- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
IECHYD PLANHIGION, CYMRU
Wedi'u gwneud
23 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym
24 Rhagfyr 2002
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002; maent yn gymwys i Gymru, a deuant i rym ar 24 Rhagfyr 2002.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998(3) fel y maent yn gymwys i Gymru yn unol â pharagraff (2) isod.
(2) Yn yr Atodlen, yn y golofn â'r pennawd “Instrument”, ar ôl “Commission Decision 2001/664/EC”, ychwanegir “Commission Decision 2002/903/EC”(4)), ac yn y golofn â'r pennawd “Reference”, ar ôl “OJ No. L233, 31.8.01, p. 49”, ychwanegir “OJ No. L312, 15.11.02, p. 28”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
Rhodri Morgan
Prif Weinidog Cynulliad Cenedlaethol Cymru
23 Rhagfyr 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Penderfyniad y Comisiwn 2002/903/EC (OJ Rhif L312, 15.11.02, t. 28) sy'n diwygio Penderfyniad y Comisiwn 96/301/EC (“y prif Benderfyniad”) (OJ Rhif L115, 9.5.1996, t.47) sy'n awdurdodi Aelod-wladwriaethau, dros dro, i gymryd camau brys yn erbyn lledaenu Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith mewn cysylltiad â'r Aifft. Maent yn gwneud hynny drwy ychwanegu Penderfyniad y Comisiwn 2002/903/EC at y rhestr o offerynnau sy'n diwygio'r prif Benderfyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr Atodlen i Reoliadau Tatws sy'n Deillio o'r Aifft 1998 (OS 1998/201) (rheoliad 2). Mae penderfyniad 2002/903/EC yn adnewyddu'r gyfundrefn y gellir mewnforio tatws o dani i diriogaeth y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer tymor 2002/2003.
Cyfeirir bellach at Pseudomonas solanacearum (Smith) Smith fel Ralstonia solanacearum Smith (Yabuuchi) et al. (gweler Cyfarwyddeb y Cyngor 98/57/EC (OJ Rhif L235, 21.9.1998)).
Nid yw Arfarniad Rheoliadol wedi ei wneud ynglŷn ag ymestyn y rheolaethau hyn i dymor 2002/2003.
O.S. 1998/201, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1998/3167, O.S. 2000/350 (Cy.8), O.S. 2001/2356 (Cy.194) ac O.S. 2002/120 (Cy.14).
OJ Rhif L312, 15.11.02, t. 28.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: