Search Legislation

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 326 (Cy.39)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002

Wedi'u gwneud

13 Chwefror 2002

Yn dod i rym

1 Mawrth 2002

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 12 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw'r gofrestr o athrawon ac athrawesau y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei sefydlu a'i chadw yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf a Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 (3);

  • mae “cyflogydd” (“employer”) mewn perthynas ag athro neu athrawes yn cynnwys person sy'n cymryd yr athro neu'r athrawes ymlaen neu sy'n gwneud trefniadau iddynt gael eu cymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir “cyflogi” a “cyflogaeth” yn unol â hynny;

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

  • ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw'r dyddiad sy'n cael ei hysbysu i gyflogydd gan y Cyngor fel y dyddiad y daw'r ffi'n daladwy;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

  • ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy'n daladwy yn rhinwedd adran 4(4) o'r Ddeddf.

3.  Os gwenir cais am hynny, raid i gyflogydd hysbysu'r Cyngor ynglyn â'r manylion a bennir yn yr Atodlen am unrhyw athro neu athrawes a gyflogir gan y cyflogydd hwnnw ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae'n ofynnol, yn sgil eu cyflogaeth, iddynt gael eu cofrestru yn y Gofrestr yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(4).

4.—(1Rhaid i gyflogydd athro neu athrawes y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o'r taliad cyflog a wneir i'r athro neu'r athrawes yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.

(2Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i athro neu athrawes y mae'r cyflogydd wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) mewn perthynas â hwy oddi wrth y Cyngor ei bod yn ofynnol iddynt sicrhau bod y ffi'n cael ei didynnu o gyflog yr athro neu'r athrawes.

(3Mae'n rhaid i hysbysiad talu nodi'r swm sydd i'w ddidynnu.

(4Dim ond os yw'r Cyngor wedi'i fodloni bod yr athro neu'r athrawes y mae'r hysbysiad yn cael ei roi mewn perthynas â hwy ar y dyddiad hysbysu—

(a)wedi'u cofrestru ar y Gofrestr, neu

(b)ei bod yn ofynnol iddynt fod wedi'u cofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988,

a'u bod heb dalu'r ffi eisoes mewn perthynas â'r cyfnod y mae'r ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn gymwys iddo y gellir rhoi hysbysiad talu i gyflogydd.

5.  O fewn 14 diwrnod ar ôl i'r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 4, rhaid i'r cyflogydd anfon y ffi honno i'r Cyngor.

6.  Wrth anfon y ffi rhaid i'r cyflogydd hysbysu'r Cyngor ynglyn â'r manylion a bennir yn yr Atodlen am yr athro neu'r athrawes yr anfonir y ffi mewn perthynas â hwy.

7.  Nid yw methiant gan unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser sydd wedi'i bennu yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r ddyletswydd honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2002

Rheoliadau 3 a 6

ATODLENYR WYBODAETH SYDD I'W RHOI I'R CYNGOR

1.  Enw'r athro neu'r athrawes.

2.  Y rhif cofrestru swyddogol a roddwyd i'r athro neu'r athrawes, os oes un.

3.  Enw'r ysgol y cyflogir yr athro neu'r athrawes ynddi.

4.  Rhif yswiriant gwladol yr athro neu'r athrawes.

5.  Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall yr athro neu'r athrawes.

6.  Dyddiad geni'r athro neu'r athrawes.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000, a wnaed o dan adran 4(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn galluogi Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i godi ffi am gofrestru a chadw cofnodion athrawon ac athrawesau ar y Gofrestr y maent wedi'i sefydlu o dan y Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogydd sydd wedi'i hysbysu gan y Cyngor ddidynnu unrhyw ffi o'r fath o gyflog yr athro neu'r athrawes a'i hanfon i'r Cyngor o fewn 14 diwrnod, ynghyd â manylion ar gyfer adnabod yr athro neu'r athrawes.

(1)

1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1999/2911). I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

1988 p.40. Mewnosodwyd adran 218(1)(aa) gan adran 11 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998. Rheoliadau Athrawon (Cofrestru Gorfodol) (Cymru) 2000, O.S. 2000/3122 (Cy. 200) oedd y rheoliadau a oedd mewn grym adeg gwneud y rheoliadau hyn.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources