Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) a (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3189 (Cy.305)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) a (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

18 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym

1 Ionawr 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 29, 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, (1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1), fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i), a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 38(2)(b), i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Estynwyd adran 29 gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (c. 49) (“Deddf 1988”), adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (c. 53) (“Deddf 1980”), adrannau 1 a 7 ac Atodlen 2, paragraff 16(a); gan O.S.1985/39, erthygl 7(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 18 a chan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46) (“Deddf 1997”), Atodlen 2, paragraff 8.

Cafodd adran 41 ei diwygio gan Ddeddf 1980, adrannau 1 ac 20(1) ac Atodlen 1, paragraff 53 ac Atodlen 7; gan O.S.1985/39, erthygl 7(13); a chan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(1) ac Atodlen 10; a chan Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc. 1992 (p.28), adran 2; gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 29 a chan Ddeddf 1997, Atodlen 2, paragraff 13.

Diwygiwyd adran 42 Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Diwygio) 1986 (p.66), adran 3(1); ei hestyn gan Ddeddf 1988, adran 17 a'i diwygio gan O.S. 1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf 1990, adran 12(3) a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 30.

Diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1980, Atodlen 9, paragraff 18(2); gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31 a chan Ddeddf 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraff 14.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf 1999, Atodlen 4, paragraff 37(6).

Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan adrannau 29, 41, 42, 43 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(5).