dulliau a gweithdrefnau i amddiffyn y safle rhag ymyrraeth gan unigolion heb awdurdod.

79.  Dulliau a gweithdrefnau i atal organeddau eraill rhag cael mynediaid i'r safle.

Trin gwastraff

80.  Y math o wastraff a gynhyrchir.

81.  Faint o wastraff a ddisgwylir.

82.  Disgrifiad o'r driniaeth a ragwelir.

Cynlluniau ymateb mewn argyfwng

83.  Y dulliau a'r gweithdrefnau ar gyfer rheoli'r organeddau a addaswyd yn enetig os ydynt yn ymledu'n annisgwyl.

84.  Dulliau, megis difodi'r organeddau a addaswyd yn enetig, ar gyfer dadhalogi'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt.

85.  Dulliau ar gyfer gwaredu neu lanweithio planhigion, anifeiliaid, priddoedd, ac unrhyw beth arall a amlygwyd yn ystod neu ar ôl yr ymlediad.

86.  Dulliau ar gyfer ynysu'r ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan yr ymlediad.

87.  Cynlluniau ar gyfer diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd rhag ofn y bydd effaith annymunol.

Rhan VIGWYBODAETH AM FETHODOLEG

88.  Disgrifiad o'r dulliau a ddefnyddiwyd neu gyfeiriad at y dulliau safonol neu'r dulliau sydd wedi'u cydnabod yn rhyngwladol a ddefnyddiwyd i grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol o dan yr Atodlen hon, ac enw'r corff neu'r cyrff sy'n gyfrifol am gynnal yr astudiaethau.

Rheoliad 17(2)(ch) ac(f) a (6)

ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN CAIS AM GANIATÅD I FARCHNATA ORGANEDDAU A ADDASWYD YN ENETIG

Rhan IGWYBODAETH GYFFREDINOL

1.  Enw masnachol arfaethedig y cynnyrch ac enwau'r organeddau a addaswyd yn enetig yn y cynnyrch, ac unrhyw ddull adnabod, enw neu god penodol a ddefnyddir gan y ceisydd i adnabod yr organedd a addaswyd yn enetig.

2.  Enw a chyfeiriad Cymunedol y person sy'n gyfrifol am osod y cynnyrch ar y farchnad, boed y gwneuthurwr, y mewnforiwr neu'r dosbarthwr.

3.  Enw a chyfeiriad cyflenwr neu gyflenwyr y samplau rheoli.

4.  Disgrifiad o sut y bwriedir defnyddio'r cynnyrch a'r organedd a addaswyd yn enetig, gan amlygu unrhyw wahaniaethau yn y defnydd neu'r dull o reoli'r organedd a addaswyd yn enetig o'i gymharu â chynnyrch tebyg na chafodd ei addasu yn enetig.

5.  Disgrifiad o'r ardal ddaearyddol neu'r ardaloedd daearyddol a'r mathau o amgylchedd lle bwriedir defnyddio'r cynnyrch o fewn y Gymuned, gan gynnwys, lle bo modd, brasamcan o raddfa'r defnydd ym mhob ardal.

6.  Disgrifiad o gategorïau arfaethedig defnyddwyr y cynnyrch, megis diwydiant, amaethyddiaeth neu ddefnydd gan y cyhoedd fel cwsmeriaid.

7.  Gwybodaeth am yr addasiad genetig at ddibenion gosod ar un neu ragor o gofrestrau addasiadau mewn organeddau, y gellir eu defnyddio ar gyfer canfod ac adnabod cynnyrch penodol i hwyluso rheoli ac archwilio ar ôl marchnata. Dylai'r wybodaeth hon gynnwys, os yw'n briodol, cyflwyno samplau o'r organedd a addaswyd yn enetig neu ei ddeunydd genetig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a manylion dilyniannau niwcleotid neu fath arall o wybodaeth sy'n angenrheidiol i adnabod y cynnyrch a'i epil, er enghraifft y fethodoleg ar gyfer canfod ac adnabod y cynnyrch, gan gynnwys data arbrofol sy'n arddangos sbesiffigedd y fethodoleg. Dylid dynodi gwybodaeth nad oes modd ei gosod, am resymau cyfrinachedd, ar y rhan o'r gofrestr sydd yn agored i'r cyhoedd.

8.  Y labelu arfaethedig, a ddylai gynnwys, mewn label neu ddogfen sy'n mynd gyda'r cynnyrch, fel crynodeb o leiaf, enw masnachol y cynnyrch, datganiad i'r perwyl — “This product contains genetically modified organisms”, enw'r organedd a addaswyd yn enetig ac enw a chyfeiriad y person sydd wedi'i sefydlu yn y Gymuned sy'n gyfrifol am ei osod ar y farchnad, a sut i gael gafael ar yr wybodaeth yn y rhan o'r gofrestr sy'n agored i'r cyhoedd.

Rhan IIGWYBODAETH BERTHNASOL YCHWANEGOL

9.  Y mesurau sydd i'w cymryd pe bai organeddau yn y cynnyrch yn dianc neu pe bai'r cynnyrch yn cael ei gamddefnyddio.

10.  Cyfarwyddiadau neu argymhellion penodol ar gyfer storio a thrafod y cynnyrch.

11.  Cyfarwyddiadau penodol ar gyfer monitro a hysbysu'r ceisydd ac, os yw hynny'n angenrheidiol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sy'n gyson â Rhan C o Atodlen VII o'r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol.

12.  Y cyfyngiadau arfaethedig yn y defnydd a gymeradwywyd ar gyfer yr organedd a addaswyd yn enetig, megis lle gellir defnyddio'r cynnyrch ac at ba ddibenion.

13.  Y pacediad arfaethedig.

14.  Amcangyfrif o'r cynnyrch yn y Gymuned a/neu fewnforion iddi.

15.  Unrhyw labelu ychwanegol arafethedig, a allai gynnwys, o leiaf fel crynodeb, yr wybodaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraffau 4 a 5 o Ran I o'r Atodlen hon, neu baragraffau 9 i 12 o'r Rhan hon.

Rheoliadau 24, 26 a 32

ATODLEN 4YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS MEWN ADRODDIAD ASESU

1.  Nodi nodweddion yr organedd derbyn sy'n berthnasol i'r asesiad o'r organeddau a addaswyd yn enetig perthnasol.

2.  Disgrifiad o'r ffordd y mae'r addasiad genetig yn effeithio ar nodweddion yr organeddau.

3.  Nodi unrhyw risgiau hysbys o newid i'r amgylchedd a allai ddeillio o ollwng i'r amgylchedd yr organedd derbyn nas addaswyd.

4.  Asesiad ynghylch a yw'r addasiad genetig wedi'i nodweddu'n ddigonol at ddibenion gwerthuso unrhyw risgiau i iechyd dynol a'r amgylchedd.

5.  Dynodi unrhyw risgiau newydd i iechyd dynol a'r amgylchedd allai ddeillio o ollwng yr organeddau perthnasol a addaswyd yn enetig o'i gymharu â gollwng yr organedd cyfatebol nas addaswyd yn enetig, yn seiliedig ar yr asesiad risg amgylcheddol.

6.  Diweddglo sy'n mynd i'r afael â defnydd arfaethedig o'r cynnyrch, rheoli risg a'r cynllun monitro arfaethedig, ac sy'n datgan a ddylid marchnata'r organeddau perthnasol a addaswyd yn enetig ac o dan ba amodau, neu na ddylid eu marchnata, gan gynnwys rhesymau pam y daethpwyd i'r casgliad hwnnw, ac a fwriedir gofyn am farn awdurdodau cymwys yr Aelod-wladwriaethau eraill a'r Comisiwn ar agweddau penodedig yr asesiad risg amgylcheddol a beth yw'r agweddau hynny.

Rheoliad 39

ATODLEN 5DIRYMIADAU

Y Rheoliadau a DdirymwydCyfeiriadauGraddau'r dirymu
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1992O.S. 1992/3280 fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1993 (O.S. 1993/152), Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1995 (O.S. 1995/304), Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol ac Asesu'r Risg -Diwygio) 1997 (O.S. 1997/1900), a Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) (O.S. 2000/2831).Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1993O.S. 1993/152Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 1995O.S. 1995/304Y Rheoliadau cyfan
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol ac Asesu'r Risg -Diwygio) 1997O.S. 1997/1900Rheoliad 2
Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2000O.S. 2000/2831Rheoliad 31(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources