xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliadau 4 a 30

ATODLEN 5GWYBODAETH YCHWANEGOL SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN PAN FYDD PLANT YN CAEL EU LLETYA

1.  Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, y tu mewn a'r tu allan i'r cartref, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

2.  Y manylion canlynol—

(a)eu hystod oedran, eu rhyw a nifer y plant y bwriedir rhoi llety iddynt;

(b)a oes bwriad i letya plant anabl, a oes ganddynt anghenion arbennig neu unrhyw nodweddion arbennig eraill;

(c)ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref gofal eu diwallu.

3.  Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref gofal, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref gofal ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref gofal yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).

4.  Os yw'r cartref gofal yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref gofal o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref gofal, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yno, ar gyfer mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n codi yn sgil maint y cartref.

5.  Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref a'r sail damcaniaethol neu therapiwtig i'r gofal a ddarperir.

6.  Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal.

7.  Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.

8.  Y trefniadau ar gyfer annog plant i gymryd rhan mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.

9.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref gofal ynghylch ei weithredu.

10.  Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.

11.  Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref gofal nad yw wedi'i awdurdodi.

12.  Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig a wnaed ar gyfer plant yn y cartref.

13.  Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.

14.  Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref gofal a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.

15.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion.

16.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o'r cynlluniau lleoliadau.

17.  Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y mae plant i rannu ystafelloedd gwely.

18.  Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref gofal a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.

19.  Manylion polisi'r cartref gofal ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu mewn perthynas â phlant a hawliau plant.