2002 Rhif 326 (Cy.39)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 12 a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 19981 ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru2, ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Ffioedd) 2002 a deuant i rym ar 1 Mawrth 2002.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw'r gofrestr o athrawon ac athrawesau y mae'n ofynnol i'r Cyngor ei sefydlu a'i chadw yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf a Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 3;

  • mae “cyflogydd” (“employer”) mewn perthynas ag athro neu athrawes yn cynnwys person sy'n cymryd yr athro neu'r athrawes ymlaen neu sy'n gwneud trefniadau iddynt gael eu cymryd ymlaen i ddarparu gwasanaethau fel athro neu athrawes heblaw o dan gontract cyflogaeth, a dehonglir “cyflogi” a “cyflogaeth” yn unol â hynny;

  • ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru;

  • ystyr “dyddiad hysbysu” (“notification date”) yw'r dyddiad sy'n cael ei hysbysu i gyflogydd gan y Cyngor fel y dyddiad y daw'r ffi'n daladwy;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;

  • ystyr “ffi” (“fee”) yw unrhyw ffi sy'n daladwy yn rhinwedd adran 4(4) o'r Ddeddf.

3

Os gwenir cais am hynny, raid i gyflogydd hysbysu'r Cyngor ynglyn â'r manylion a bennir yn yr Atodlen am unrhyw athro neu athrawes a gyflogir gan y cyflogydd hwnnw ar ddyddiad a bennir gan y Cyngor ac y mae'n ofynnol, yn sgil eu cyflogaeth, iddynt gael eu cofrestru yn y Gofrestr yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 19884.

4

1

Rhaid i gyflogydd athro neu athrawes y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddynt sicrhau bod y ffi yn cael ei didynnu o'r taliad cyflog a wneir i'r athro neu'r athrawes yn union ar ôl y dyddiad hysbysu.

2

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i athro neu athrawes y mae'r cyflogydd wedi cael hysbysiad (“hysbysiad talu”) mewn perthynas â hwy oddi wrth y Cyngor ei bod yn ofynnol iddynt sicrhau bod y ffi'n cael ei didynnu o gyflog yr athro neu'r athrawes.

3

Mae'n rhaid i hysbysiad talu nodi'r swm sydd i'w ddidynnu.

4

Dim ond os yw'r Cyngor wedi'i fodloni bod yr athro neu'r athrawes y mae'r hysbysiad yn cael ei roi mewn perthynas â hwy ar y dyddiad hysbysu—

a

wedi'u cofrestru ar y Gofrestr, neu

b

ei bod yn ofynnol iddynt fod wedi'u cofrestru felly yn rhinwedd rheoliadau a wnaed o dan adran 218(1)(aa) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988,

a'u bod heb dalu'r ffi eisoes mewn perthynas â'r cyfnod y mae'r ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yn gymwys iddo y gellir rhoi hysbysiad talu i gyflogydd.

5

O fewn 14 diwrnod ar ôl i'r ffi gael ei didynnu yn unol â rheoliad 4, rhaid i'r cyflogydd anfon y ffi honno i'r Cyngor.

6

Wrth anfon y ffi rhaid i'r cyflogydd hysbysu'r Cyngor ynglyn â'r manylion a bennir yn yr Atodlen am yr athro neu'r athrawes yr anfonir y ffi mewn perthynas â hwy.

7

Nid yw methiant gan unrhyw berson i gyflawni unrhyw ddyletswydd o fewn terfyn amser sydd wedi'i bennu yn y Rheoliadau hyn yn rhyddhau'r person hwnnw o'r ddyletswydd honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985

John MarekDirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLENYR WYBODAETH SYDD I'W RHOI I'R CYNGOR

Rheoliadau 3 a 6

1

Enw'r athro neu'r athrawes.

2

Y rhif cofrestru swyddogol a roddwyd i'r athro neu'r athrawes, os oes un.

3

Enw'r ysgol y cyflogir yr athro neu'r athrawes ynddi.

4

Rhif yswiriant gwladol yr athro neu'r athrawes.

5

Cyfeiriad cartref neu gyfeiriad cyswllt arall yr athro neu'r athrawes.

6

Dyddiad geni'r athro neu'r athrawes.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000, a wnaed o dan adran 4(4) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn galluogi Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru i godi ffi am gofrestru a chadw cofnodion athrawon ac athrawesau ar y Gofrestr y maent wedi'i sefydlu o dan y Ddeddf honno.

Mae'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gyflogydd sydd wedi'i hysbysu gan y Cyngor ddidynnu unrhyw ffi o'r fath o gyflog yr athro neu'r athrawes a'i hanfon i'r Cyngor o fewn 14 diwrnod, ynghyd â manylion ar gyfer adnabod yr athro neu'r athrawes.