Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 327 (Cy.40)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

12 Chwefror 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 1(4), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) ac (c), (7)(a) i (h) (j), (8)(c), 25(1), 33, 34(1), 35, 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) ac ar ôl ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae'n credu eu bod yn briodol(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

RHAN ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chartrefi plant yng Nghymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “arweiniad y plant” (“children’s guide”) yw'r arweiniad y cyfeirir ato yn rheoliad 4;

  • ystyr “awdurdod lleoli” (“placing authority”) mewn perthynas â phlentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yw—

    (a)

    yn achos plentyn y mae awdurdod lleol yn gofalu amdano, yr awdurdod lleol hwnnw;

    (b)

    yn achos plentyn nad oes awdurdod lleol yn gofalu amdano—

    (i)

    os yw'n cael ei letya gan gorff gwirfoddol (3), y corff gwirfoddol hwnnw;

    (ii)

    os yw'n cael ei letya mewn ysgol gymwys o dan drefniadau sydd wedi'u gwneud gan awdurdod addysg lleol neu gan awdurdod lleol, yr awdurdod addysg lleol hwnnw neu'r awdurdod lleol hwnnw yn ôl fel y digwydd;

    (iii)

    mewn unrhyw achos arall, rhiant y plentyn;

  • ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforedig, ac eithrio yn rheoliad 17(6) lle mae'n rhaid dehongli'r term yn unol â diben y ddarpariaeth y mae'n cael ei ddefnyddio ynddi;

  • ystyr “cynllun lleoliad” (“placement plan”) yw'r cynllun y cyfeirir ato yn rheoliad 12;

  • ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

  • ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), mewn perthynas â chartref plant, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel y person sy'n rhedeg y cartref hwnnw(4);

  • ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad y cyfeirir ato yn rheoliad 4;

  • ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989(5);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

  • ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), mewn perthynas â chartref plant, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig y cartref hwnnw;

  • ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), mewn perthynas â chartref plant, yw'r person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran II o'r Ddeddf fel rheolwr y cartref hwnnw;

  • dehonglir “rhiant maeth” (“foster parent”) yn unol ag adran 1(7) o'r Ddeddf;

  • ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â chartref plant—

    (a)

    os oes swyddfa wedi'i phennu o dan reoliad 42 ar gyfer yr ardal y mae'r cartref plant wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;

    (b)

    mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol;

  • mae i “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 6;

  • ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig sydd—

    (a)

    yn darparu gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(6),

    (b)

    yn cyflawni gwasanaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997(7); neu

    (c)

    yn darparu gwasanaethau sy'n cyfateb i wasanaethau sy'n cael eu darparu o dan Ran II o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, heblaw'n unol â'r Ddeddf honno;

  • ystyr “ymarferydd deintyddol cofrestredig” (“registered dental practitioner”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr deintyddion sy'n cael ei chadw o dan Ddeddf Deintyddion 1984(8);

  • ystyr “ymchwiliad amddiffyn plant” (“child protection enquiry”) yw ymchwiliad a gynhelir gan awdurdod lleol wrth gyflawni'r swyddogaethau a roddir iddo gan Ddeddf 1989 neu odani; ac

  • ystyr “ysgol gymwys” (“qualifying school”) yw ysgol sy'n gartref plant o fewn ystyr adran 1(6) o'r Ddeddf.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad—

(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn neu at yr Atodlen iddynt sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

(3Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—

(a)cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;

(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac

(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;

a dehonglir cyfeiriadau at gyflogai neu at gyflogi person yn unol â hynny.

(4Yn y Rheoliadau hyn, bernir bod cyfeiriad at berson sy'n gweithio mewn cartref plant yn cynnwys cyfeiriad at berson sy'n gweithio at ddibenion cartref plant.

Sefydliadau nad ydynt yn gartrefi plant

3.—(1At ddibenion y Ddeddf, mae unrhyw sefydliad sy'n dod o fewn unrhyw un o'r disgrifiadau canlynol wedi'i eithrio o fod yn gartref plant—

(a)sefydliad yn y sector addysg bellach fel y'i diffinnir gan adran 91(3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(9);

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (2), unrhyw sefydliad a ddefnyddir i letya plant at ddibenion unrhyw un neu ragor o'r canlynol yn unig—

(i)gwyliau;

(ii)gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliant neu addysg;

cyhyd ag na fydd unrhyw blentyn unigol yn cael ei letya yno am fwy na 28 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o ddeuddeg mis;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (2), safle lle mae person yn darparu gofal dydd o fewn ystyr adran 79(A)(6) o Ddeddf 1989 oni fydd paragraff (3) yn gymwys;

(ch)yn ddarostyngedig i baragraff (2), sefydliad a ddefnyddir i letya plant 16 oed a throsodd at ddibenion un neu ragor o'r canlynol yn unig—

(i)i alluogi'r plant i ymgymryd â hyfforddiant neu brentisiaeth; neu

(ii)gwyliau;

(iii)gweithgaredd hamdden, adloniant, chwaraeon, diwylliant neu addysg;

(d)unrhyw hostel mechnïaeth a gymeradwywyd neu hostel prawf a gymeradwywyd(10);

(dd)unrhyw sefydliad a ddarperir ar gyfer tramgwyddwyr ifanc o dan neu yn rhinwedd adran 43(1) o Ddeddf Carchar 1952(11).

(2Nid yw'r eithriadau ym mharagraff 1(b), (c) ac (ch) yn gymwys i unrhyw sefydliad y mae'r llety y mae yn ei ddarparu yn gyfan gwbl neu'n bennaf i blant o ddisgrifiad sy'n dod o fewn adran 3(2) o'r Ddeddf(12).

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys i safleoedd a ddisgrifir ym mharagraff 1(c) os bydd, mewn unrhyw gyfnod o 12 mis, 28 neu ragor o gyfnodau 24 awr pan fydd mwy na 15 awr o ofal dydd yn cael eu darparu mewn perthynas ag unrhyw un plentyn (boed y plentyn hwnnw o dan wyth oed neu beidio), ac at ddibenion y paragraff hwn rhaid cymryd nad oes unrhyw ofal dydd yn cael ei ddarparu pan fydd plentyn yng ngofal ei riant, ei berthynas neu ei riant maeth.

Datganiad o ddiben ac arweiniad y plant

4.—(1Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r cartref plant ddatganiad a ysgrifennir ar bapur a fydd yn cynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1 (“y datganiad o ddiben”).

(2Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, pan ofynnir amdano, i gael ei archwilio ar unrhyw adeg resymol gan—

(a)unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref plant;

(b)unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;

(c)yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;

(ch)awdurdod lleoli unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref; a

(d)yn achos ysgol gymwys, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac unrhyw berson sy'n arfer un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y ddeddfwriaeth addysg mewn perthynas â'r ysgol;

ac yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant yn cynnwys plentyn y mae llety yn y cartref plant yn cael ei ystyried ar ei gyfer.

(3Rhaid i'r person cofrestredig beidio â chydymffurfio â pharagraff 2(c) mewn perthynas â phlentyn os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu ar gyswllt rhwng y plentyn a'i riant a'i bod yn angenrheidiol cyfyngu ar argaeledd y datganiad, neu unrhyw ran ohono, er mwyn diogelu neu hybu lles y plentyn.

(4Yn y rheoliad hwn ystyr 'deddfwriaeth addysg' yw'r Deddfau Addysg (fel y'u diffinnir gan adran 578 o Ddeddf Addysg 1996(13)).

(5Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad i'r cartref plant ar ffurf sy'n briodol ar gyfer oedran, dealltwriaeth ac anghenion cyfathrebu'r plant sydd i gael eu lletya yn y cartref (“arweiniad y plant”) a rhaid iddo gynnwys—

(a)crynodeb o'r datganiad o ddiben y cartref;

(b)crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlir o dan reoliad 24; ac

(c)cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac un o swyddfeydd Comisiynydd Plant Cymru.

(6Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)darparu copi o arweiniad cyntaf y plant i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)darparu copi o fersiwn gyfredol arweiniad y plant i bob plentyn ac i awdurdod lleoli'r plentyn pan fydd y plentyn yn cael ei letya gyntaf yn y cartref; ac

(c)yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach ar gais y plentyn neu'r awdurdod lleoli.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.

(8Nid oes dim ym mharagraff (7) nac yn rheoliad 30(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol neu i beidio â chydymffurfio â hwy—

(a)unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

(b)yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.

Adolygu'r datganiad o ddiben ac arweiniad y plant

5.—(1Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cadw'r datganiad o ddiben ac arweiniad y plant o dan sylw ac, yn ddarostyngedig i gydymffurfedd â pharagraff (2), eu diwygio os yw'n briodol; a

(b)os diwygir arweiniad y plant, darparu copi diwygiedig i bob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.

(2Pryd bynnag y bydd yn ymarferol, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ynghylch unrhyw ddiwygiad sydd i'w wneud i'r datganiad o ddiben o leiaf 28 diwrnod cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn weithredol.

RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig

6.—(1Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant oni bai bod y person—

(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu

(b)yn gorff ac—

(i)bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref plant; a

(ii)bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

(3Dyma'r gofynion—

(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg y cartref plant, neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw;

(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y cartref plant neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw; ac

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person—

(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 3 i 7 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(14) i rym.

(5Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant—

(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu nac wedi'i ddileu; neu

(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.

Penodi rheolwr

7.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg y cartref plant—

(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref plant; a

(b)os yw'r darparydd cofrestredig—

(i)yn gorff; neu

(ii)heb fod yn berson ffit i reoli cartref plant; neu

(iii)heb fod yn gyfrifol am y cartref plant yn amser llawn o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod yn gyfrifol felly.

(2Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref plant, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—

(a)o enw'r person a benodwyd felly; a

(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.

(3Os y darparydd cofrestredig yw'r person sydd i fod i reoli'r cartref, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.

Ffitrwydd y rheolwr

8.—(1Rhaid i berson beidio â rheoli cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i reoli cartref plant—

(a)oni bai ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r cartref plant;

(b)oni bai, o roi sylw i faint y cartref plant, ei ddatganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi yn sgil unrhyw anabledd)—

(i)bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad y mae eu hangen i reoli'r cartref plant; a

(ii)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny; a

(c)oni bai bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person—

(i)ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(15) i rym.

Y person cofrestredig — gofynion cyffredinol

9.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i'r canlynol—

(a)maint y cartref plant;

(b)datganiad o ddiben y cartref plant; ac

(c)nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi yn sgil unrhyw anabledd),

redeg y cartref neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol;

(2Os yw'r darparydd cofrestredig—

(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu

(b)os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref plant.

(3Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r cartref ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i reoli'r cartref plant.

Hysbysu tramgwyddau

10.—(1Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—

(a)o ddyddiad a man y collfarniad;

(b)o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac

(c)o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.

(2Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(16) (Amddiffyn Plant) rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono ac o ddyddiad a man y cyhuddiad.

RHAN IIIRHEDEG CARTREFI PLANT

PENNOD 1LLES Y PLANT

Hybu lles

11.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei redeg yn y fath fodd ag y bydd—

(a)yn hybu lles y plant sy'n cael eu lletya yno ac yn darparu'n briodol ar ei gyfer; a

(b)yn darparu'n briodol ar gyfer gofal, addysg, goruchwyliaeth, ac os yw'n briodol, driniaeth y plant sy'n cael eu lletya yno.

(2Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cartref yn cael ei redeg—

(a)mewn modd sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y plant sy'n cael eu lletya yno; a

(b)gan roi sylw dyledus i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol ac unrhyw anabledd y plant sy'n cael eu lletya yno.

Cynllun lleoliad y plentyn

12.—(1Cyn darparu llety ar gyfer plentyn mewn cartref plant, neu os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, cyn gynted â phosibl wedyn, rhaid i'r person cofrestredig baratoi cynllun ysgrifenedig (“cynllun lleoliad”) ar gyfer y plentyn, gan ymgynghori ag awdurdod lleoli'r plentyn, a chan nodi yn benodol—

(a)sut y gofelir am y plentyn o ddydd i ddydd, a sut y caiff ei les ei ddiogelu a'i hybu gan y cartref;

(b)y trefniadau ar gyfer gofal iechyd ac addysg y plentyn; ac

(c)y trefniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer cysylltiadau â rhieni, perthnasau a chyfeillion y plentyn.

(2Rhaid i'r person cofrestredig gadw golwg ar y cynllun lleoliad a'i adolygu yn ôl yr angen.

(3Wrth baratoi neu adolygu cynllun lleoliad, rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol a chan roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn, ofyn barn y plentyn a'i chymryd i ystyriaeth.

(4Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)sicrhau bod y cynllun lleoliad yn gyson ag unrhyw gynllun ar gyfer gofal y plentyn sydd wedi'i baratoi gan ei awdurdod lleoli; a

(b)cydymffurfio â cheisiadau rhesymol a wneir gan awdurdod lleoli'r plentyn—

(i)am gael gwybodaeth mewn perthynas â'r plentyn; a

(ii)i ddarparu cynrychiolydd addas i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd y gall eu cynnal ynghylch y plentyn.

Y bwyd a ddarperir ar gyfer y plant

13.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant yn cael—

(a)bwyd sydd—

(i)yn cael ei weini mewn symiau digonol ac ar adegau priodol;

(ii)wedi'i baratoi'n briodol, yn iachus ac yn faethlon;

(iii)yn addas i'w hanghenion ac yn bodloni eu dewisiadau rhesymol; a

(iv)yn ddigon amrywiol; a

(b)modd i gael dŵ r yfed ffres bob amser.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw angen deietegol arbennig sydd gan blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref, oherwydd ei iechyd, ei argyhoeddiad crefyddol, ei darddiad hiliol neu ei gefndir diwylliannol, yn cael ei fodloni.

Darparu dillad, arian poced ac angenrheidiau personol

14.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod anghenion a dewisiadau rhesymol pob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref o ran dillad, gan gynnwys esgidiau, ac angenrheidiau personol yn cael eu bodloni.

(2Rhaid i'r person cofrestredig roi i'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref unrhyw symiau arian mewn perthynas â'u costau personol achlysurol sy'n briodol i'w hoedran a'u dealltwriaeth.

Cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu

15.—(1Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (6) ac (8), hybu cysylltiadau pob plentyn â'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion yn unol â'r trefniadau sydd wedi'u nodi yn ei gynllun lleoliad; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), sicrhau bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu yn y cartref plant i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yno gyfarfod yn breifat ar unrhyw adeg resymol â'i rieni, ei gyfeillion, ei berthnasau, a'r personau a restrir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r personau—

(a)unrhyw gyfreithiwr neu gynghorydd neu eiriolydd arall y mae'r plentyn wedi'i gyfarwyddo neu'n dymuno ei gyfarwyddo;

(b)unrhyw swyddog i Wasanaeth Cyngor a Chymorth y Llysoedd Plant a Theuluoedd a benodir ar gyfer y plentyn(17);

(c)unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer y plentyn am y tro gan ei awdurdod lleoli;

(ch)unrhyw berson sydd wedi'i benodi mewn perthynas ag unrhyw un o ofynion y weithdrefn a bennir yn Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991(18);

(d)unrhyw berson sydd wedi'i benodi fel ymwelydd â'r plentyn o dan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989;

(dd)unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 31 o'r Ddeddf i arolygu ymgymeriadau a reoleiddir dan Ran II o'r Ddeddf;

(e)unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r cartref wedi'i leoli ynddi;

(f)unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi yn unol ag adran 80(2) o Ddeddf 1989 gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal archwiliad o'r cartref plant ac o'r plant sydd yno.

(3Yn achos cartref y mae tystysgrif o dan adran 51 o Ddeddf 1989 mewn grym mewn perthynas ag ef, gall y cyfleusterau fod mewn cyfeiriad sy'n wahanol i gyfeiriad y cartref.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6) ac (8), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael cyfle i ddefnyddio'r canlynol, ar bob adeg resymol, heb gyfeirio at bersonau sy'n gweithio yn y cartref—

(a)ffôn i wneud a derbyn galwadau ffôn arno yn breifat; a

(b)cyfleusterau i anfon a derbyn post yn breifat ac, os yw'r cyfleusterau angenrheidiol yn cael eu darparu i'w defnyddio gan y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, bost electronig yn breifat.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw blentyn anabl sy'n cael ei letya yn y cartref yn cael cyfle i ddefnyddio unrhyw gynorthwyon ac offer y gall fod arno eu hangen oherwydd ei anabledd er mwyn ei hwyluso i gyfathrebu ag eraill.

(6Caiff y person cofrestredig (yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8)) osod cyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau ar gysylltiadau plentyn ag unrhyw berson o dan baragraff (1)(a), neu ar gyfarfodydd preifat y plentyn yn y cartref â'r personau hynny, neu ar ei gyfle i gyfathrebu o dan baragraff (4), os yw o'r farn resymol ei bod yn angenrheidiol eu gosod er mwyn diogelu neu hybu lles y plentyn o dan sylw.

(7Ni all unrhyw fesur gael ei osod gan y person cofrestredig yn unol â pharagraff (6) oni bai—

(i)bod awdurdod lleoli'r plentyn yn cydsynio â gosod y mesur; neu

(ii)bod y mesur yn cael ei osod mewn argyfwng a bod y manylion llawn yn cael eu rhoi i'r awdurdod lleoli o fewn 24 awr o osod y mesur.

(8Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau unrhyw orchymyn llys sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwng y plentyn ac unrhyw berson.

(9Datgenir (er mwyn osgoi amheuon) y gellir dibynnu ar unrhyw reol gyfreithiol ynghylch gorfodaeth neu reidrwydd, yn ogystal â pharagraffau (6) ac (8), os honnir na chydymffurfiwyd â'r rheoliad hwn.

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

16.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig—

(a)y bwriedir iddo ddiogelu plant sy'n cael eu lletya yn y cartref rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a

(b)sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.

(2Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer—

(a)cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sydd, neu a allai fod, yn gwneud ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;

(b)cyfeirio yn ddiymdroi unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n effeithio ar unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant at yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal;

(c)rhoi gwybod (yn unol â rheoliad 29) i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac i awdurdod lleoli'r plentyn fod unrhyw ymholiadau amddiffyn plant sy'n ymwneud ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant wedi'u cychwyn, ynghyd â chanlyniadau dilynol yr ymholiadau;

(ch)cadw cofnodion ysgrifenedig (yn unol â rheoliad 28(1)) o unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod, ac o'r camau a gymerwyd i ymateb iddo;

(d)rhoi ystyriaeth i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant yn y cartref plant yn sgil honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod;

(dd)gofyniad (yn unol â rheoliad 27) fod personau sy'n gweithio yn y cartref yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch plentyn sy'n cael ei letya yno i un o'r canlynol—

(i)y person cofrestredig;

(ii)cwnstabl;

(iii)person sy'n arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o'r Ddeddf;

(iv)un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal; neu

(v)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(e)gwneud trefniadau sy'n rhoi cyfle ar bob adeg i'r personau sy'n gweithio yn y cartref a'r plant sy'n cael eu lletya yno gael gweld gwybodaeth, a hynny ar ffurf briodol, a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal, neu â swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, ynghylch lles neu ddiogelwch y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

(3Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu—

(a)polisi ysgrifenedig ar gyfer atal bwlio yn y cartref plant, sef polisi y mae'n rhaid iddo gynnwys gweithdrefn ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio; a

(b)gweithdrefn i'w dilyn pan fydd unrhyw blentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yn absennol heb ganiatâd.

Rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal

17.—(1Heb ragfarnu paragraff (5), rhaid peidio â defnyddio, ar unrhyw adeg, unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol neu'n afresymol ar blant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, yn unol â'r rheoliad hwn, baratoi a dilyn polisi ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “polisi rheoli ymddygiad”) sy'n nodi—

(a)y mesurau ar gyfer rheoli, atal a disgyblu y gellir eu defnyddio yn y cartref plant; a

(b)drwy ba fodd y mae ymddygiad priodol i'w hyrwyddo yn y cartref.

(3Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cadw golwg ar y polisi rheoli ymddygiad a'i adolygu lle bo'n briodol; a

(b)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw adolygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau o fewn 24 awr o ddefnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu mewn cartref plant fod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud mewn cyfrol a gedwir at y diben, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys—

(a)enw'r plentyn o dan sylw;

(b)manylion ymddygiad y plentyn a arweiniodd at ddefnyddio'r mesur;

(c)disgrifiad o'r mesur a ddefnyddiwyd;

(ch)dyddiad, amser a lleoliad defnyddio'r mesur (gan gynnwys, yn achos unrhyw fath o atal, cyfnod yr atal);

(d)enw'r person a ddefnyddiodd y mesur, ac enw unrhyw berson arall a fu'n bresennol;

(dd)effeithiolrwydd defnyddio'r mesur ac unrhyw ganlyniadau; ac

(e)llofnod person a awdurdodwyd gan y darparydd cofrestredig i wneud y cofnod.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, rhaid peidio â defnyddio'r mesurau canlynol yn erbyn plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant—

(a)unrhyw fath o gosb gorfforol;

(b)unrhyw gosb sy'n ymwneud â chymryd bwyd neu ddiod, neu amddifadu o fwyd neu ddiod;

(c)unrhyw gyfyngiad heblaw cyfyngiad a orfodir yn unol â rheoliad 15, ar y canlynol—

(i)cysylltiadau plentyn â'i rieni, ei berthnasau neu ei gyfeillion;

(ii)ymweliadau â'r plentyn gan ei rieni, ei berthnasau neu ei gyfeillion;

(iii)cyfathrebu'r plentyn ag unrhyw un o'r personau a restrir yn rheoliad 15(2); neu

(iv)ei gyfle i ddefnyddio unrhyw linell gymorth ffôn sy'n cynnig cwnsela neu gyngor i blant;

(ch)unrhyw ofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol neu amhriodol;

(d)defnyddio neu atal meddyginiaeth neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol fel mesur disgyblu;

(dd)atal cwsg yn fwriadol;

(e)gosod unrhyw gosb ariannaol, heblaw gofyniad am dalu swm rhesymol (y gellir ei wneud drwy randaliadau) fel iawndal;

(f)unrhyw archwiliad corfforol agos o blentyn;

(ff)atal unrhyw gynorthwyon neu offer y mae ar blentyn anabl eu hangen;

(g)unrhyw fesur sy'n golygu—

(i)ymglymu plentyn wrth orfodi unrhyw fesur yn erbyn unrhyw blentyn arall; neu

(ii)cosbi grŵ p o blant am ymddygiad plentyn unigol.

(6Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn gwahardd—

(a)cymryd unrhyw gamau gan ymarferydd meddygol neu ddeintyddol cofrestredig, neu yn unol â chyfarwyddiadau ganddynt, sy'n angenrheidiol i amddiffyn iechyd plentyn;

(b)gorfodi gofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol at ddibenion chwaraeon, neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'i addysg neu ag unrhyw gorff y mae ei aelodau yn arfer gwisgo dillad unffurf mewn cysylltiad â'i weithgareddau.

(7Datgenir (er mwyn osgoi amheuon) y gellir dibynnu ar unrhyw reol gyfreithiol ynghylch gorfodaeth neu reidrwydd, yn ogystal â pharagraff (6) os honnir na chydymffurfiwyd â'r rheoliad hwn.

Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden

18.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hybu cyrhaeddiad addysgol plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant, a rhaid i'r gwaith hybu hwnnw sicrhau—

(a)bod y plant yn defnyddio cyfleusterau addysgol sy'n briodol ar gyfer eu hoedran, eu dawn, eu hanghenion, eu diddordebau a'u potensial;

(b)bod arferion y cartref wedi'u trefnu i hybu cyfranogiad plant mewn addysg gan gynnwys astudio preifat; ac

(c)bod cysylltiadau effeithiol yn cael eu cynnal ag unrhyw ysgolion y mae'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn eu mynychu.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref—

(a)yn cael eu hannog i ddatblygu a dilyn diddordebau hamdden priodol; a

(b)yn cael cyfleusterau a gweithgareddau hamdden priodol.

(3Pan fydd unrhyw blentyn mewn cartref plant wedi cyrraedd oedran nad yw'n ofynnol mwyach iddo gael addysg amser llawn orfodol, rhaid i'r person cofrestredig helpu i wneud trefniadau ar gyfer y plentyn mewn perthynas â'i addysg, ei hyfforddiant a'i gyflogaeth, a'u rhoi ar waith.

Cadw defodau crefyddol

19.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob plentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yn cael ei alluogi, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol—

(a)i fynychu gwasanaethau'r argyhoeddiad crefyddol y mae'n perthyn iddo;

(b)i gael hyfforddiant ynddo; ac

(c)i ddilyn unrhyw un o'i ofynion (o ran gwisg, deiet neu fel arall).

Anghenion iechyd plant

20.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hybu ac amddiffyn iechyd y plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant.

(2Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob plentyn wedi'i gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol;

(b)bod gan bob plentyn gyfle i gael unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, seicolegol a seiciatryddol neu gyngor, triniaeth a gwasanaethau nyrsio y gall fod arno'u hangen;

(c)bod pob plentyn yn cael unrhyw gymorth, cymhorthion ac offer unigol y gall fod arno'i angen yng ngoleuni unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol a all fod ganddo;

(ch)bod pob plentyn yn cael canllawiau, cymorth a chyngor ar faterion iechyd a gofal personol sy'n briodol i'w hanghenion a'u dymuniadau;

(d)bod o leiaf un person ar ddyletswydd yn y cartref bob amser sydd â chymhwyster cymorth cyntaf addas; a

(dd)bod unrhyw berson sy'n cael ei benodi i swydd nyrs yn y cartref plant yn nyrs gofrestredig.

Meddyginiaethau

21.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cofnodi unrhyw feddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref plant, eu trafod, eu cadw'n ddiogel, eu rhoi'n ddiogel a'u gwaredu.

(2Yn benodol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

(a)bod unrhyw feddyginiaeth a gedwir mewn cartref plant yn cael ei storio mewn lle diogel er mwyn atal unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yno rhag cael gafael arni heb oruchwyliaeth;

(b)bod unrhyw feddyginiaeth a ragnodir ar gyfer plentyn yn cael ei rhoi fel y'i rhagnodir, i'r plentyn y'i rhagnodwyd ar ei gyfer, ac nid i unrhyw blentyn arall; ac

(c)bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o unrhyw feddyginiaeth a roddir i unrhyw blentyn.

(3Nid yw paragraff (2) yn atal meddyginiaeth—

(a)rhag cael ei storio gan y plentyn y mae wedi'i darparu ar ei gyfer,

(b)rhag cael ei hunan-roi gan y plentyn y mae wedi'i darparu ar ei gyfer,

os yw gwneud hynny yn ddiogel i'r plentyn ac i eraill.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhagnodi” yw—

(a)archebu ar gyfer claf i gael ei ddarparu ar ei gyfer—

(i)o dan adran 41 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 neu'n unol â hi; neu

(ii)fel rhan o gyflawni gwasnaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasnaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997; neu

(b)mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a), rhagnodi ar gyfer claf o dan adran 58 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(19).

Defnyddio gwyliadwriaeth

22.  Yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion i fonitro y mae llys yn eu gosod o dan unrhyw ddeddfiad, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd dyfais ar gyfer gwylio plant yn cael ei defnyddio mewn cartref plant ac eithrio er mwyn diogelu a hybu lles y plentyn o dan sylw neu blant eraill sy'n cael eu lletya yn y cartref plant ac os yw'r amodau canlynol wedi'u bodloni—

(a)bod awdurdod lleoli'r plentyn yn cydsynio â'r wyliadwriaeth o dan sylw;

(b)y darperir ar ei gyfer yng nghynllun lleoliad y plentyn;

(c)i'r graddau y bo'n ymarferol yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn, fod y plentyn o dan sylw yn cael ei hysbysu ymlaen llaw am y bwriad i ddefnyddio'r mesur; ac

(ch)nad yw'r mesur yn fwy cyfyngus nag y mae ei angen, o roi sylw i angen y plentyn i gael preifatrwydd.

Peryglon a diogelwch

23.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob rhan o'r cartref y gall y plant fynd iddynt yn rhydd, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o beryglon i'w diogelwch;

(b)bod unrhyw weithgareddau y mae plant yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o beryglon y gellir eu hosgoi;

(c)bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael eu nodi, a'u diddymu cyn belled ag y gellir; ac

(ch)bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i bersonau sy'n gweithio yn y cartref i gael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf.

Cynrychioliadau a chwynion

24.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cynrychioliadau a chwynion sy'n cael eu gwneud gan neu ar ran plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

(2Rhaid i'r weithdrefn ddarparu, yn benodol—

(a)ar gyfer cyfle i ddatrys y cynrychioliad neu'r gwyn yn anffurfiol mewn cyfnod cynnar;

(b)nad oes neb sy'n destun cwyn yn ymwneud ag unrhyw ran o'i hystyried, heblaw adeg y datrys anffurfiol yn unig os yw hynny'n briodol ym marn resymol y person cofrestredig;

(c)ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch y person cofrestredig;

(ch)i gynrychioliadau a chwynion gael eu gwneud, ac i agweddau eraill ar y weithdrefn gael eu cyflawni, gan berson sy'n gweithredu ar ran plentyn;

(d)ar gyfer trefniadau i'r weithdrefn gael ei gwneud yn hysbys—

(i)i blant sy'n cael eu lletya yn y cartref;

(ii)i'w rhieni;

(iii)i awdurdodau lleoli; a

(iv)i bersonau sy'n gweithio yn y cartref.

(3Rhaid rhoi copi o'r weithdrefn pan ofynnir amdano i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2)(d).

(4Rhaid i'r copi o'r weithdrefn a roddir o dan baragraff (3) gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)manylion y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch cartrefi plant.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gwyn, y camau a gymerwyd mewn ymateb iddi, a chanlyniad yr ymchwiliad.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael eu galluogi i wneud cwyn neu gynrychioliad; a

(b)nad oes dim plentyn yn dioddef unrhyw anfantais am wneud cwyn neu gynrychioliad.

(7Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb iddynt.

(8Nid yw'r rheoliad hwn (ar wahân i baragraff (6)) yn gymwys i unrhyw gynrychioliadau y mae Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991(20) yn gymwys iddynt.

PENNOD 2STAFFIO

Staffio cartrefi plant

25.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y bydd yna bob amser nifer digonol o bersonau a chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad addas, yn gweithio yn y cartref plant, o roi sylw—

(a)i faint y cartref, ei ddatganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi o unrhyw anabledd) a

(b)yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad yw cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y cartref plant yn atal y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant rhag cael unrhyw barhad yn eu gofal sy'n rhesymol er mwyn diwallu eu hanghenion.

Ffitrwydd gweithwyr

26.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio—

(a)â chyflogi person i weithio yn y cartref plant dan gytundeb cyflogaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;

(b)â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref plant oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;

(c)â chaniatau i unrhyw berson arall weithio yn y cartref plant mewn swydd lle gall ddod, yng nghwrs ei ddyletswyddau, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant sy'n cael eu lletya ynddo oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref plant oni bai—

(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i weithio mewn cartref plant;

(b)bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;

(c)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni; ac

(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth (yn ôl fel y digwydd) lawn a boddhaol ar gael am y person mewn perthynas â'r materion canlynol—

(i)ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(21) i rym.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson sy'n dod o dan baragraff (1), neu drefniant arall ynghylch gweithio yn y cartref a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfio â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a

(b)oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, nad oes unrhyw berson o'r fath yn dechrau gweithio mewn cartref plant hyd nes y cydymffurfiwyd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas ag ef.

(5Os yw'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref plant er gwaethaf paragraff (4)(b)—

(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau gwybodaeth lawn am bob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau ynglŷn ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 o Atodlen 2 yn anghyflawn;

(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—

(i)y mater a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2; a

(ii)ac eithrio bod paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno;

(iii)os yw paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 o'r Atodlen honno;

(c)bod yr amgylchiadau yn eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac

(ch)wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, bod y person cofrestredig yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref plant ac nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol ar bob adeg.

Cyflogi staff

27.—(1Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)sicrhau bod pob penodiad parhaol yn ddarostyngedig i gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a

(b)rhoi i bob cyflogai ddisgrifiad swydd yn amlinellu eu cyfrifoldebau.

(2Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol—

(a)yn darparu ar gyfer atal, a chymryd camau eraill heb atal, cyflogai o'i swydd os yw hynny'n briodol er lles diogelwch neu les y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref; a

(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir ar blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref i berson priodol yn sail dros ddechrau achos disgyblu.

(3At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw'r darparydd cofrestredig, un o swyddogion naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer unrhyw un o'i swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r cartref wedi'i leoli ynddi, neu'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu gwnstabl.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir ganddo—

(a)yn cael hyfforddiant, goruchwyliaeth a gwerthusiadau priodol; a

(b)yn cael eu galluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei gyflawni.

PENNOD 3COFNODION

Cofnodion

28.—(1Rhaid i'r person cofrestredig, ar ran awdurdod lleoli plentyn, gadw cofnod ar ffurf adroddiad mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, a hwnnw—

(a)yn cynnwys yr wybodaeth, y dogfennau a'r cofnodion a bennir yn Atodlen 3 mewn perthynas â'r plentyn hwnnw;

(b)yn cael ei gadw yn gyfoes; ac

(c)yn cael ei lofnodi a'i ddyddio gan awdur pob cofnod ysgrifenedig.

(2Rhaid peidio â datgelu'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) i unrhyw berson ac eithrio yn unol â'r canlynol—

(a)unrhyw ddeddfiad yr awdurdodir cael gweld cofnodion o'r fath odano; neu

(b)unrhyw orchymyn llys sy'n awdurdodi cael gweld cofnodion o'r fath.

(3Rhaid i'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)—

(a)cael ei gadw'n ddiogel yn y cartref plant gyhyd ag y bo'r plentyn y mae'n ymwneud ag ef yn cael ei letya yno; a

(b)cael ei ddanfon wedi hynny i awdurdod lleoli'r plentyn(22).

(4Rhaid i'r person cofrestredig gadw y cofnod a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref plant neu, os yw'r cartref yn cau, rhaid iddo ei gadw mewn man arall a threfnu iddo fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd yn gofyn amdano.

(5Rhaid cadw cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) am o leiaf bymtheng mlynedd o ddyddiad y cofnodiad diwethaf, ac eithrio cofnodion am fwydlenni, y mae angen eu cadw am flwyddyn yn unig.

(6Nid yw'r rheoliad hwn na rheoliad 29 yn rhagfarnu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth) nac unrhyw reol gyfreithiol am gofnodion neu wybodaeth.

Digwyddiadau hysbysadwy

29.—(1Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 5 yn digwydd mewn perthynas â chartref plant, rhaid i'r person cofrestredig yn ddi-oed hysbysu'r personau a nodir mewn perthynas â'r digwyddiad yng ngholofn 2 o'r tabl.

(2Dim ond os yw'n angenrheidiol y mae'n rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys enw plentyn.

(3Rhaid i'r person cofrestredig yn ddi-oed hysbysu rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref o unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol sy'n effeithio ar les y plentyn oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny neu y byddai'n rhoi lles y plentyn mewn risg.

(4Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ac a roddir ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

RHAN IVSAFLEOEDD

Ffitrwydd safleoedd

30.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 4(8) rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion cartref plant oni bai bod y safle hwnnw mewn lleoliad, a'i fod o ddyluniad a chynllun ffisegol, sy'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn natganiad y cartref o'i ddiben.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob rhan o'r cartref a ddefnyddir gan blant—

(a)wedi'i goleuo, ei gwresogi a'i hawyru'n ddigonol;

(b)wedi'i diogelu rhag i neb fynd iddynt heb awdurdod;

(c)wedi'i dodrefnu a'i chyfarparu'n addas;

(ch)o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei chadw mewn cyflwr strwythurol da y tu allan a'r tu mewn;

(d)yn cael ei chadw'n lân ac wedi'i haddurno a'i chynnal yn rhesymol; ac

(dd)wedi'i chyfarparu â'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, ac wedi'i haddasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu'r anghenion sy'n codi o anabledd unrhyw blentyn anabl sy'n cael ei letya yn y cartref.

(3Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei gadw'n rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y canlynol ar gael o fewn y cartref plant i gael eu defnyddio gan y plant sy'n cael eu lletya yno mewn preifatrwydd priodol—

(a)nifer digonol o fasnau ymolchi a baddonau neu gawodydd gyda chyflenwad dŵ r rhedegog poeth ac oer; a

(b)nifer digonol o doiledau,

ar gyfer nifer a rhyw y plant sy'n cael eu lletya.

(5Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant—

(a)celfi cegin, llestri a chytleri ac offer addas a digonol;

(b)cyfleusterau digonol ar gyfer paratoi a storio bwyd; ac

(c)i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, cyfleusterau digonol i blant baratoi eu bwyd eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny ac os ydynt o oedran a gallu i wneud hynny.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau digonol ar gael o fewn cartref plant ar gyfer golchi llieiniau a dillad, ac, ar gyfer y plant sy'n dymuno gwneud hynny, i olchi, sychu a smwddio eu dillad eu hunain.

(7Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y canlynol yn cael eu darparu o fewn cartref plant—

(a)digon o le cyffredin ar gyfer eistedd, hamdden a bwyta;

(b)cyfleusterau ar gyfer astudiaeth breifat sy'n briodol i oedran ac anghenion addysgol y plant sy'n cael eu lletya.

(8Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob plentyn yn cael lle i gysgu sydd—

(a)yn addas i'w anghenion gan gynnwys yr angen am breifatrwydd; a

(b)wedi'i gyfarparu â dodrefn, cyfleusterau storio, goleuadau, dillad gwely a chelfi eraill gan gynnwys gorchuddion i'r ffenestri ac i'r llawr sy'n addas i'w anghenion.

(9Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn rhannu ystafell wely gydag oedolyn, nac ychwaith (ac eithrio yn achos brodyr a chwiorydd) gyda phlentyn o'r rhyw arall, na chyda phlentyn o oedran sy'n arwyddocaol wahanol.

(10Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer personau sy'n gweithio yn y cartref plant—

(a)cyfleusterau a llety addas, heblaw lle i gysgu, gan gynnwys—

(i)cyfleusterau ar gyfer newid;

(ii)cyfleusterau storio;

(b)lle i gysgu os oes angen hynny mewn cysylltiad â'u gwaith yn y cartref.

Rhagofalon tân

31.—(1Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cymryd rhagofalon digonol rhag risg tân, gan gynwys darparu offer tân;

(b)darparu dulliau dianc digonol;

(c)gwneud trefniadau addas ar gyfer y canlynol—

(i)canfod, cyfyngu a diffodd tanau;

(ii)rhoi rhybuddion tân;

(iii)gwacáu'r adeilad os digwydd tân;

(iv)cynnal a chadw'r holl offer tân; a

(v)adolygu'r rhagofalon tân, a phrofi'r offer tân, ar adegau addas;

(ch)gwneud trefniadau i'r personau sy'n gweithio yn y cartref gael hyfforddiant addas mewn atal tân;

(d)sicrhau, drwy gyfrwng ymarferion tân ar adegau addas, fod y personau sy'n gweithio yn y cartref ac, i'r graddau y mae'n ymarferol, y plant sy'n cael eu lletya yno, yn ymwybodol o'r weithdrefn sydd i'w dilyn os digwydd tân;

(dd)ymgynghori â'r awdurdod tân am y materion sy'n cael eu disgrifio yn is-baragraffau (a) i (d).

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “awdurdod tân” yw'r awdurdod sy'n cyflawni, yn yr ardal y mae cartref plant wedi'i leoli ynddi, swyddogaeth awdurdod tân o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân 1947(23).

RHAN VRHEOLI CARTREFI

Ymweliadau gan y darparydd cofrestredig

32.—(1Os yw'r darparydd cofrestredig yn unigolyn nad yw'n rheoli'r cartref, rhaid iddo ymweld â'r cartref yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Os corff yw'r darparydd cofrestredig, rhaid i'r canlynol ymweld â'r cartref yn unol â'r rheoliad hwn—

(a)yr unigolyn cyfrifol;

(b)un arall o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff ac sy'n addas i ymweld â'r cartref; neu

(c)cyflogai i'r corff nad yw'n ymwneud yn uniongyrchol â rheoli'r cartref ac sy'n addas i ymweld â'r cartref.

(3Rhaid i ymweliadau o dan baragraff (1) neu (2) ddigwydd o leiaf unwaith y mis a gallant fod yn ddirybudd.

(4Rhaid i'r person sy'n ymweld—

(a)cyfweld, gyda'u cydsyniad ac yn breifat, ag unrhyw un o'r plant sy'n cael eu lletya yno, eu rhieni, eu perthnasau ac unrhyw un o'r personau sy'n gweithio yn y cartref y mae'n ymddangos iddo eu bod yn angenrheidiol er mwyn ffurfio barn am safon y gofal sy'n cael ei ddarparu yn y cartref;

(b)archwilio safle'r cartref plant, ei lòg dyddiol o ddigwyddiadau a'i gofnod o unrhyw gwynion; ac

(c)paratoi adroddiad ysgrifenedig ynghylch sut mae'r cartref yn cael ei redeg.

(5Rhaid i'r darparydd cofrestredig roi copi o'r adroddiad y mae'n ofynnol ei gyflwyno o dan baragraff (4)(c)—

(a)i reolwr cofrestredig y cartref plant a rhaid iddo gadw'r adroddiad yn y cartref; ac

(b)yn achos ymweliad o dan baragraff (2), i bob un o'r cyfarwyddwyr neu'r personau eraill sy'n gyfrifol am reoli'r corff.

Adolygu ansawdd y gofal

33.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sefydlu a chynnal system—

(a)ar gyfer monitro ac adolygu'r materion a nodir yn Atodlen 6 bob hyn a hyn fel y bo'n briodol, ac

(b)ar gyfer gwella ansawdd y gofal a ddarperir yn y cartref.

(2Rhaid i'r person cofrestredig roi adroddiad i swyddfa brioodol y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob adolygiad a gynhelir at ddibenion paragraff (1), a threfnu bod copi ar gael ar gais i'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, eu rhieni a'r awdurdodau lleoli.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r system y cyfeirir ati ym mharagraff (1) ddarparu ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, eu rhieni a'u hawdurdodau lleoli.

(4Rhaid i'r person cofrestredig beidio ag anelu at sicrhau ymgynghoriad â rhiant plentyn o dan baragraff (3) os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu ar gysylltiadau rhwng y plentyn a'r rhiant a'i bod yn angenrheidiol atal ymgynghoriad o'r fath, neu gyfynu arno, er mwyn hybu neu ddiogelu lles y plentyn.

Rheoliadau a safonau gofynnol cenedlaethol

34.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod copi o'r Rheoliadau hyn (ac o unrhyw ddiwygiadau iddynt) ac o'r safonau gofynnol cenedlaethol(24) (ac o unrhyw ddiwygiadau iddynt) sy'n gymwys i gartrefi plant a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 23(1) o'r Ddeddf yn cael eu cadw yn y cartref a threfnu eu bod ar gael pan ofynnir amdanynt—

(a)i unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref;

(b)i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref; ac

(c)i riant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.

Y sefyllfa ariannol

35.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig redeg y cartref plant mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd y cartref yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei ddatganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r darparydd cofrestredig—

(a)sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cadw mewn perthynas â chartref plant a'u cadw'n gyfoes;

(b)rhoi copi o'r cyfrifon i'r Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano.

(3Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn amdani er mwyn ystyried hyfywedd ariannol y cartref plant, gan gynnwys—

(a)cyfrifon blynyddol y cartref, wedi'u hardystio gan gyfrifydd;

(b)tystlythyr gan fanc yn mynegi barn am sefyllfa ariannol y darparydd cofrestredig;

(c)gwybodaeth am ariannu'r cartref a'i adnoddau ariannol;

(ch)os cwmni yw'r darparydd cofrestredig, gwybodaeth am unrhyw un o'i gwmnïau cysylltiedig; a

(d)tystysgrif yswiriant i'r darparydd cofrestredig mewn perthynas â'r rhwymedigaeth y gallai ei thynnu mewn perthynas â'r cartref ynghylch marwolaeth, niwed, rhwymedigaeth gyhoeddus, difrod neu golled arall.

(4Yn y rheoliad hwn mae cwmni'n gwmni cysylltiedig ag un arall os oes gan un ohonynt reolaeth ar y llall neu os yw'r ddau o dan reolaeth yr un person.

RHAN VIAMRYWIOL

Hysbysu absenoldeb

36.—(1Os yw—

(a)darparydd cofrestredig sy'n rheoli cartref plant; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

i fod yn absennol o'r cartref am gyfnod di-dor o 28 diwrnod neu fwy, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb.

(2Ac eithrio mewn achos brys, rhaid i'r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi heb fod yn hwyrach nag un mis cyn i'r absenoldeb ddechrau neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y gellir cytuno arno gyda'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid i'r hysbysiad bennu mewn perthynas â'r absenoldeb—

(a)pa mor hir fydd yr absenoldeb neu pa mor hir y disgwylir iddo fod;

(b)y rheswm drosto;

(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg y cartref;

(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a fydd yn gyfrifol am y cartref yn ystod yr absenoldeb hwnnw; a

(d)enw, cyfeiriad a chymwysterau y person a benodir yn unol â rheoliad 6(2);

(dd)y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r cartref plant yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys erbyn pa ddyddiad y mae'r penodiad i'w wneud.

(3Os yw absenoldeb y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r darparydd cofrestredig roi hysbysiad o'r absenoldeb o fewn un wythnos wedi i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion yn is-baragraff (a) i (d) o baragraff (2).

(4Os yw—

(a)darparydd cofrestredig sy'n rheoli'r cartref plant; neu

(b)rheolwr cofrestredig,

wedi bod yn absennol o'r cartref plant am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu ragor, ac na roddwyd hybysiad i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i'r swyddfa honno yn pennu'r materion a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) o baragraff (2).

(5Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol fod person a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (4) wedi dychwelyd i'r gwaith a hynny heb fod yn hwyrach na saith diwrnod ar ôl iddo ddychwelyd.

Hysbysu newidiadau

37.  Rhaid i'r person cofrestredig roi hysbysiad ysgrifenedig i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n ymarferol gwneud hynny—

(a)bod person heblaw darparydd cofrestredig yn rhedeg neu'n rheoli'r cartref plant neu'n bwriadu ei redeg neu ei reoli;

(b)bod person yn rhoi'r gorau i redeg neu i reoli'r cartref, neu'n bwriadu rhoi'r gorau iddi;

(c)os yw'r darparydd cofrestredig yn unigolyn, ei fod yn newid, neu'n bwriadu newid, ei enw;

(ch)os yw darparydd cofrestredig yn gorff—

(i)bod enw neu gyfeiriad y corff yn cael ei newid, neu fod bwriad i'w newid;

(ii)bod unrhyw newid cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall i'r corff yn digwydd, neu fod bwriad i hynny ddigwydd;

(iii)bod unrhyw newid o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol yn digwydd, neu fod bwriad i hynny ddigwydd;

(d)os yw darparydd cofrestredig yn unigolyn, bod ymddiriedolwr mewn methdaliad yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi, neu fod cyfamod neu drefniant yn cael neu'n debygol o gael ei wneud gyda chredydwyr;

(dd)os yw darparydd cofrestredig yn gwmni, bod derbynnydd, datodwr neu ddatodwr dros dro yn cael, neu'n debygol o gael ei benodi;

(e)os yw darparydd cofrestredig mewn partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg cartref plant, bod derbynnydd neu reolwr yn cael, neu'n debygol o gael, ei benodi ar gyfer y bartneriaeth; neu

(f)bod safle'r cartref yn cael ei newid neu ei estyn yn arwyddocaol, neu fod bwriad i'w newid neu i'w estyn, neu fod safle ychwanegol yn cael ei sicrhau, neu fod bwriad i'w sicrhau.

Penodi datodwyr etc

38.—(1Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo—

(a)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o'i benodiad yn achos pob cartref plant y mae'r penodiad yn ymwneud ag ef, gan nodi'r rhesymau dros ei benodi;

(b)penodi rheolwr i gymryd gofal llawn amser o ddydd i ddydd o'r cartref plant mewn unrhyw achos lle nad oes rheolwr cofrestredig; ac

(c)o fewn 28 diwrnod o gael ei benodi, hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'i fwriadau ynghylch gweithredu pob cartref plant y mae'r penodiad yn ymwneud ag ef yn y dyfodol.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir—

(a)yn dderbynnydd eiddo cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig cartref plant;

(b)yn ddatodwr neu ddatodwr dros dro cwmni sy'n ddarparydd cofrestredig cartref plant; neu

(c)yn dderbynnydd neu reolwr eiddo partneriaeth y mae ei busnes yn cynnwys rhedeg cartref plant; neu

(ch)yn ymddiriedolwr mewn methdaliad i ddarparydd cofrestredig cartref plant.

Marwolaeth person cofrestredig

39.—(1Os oes mwy nag un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref plant, a bod person cofrestredig yn marw, rhaid i berson cofrestredig sy'n dal yn fyw hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig o'r farwolaeth yn ddi-oed.

(2Os nad oes ond un person wedi'i gofrestru mewn perthynas â chartref plant, a'i fod yn marw, rhaid i'w gynrychiolwyr personol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig—

(a)o'r farwolaeth yn ddi-oed; a

(b)o fewn 28 diwrnod o'u bwriadau ynghylch rhedeg y cartref yn y dyfodol.

(3Caiff cynrychiolwyr personol darparydd cofrestredig marw redeg y cartref heb fod wedi'u cofrestru mewn perthynas ag ef—

(a)am gyfnod heb fod yn hwy nag 28 diwrnod; a

(b)am unrhyw gyfnod pellach a benderfynir yn unol â pharagraff (4).

(4Gall y Cynulliad Cenedlaethol ddyfarnu cyfnod, heb fod yn fwy na blwyddyn, at ddibenion pargraff (3)(b) a rhaid iddynt hysbysu unrhyw ddyfarniad o'r fath yn ysgrifenedig i'r cynrychiolwyr personol.

(5Rhaid i'r cynrychiolwyr personol benodi person i reoli'r cartref yn ystod unrhyw gyfnod pan fyddant yn rhedeg y cartref plant, yn unol â pharagraff (3), heb fod wedi'u cofrestru ar ei gyfer.

Tramgwyddau

40.—(1Mae torri neu fethu â chydymffurfio â darpariaethau rheoliadau 4 i 37 yn dramgwydd.

(2Heb ragfarnu pwerau'r Cynulliad o dan adran 29 o'r Ddeddf(25) i ddwyn achos yn erbyn personau a fu unwaith, ond nad ydynt mwyach, yn gofrestredig mewn perthynas â chartref plant, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddwyn achos yn erbyn person a fu unwaith, ond nad yw mwyach, yn berson cofrestredig, mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â rheoliad 28(5) ar ôl iddo beidio â bod yn berson cofrestredig.

Cydymffurfio â'r rheoliadau

41.  Os oes mwy nag un person cofrestredig mewn perthynas â chartref plant, ni fydd yn ofynnol i unrhyw un o'r personau cofrestredig wneud unrhyw beth y mae'n ofynnol o dan y rheoliadau hyn iddo gael ei wneud gan y person cofrestredig, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau cofrestredig eraill.

Pennu swyddfeydd priodol

42.  Caiff y Cynulliad bennu swyddfa sydd o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas â chartrefi plant sydd wedi'u lleoli mewn ardal benodol o Gymru.

Diddymu

43.  Mae'r Rheoliadau canlynol yn cael eu diddymu i'r graddau y bônt yn gymwys i Gymru—

(a)Rheoliadau Cartrefi Plant 1991(26);

(b)rheoliad 2 o Reoliadau Plant (Cartrefi, Trefniadau ar gyfer Lleoli, Adolygu a Cynrychioliadau) (Diwygiadau Amrywiol) 1993(27);

(c)Rheoliadau Diwygio Cartrefi Plant 1994(28)).

(ch)rheoliad 4 o Reoliadau Plant (Eu Hamddiffyn rhag Tramgwyddwyr) (Diwygiadau Amrywiol) 1997(29); a

(d)Rheoliadau Cartrefi Plant Diwygio (Cymru) 2001(30)).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(31)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Chwefror 2002

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 1Y MATERION SYDD I'W CYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  Datganiad o nodau cyffredinol y cartref, a'r amcanion sydd i'w cyrraedd mewn perthynas â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

2.  Datganiad o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd i'w darparu, yn y cartref a'r tu allan iddo, ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

3.  Enw a chyfeiriad busnes pob person cofrestredig.

4.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol pob person cofrestredig.

5.  Niferoedd y personau sy'n gweithio yn y cartref, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol, ac os yw'r gweithwyr i gyd o un rhyw, disgrifiad o sut y bydd y cartref yn hybu modelau rôl priodol o'r ddwy ryw.

6.  Y trefniadau ar gyfer goruchwylio, hyfforddi a datblygu'r cyflogeion.

7.  Strwythur trefniadol y cartref.

8.  Y manylion canlynol—

(a)ystod oedran, rhyw a niferoedd y plant y bwriedir darparu llety ar eu cyfer;

(b)a oes bwriad i letya plant sy'n anabl, y mae arnynt anghenion arbennig neu sydd ag unrhyw nodweddion arbennig eraill;

(c)ystod yr anghenion (heblaw'r rhai a grybwyllir yn is-baragraff (b)) y bwriedir i'r cartref eu diwallu.

9.  Y meini prawf a ddefnyddir ar gyfer derbyniadau i'r cartref, gan gynnwys polisi a gweithdrefnau'r cartref ar gyfer derbyniadau brys, (os yw'r cartref yn darparu ar gyfer derbyniadau brys).

10.  Os yw'r cartref yn darparu neu os bwriedir iddo ddarparu llety i fwy na chwech o blant, disgrifiad o'r canlyniadau cadarnhaol a fwriedir ar gyfer plant mewn cartref o'r maint hwnnw, a disgrifiad o strategaeth y cartref ynglŷn â mynd i'r afael ag unrhyw effeithiau andwyol sy'n deillio o faint y cartref ar gyfer y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

11.  Disgrifiad o ethos ac athroniaeth y cartref, a sail damcaniaethol neu therapiwtig y gofal sy'n cael ei ddarparu.

12.  Y trefniadau a wneir i ddiogelu a hybu iechyd y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

13.  Y trefniadau ar gyfer hybu addysg y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys y cyfleusterau ar gyfer astudio preifat.

14.  Y trefniadau ar gyfer hyrwyddo cyfranogiad y plant mewn hobïau a gweithgareddau hamdden, chwaraeon a diwylliant.

15.  Y trefniadau a wneir ar gyfer ymgynghori â'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref ynghylch ei weithrediad.

16.  Manylion—

(a)polisi'r cartref ar reoli ymddygiad a defnyddio ataliadau;

(b)y dulliau rheoli a disgyblu a all gael eu defnyddio yn y cartref, o dan ba amgylchiadau y gellir eu defnyddio a chan bwy.

17.  Y trefniadau ar gyfer amddiffyn plant a mynd i'r afael â bwlio.

18.  Y weithdrefn ar gyfer ymdrin ag absenoldeb plentyn o'r cartref nad yw wedi'i awdurdodi.

19.  Manylion unrhyw gyfrwng gwyliadwriaeth i gadw golwg ar blant y gellir ei ddefnyddio yn y cartref.

20.  Y rhagofalon tân a'r gweithdrefnau brys cysylltiedig yn y cartref.

21.  Y trefniadau a wneir ar gyfer hyfforddiant a defodau crefyddol y plant.

22.  Y trefniadau a wneir ar gyfer cysylltiadau rhwng unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion.

23.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin â chwynion y plant sy'n cael eu lletya yno.

24.  Y trefniadau ar gyfer ymdrin ag adolygiadau o gynlluniau lleoliad.

25.  Y math o lety a threfniadau cysgu a ddarperir (gan gynnwys manylion unrhyw barthau ar gyfer mathau penodol o blant) ac o dan ba amgylchiadau y gall plant rannu ystafelloedd gwely.

26.  Manylion unrhyw dechnegau therapiwtig penodol a ddefnyddir yn y cartref a'r trefniadau ar gyfer eu goruchwylio.

27.  Manylion polisi'r cartref ar ymarfer gwrth-gamwahaniaethu yng nghyswllt phlant a hawliau plant.

Rheoliadau 6, 8, 26

ATODLEN 2YR WYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SY'N CEISIO RHEDEG NEU REOLI CARTREF PLANT NEU WEITHIO MEWN UN

1.  Prawf adnabod gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Naill ai—

(a)os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)(32), neu fod y swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 tystysgrif record droseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno y mae llai na thair blynedd mewn perthynas â hi wedi mynd heibio ers ei rhoi; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record droseddol a roddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn perthynas â hi ers ei rhoi,

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno(33).

3.  Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un.

4.  Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu gydag oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm y daeth y swydd neu'r gyflogaeth i ben.

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

7.  Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol—

(a)y cafodd y person ei gollfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1974(34) ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1975 (Eithriadau) 1975 (fel y mae'r Gorchymyn hwnnw ar ôl ei ddiwygio o bryd i'w gilydd)(35); neu

(b)y mae wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.

Rheoliad 28(1)

ATODLEN 3YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YNG NGHOFNODION ACHOSION PLANT SY'N CAEL EU LLETYA MEWN CARTREFI PLANT

1.  Enw'r plentyn ac unrhyw enw yr oedd y plentyn yn cael ei adnabod wrtho yn flaenorol heblaw enw a ddefnyddiwyd gan y plentyn cyn ei fabwysiadu.

2.  Dyddiad geni a rhyw y plentyn.

3.  Argyhoeddiad crefyddol y plentyn, os oes un.

4.  Disgrifiad o darddiad hiliol y plentyn a chefndir diwylliannol ac ieithyddol y plentyn.

5.  Cyfeiriad y plentyn yn union cyn iddo fynd i'r cartref.

6.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn awdurdod lleoli'r plentyn.

7.  Y ddarpariaeth statudol (os oes un) y darperir llety i'r plentyn odani.

8.  Enw, cyfeiriad, rhif ffôn rhieni'r plentyn a'u hargyhoeddiad crefyddol, os oes ganddynt un.

9.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd am y tro wedi'i ddyrannu i'r plentyn gan yr awdurdod lleoli.

10.  Unrhyw gofnod y mae'n ofynnol ei gadw o dan reoliad 16(2)(ch) (honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod mewn perthynas â'r plentyn).

11.  Dyddiad ac amgylchiadau pob tro y bu'r plentyn yn absennol o'r cartref gan gynnwys a oedd yr absenoldeb wedi'i awdurdodi ac unrhyw wybodaeth ynghylch lle oedd y plentyn yn ystod cyfnod yr absenoldeb.

12.  Dyddiad unrhyw ymweliad â'r plentyn tra oedd yn y cartref a'r rheswm drosto.

13.  Copi o unrhyw ddatganiad o anghenion addysgol arbennig a gadwyd mewn perthynas â'r plentyn o dan adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(36) a gedwir mewn perthynas â'r plentyn, gyda manylion unrhyw anghenion o'r fath.

14.  Dyddiad ac amgylchiadau unrhyw fesurau rheoli, atal neu ddisgyblu a ddefnyddiwyd ar y plentyn.

15.  Unrhyw anghenion deiet neu anghenion iechyd arbennig sydd gan y plentyn.

16.  Enw, cyfeiriad a rhif ffôn unrhyw ysgol neu goleg a fynychir gan y plentyn ac unrhyw gyflogwr i'r plentyn.

17.  Pob adroddiad ysgol a gafwyd gan y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.

18.  Y trefniadau ar gyfer cysylltiadau, gan gynnwys unrhyw gyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau arnynt, rhwng y plentyn, ei rieni, ac unrhyw berson arall.

19.  Copi o unrhyw gynllun ar gyfer gofalu am y plentyn a baratowyd gan ei awdurdod lleoli ac o'r cynllun lleoliad.

20.  Dyddiad a chanlyniad unrhyw adolygiad o gynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofalu am y plentyn, neu o gynllun lleoliad y plentyn.

21.  Enw a chyfeiriad yr ymarferydd cyffredinol y mae'r plentyn wedi'i gofrestru gydag ef ac enw a chyfeiriad ymarferydd deintyddol cofrestredig y plentyn.

22.  Manylion unrhyw ddamwain neu salwch difrifol a gafodd y plentyn tra oedd yn cael ei letya yn y cartref.

23.  Manylion unrhyw imwneiddiad, alergedd, neu archwiliad meddygol a gafodd y plentyn a manylion unrhyw angen neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol.

24.  Manylion unrhyw archwiliad iechyd neu brawf datblygiadol a gynhaliwyd mewn perthynas â'r plentyn yn ei ysgol neu mewn cysylltiad â hi.

25.  Manylion unrhyw feddyginiaethiau sy'n cael eu cadw ar gyfer y plentyn yn y cartref, gan gynnwys unrhyw feddyginiaethau y caniateir i'r plentyn eu rhoi i'w hunain, a manylion am roi unrhyw feddyginiaeth i'r plentyn.

26.  Y dyddiad pan adneuwyd unrhyw arian neu bethau gwerthfawr gan neu ar ran y plentyn er mwyn eu cadw'n ddiogel, a dyddiadau tynnu unrhyw arian, a'r dyddiad y dychwelwyd unrhyw bethau gwerthfawr.

27.  Y cyfeiriad, a'r math o sefydliad neu lety, y mae'r plentyn yn mynd iddo pan yw'n peidio â chael ei letya yn y cartref.

Rheoliad 28(4)

ATODLEN 4COFNODION ERAILL

1.  Cofnod ar ffurf cofrestr yn dangos mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant—

(a)y dyddiad y cafodd ei dderbyn i'r cartref;

(b)y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno;

(c)ei gyfeiriad cyn iddo gael ei letya yn y cartref;

(ch)ei gyfeiriad ar ôl iddo ymadael â'r cartref plant;

(d)ei awdurdod lleoli;

(dd)y ddarpariaeth statudol, os oes un, y cafodd ei letya yn y cartref odani.

2.  Cofnod o bob person sy'n gweithio yn y cartref plant, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol mewn perthynas ag unigolyn sy'n dod o dan reoliad 26(1)—

(a)enw llawn;

(b)rhyw;

(c)dyddiad geni;

(ch)cyfeiriad cartref;

(d)cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant, a'i brofiad o waith sy'n ymwneud â phlant;

(dd)a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan-amser yn y cartref, (am dâl neu beidio) ac os yw'n rhan-amser, y nifer o oriau ar gyfartaledd y mae'n gweithio bob wythnos; ac

(e)a yw'n preswylio yn y cartref.

3.  Cofnod o unrhyw berson sy'n preswylio neu'n gweithio ar unrhyw adeg yn y cartref plant nad yw wedi'i grybwyll yn y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff 1 neu 2.

4.  Cofnod o bob damwain sy'n digwydd yn y cartref plant, neu i blant tra maent yn cael eu lletya yn y cartref.

5.  Cofnod o unrhyw feddyginiaeth a dderbyniwyd, a waredir ac a roddwyd i unrhyw blentyn.

6.  Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf larwm tân a gynhelir, gyda manylion unrhyw ddiffyg naill ai yn y weithdrefn neu yn yr offer o dan sylw, ynghyd â manylion y camau a gymerwyd i gywiro'r diffyg hwnnw.

7.  Cofnod o bob arian a adneuwyd gan blentyn i'w gadw'n ddiogel, ynghyd â dyddiad tynnu'r arian hwnnw, neu'r dyddiad y dychwelwyd ef.

8.  Cofnod o bob peth gwerthfawr a adneuwyd gan blentyn a dyddiad ei ddychwelyd.

9.  Cofnodion o bob cyfrif a gedwir yn y cartref plant.

10.  Cofnod o'r bwydlenni a weinwyd.

11.  Cofnod, yn unol â rheoliad 17(4), o bob mesur disgyblu a orfodwyd ar blentyn.

12.  Cofnodion o bob roster dyletswyddau staff, a chofnod o'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.

13.  Lòg dyddiol o'r digwyddiadau sy'n digwydd yn y cartref.

14.  Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref ac â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr a'r rhesymau am yr ymweliad.

Rheoliad 29(1)

ATODLEN 5DIGWYDDIADAU A HYSBYSIADAU

Colofn 1Colofn 2
Y digwyddiad:I'w hysbysu i:
Swyddfa briodol y Cynulliad CenedlaetholYr awdurdod LleoliYr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardalSwyddog heddlu priodolYr awdurdod iechyd lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal
Marwolaeth plentyn sy'n cael ie letya yn y cartrefieieieie
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio yn y cartref at yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 2(1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(37)ieie
Salwch difrifol neu ddamwain ddifrifol sydd wedi'u dioddef gan blentyn sy'n cael ei letya yn y cartrefieie
Brigiad clefyd heintus sydd ym marn ymarferydd meddygol cofrestredig sy'n ymweld â'r cartref yn ddigon difrifol i gael ei hybysu fel y cyfrywieieie
Honiad bod plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref wedi cyflawni tramgwydd difrifolieie
Plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref yn ymwneud â phuteindra, neu amheuaeth ei fod yn ymwneud ag efieieieie
Digwyddiad difrifol sy'n golygu bod angen galw'r heddlu i'r cartrefieie
Plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref yn rhedeg i ffwrddie
Unrhyw gwyn ddifrifol ynghylch y cartref neu bersonau sy'n gweithio ynoieie
Cychwyn unrhyw ymchwiliad amddiffyn plant sy'n ymwneud â phlentyn sy'n cael ei letya yn y cartref a chanlyniad dilynol yr ymchwiliadieie

Rheoliad 33(1)

ATODLEN 6Y MATERION SYDD I'W MONITRO A'U HADOLYGU GAN Y PERSON COFRESTREDIG

1.  Mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, cydymffurfedd â chynllun yr awdurdod lleoli ar gyfer gofal y plentyn (os yw'n gymwys) a'r cynllun lleoliad.

2.  Adneuo a rhoi arian a phethau gwerthfawr eraill a roddwyd i mewn er mwyn eu cadw'n ddiogel.

3.  Bwydlenni dyddiol.

4.  Pob damwain a niwed sy'n cael eu dioddef yn y cartref neu gan blant sy'n cael eu lletya yno.

5.  Unrhyw salwch a gaiff plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

6.  Cwynion mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a'u canlyniadau.

7.  Unrhyw honiadau neu amheuon o gamdriniaeth mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref a chanlyniad unrhyw ymchwiliad.

8.  Cofnodion recriwtio staff a chofnodion ynghylch cynnal y gwiriadau angenrheidiol ar gyfer gweithwyr newydd yn y cartref.

9.  Ymwelwyr â'r cartref ac â phlant yn y cartref.

10.  Hysbysiadau o'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.

11.  Unrhyw absenoldeb diawdurdod o'r cartref gan blentyn sy'n cael ei letya yno.

12.  Defnyddio mesurau rheoli, atal a disgyblu mewn perthynas â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

13.  Asesiadau risg at ddibenion iechyd a diogelwch a'r camau a gymerir wedyn.

14.  Meddyginiaethau, triniaeth feddygol a chymorth cyntaf a roddir i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.

15.  Yn achos ysgol gymwys, safonau'r ddarpariaeth addysgol.

16.  Rosteri dyletswyddau personau sy'n gweithio yn y cartref, a'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.

17.  Lòg dyddiol y cartref.

18.  Ymarferion tân a phrofion larymau a phrofion offer tân.

19.  Cofnodion gwerthusiadau cyflogeion.

20.  Cofnodion cyfarfodydd staff.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('y Ddeddf') ac maent yn gymwys mewn perthynas â chartrefi plant yng Nghymru. Mae Rhannau I a II o'r Ddeddf yn darparu mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru a fydd yn cofrestru ac yn archwilio sefydliadau ac asiantaethau mewn perthynas â Chymru. Mae'r Ddeddf yn darparu pwerau hefyd i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud rheoliadau sy'n llywodraethu'r ffordd y mae sefydliadau ac asiantaethau yn cael eu rhedeg mewn perthynas â Chymru. Bydd y rhan fwyaf o Rannau I a II o'r Ddeddf (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) yn cael eu dwyn i rym ar 1 Ebrill 2002.

Mae'r trefniadau newydd hyn yn amnewid y system statudol mewn perthynas â chartrefi plant y darparwyd ar ei chyfer gan Ddeddf Plant 1989 ac mae'r Rheoliadau hyn yn disodli Rheoliadau Cartrefi Plant 1991 (fel y'u diwygiwyd) i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

Mae rheoliad 3 yn eithrio sefydliadau penodol o'r diffiniad o gartref plant o dan adran 1 o'r Ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys sefydliadau sy'n darparu gofal byr-dymor dros nos, gwyliau, neu weithgareddau eraill am lai nag 28 o ddiwrnodau y flwyddyn mewn perthynas ag unrhyw un plentyn, ac ystod eang o sefydliadau sy'n darparu llety i'r rhai dros 16 oed a throsodd oni bai, yn y naill achos neu'r llall, fod y sefydliad yn lletya'n bennaf blant sy'n anabl neu sydd fel arall yn dod o dan y disgrifiadau yn adran 3(2) o'r Ddeddf. Mae colegau addysg bellach a sefydliadau ar gyfer tramgwyddwyr ifanc yn cael eu heithrio hefyd.

O dan reoliad 4, rhaid bod gan bob cartref ddatganiad o ddiben sy'n cynnwys y materion a nodir yn Atodlen 1, ac arweiniad y plant i'r cartref. Rhaid i'r cartref gael ei redeg mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae rheoliadau 6 i 10 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r personau sy'n rhedeg neu'n rheoli'r cartref, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol fod ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 2. Os corff yw'r cartref, rhaid iddo enwi unigolyn cyfrifol y mae'n rhaid i'r wybodaeth hon fod ar gael amdano (rheoliad 6). Mae rheoliad 7 yn rhagnodi o dan ba amgylchiadau y mae'n rhaid penodi rheolwr ar gyfer y cartref, ac mae rheoliad 9 yn gosod gofynion cyffredinol mewn perthynas â rhedeg y cartref yn iawn, a'r angen am hyfforddiant priodol.

Mae Rhan III yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae cartrefi plant yn cael eu rhedeg, yn enwedig ynglŷn ag amddiffyn plant, lles, iechyd, addysg a defodau crefyddol, y trefniadau ar gyfer cysylltiadau ac ymwelwyr, rheoli ymddygiad, a defnyddio dyfeisiau gwyliadwriaeth. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd am staffio'r cartrefi a ffitrwydd y gweithwyr ac am gwynion, cadw cofnodion a hysbysu ynglŷn â'r digwyddiadau a restrir yn Atodlen 5.

Mae Rhan IV yn gwneud darpariaeth ynghylch addasrwydd safleoedd ac ynghylch y rhagofalon tân sydd i'w cymryd. Mae Rhan V yn ymdrin â rheoli cartrefi plant. Mae rheoliad 33 yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparydd cofrestredig ymweld â'r cartref fel a ragnodir, ac mae rheoliad 34 yn ei gwneud yn ofynnol i'r person cofrestredig adolygu a monitro'r materion a nodir yn Atodlen 6 sy'n ymwneud ag ansawdd y gofal sydd i'w ddarparu gan y cartref. Mae Rheoliad 36 yn gosod gofynion ynglŷn â sefyllfa ariannol y cartref.

Mae Rhan VI yn ymdrin â materion amrywiol sy'n cynnwys hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 41 yn darparu ar gyfer tramgwyddau. Gellir cael bod torri'r rheoliadau a bennir yn rheoliad 41 yn dramgwydd ar ran y person cofrestredig. Mae rheoliad 42 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfeydd mewn rhannau o Gymru ar gyfer ei hysbysu o dan y rheoliadau.

(1)

2000 p. 14. Mae'r pwerau'n arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 121(1), mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mewn perthynas â Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, fel yr Ysgrifennydd Gwladol. Diffinnir “prescribed” a “regulations” yn adran 121(1) o'r Ddeddf.

(2)

Gweler adran 22(9) o'r Ddeddf i gael gweld y gofyniad i ymgynghori.

(3)

Adran 59 o Ddeddf 1989 sy'n llywodraethu darparu llety i blant gan gyrff gwirfoddol.

(4)

Gweler adran 121(6) i (8) i gael y ddarpariaeth ynghylch personau sy'n cael eu cymryd ymlaen i redeg a rheoli cartref cymunedol a ddarperir gan gorff gwirfoddol.

(10)

Gweler adran 9(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000.

(11)

1952 p.52. Fe'i hamnewidiwyd gan adran 170(1) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p.33) a pharagraffau 11 a 12 o Atodlen 15 iddi, ac Atodlen 16 iddi; adrannau 5(2), 18(3) a 168(3) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (p.33); adran 119 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37); ac adran 165(1) o Ddeddf Pwerau'r Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000 (p.6), adran 5 o Atodlen 9 iddi. Mae is-adran 1(a) o Ddeddf 1952 i'w diddymu gan adrannau 59 a 75 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p.43) ac Atodlen 8 iddi ar ddyddiad sydd i'w bennu.

(12)

Mae adran 3(2) o'r Ddeddf yn cyfeirio at bersonau sy'n sâl neu sydd wedi bod yn sâl; at bersonau y mae neu yr oedd ganddynt anhwylder meddwl; at bersonau sy'n anabl neu'n fethedig; ac sy'n ddibynnol neu sydd wedi bod yn ddibynnol ar alcohol a chyffuriau.

(13)

1996 p.56.

(14)

1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i bargraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.

(15)

Gweler y troednodyn i reoliad 6(4).

(16)

2000 p.50.

(17)

Sefydlwyd Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Llysoedd Plant a Theuluoedd gan Bennod II o Ran I o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 p.43. Mae swyddogion y Gwasanaeth yn cael eu penodi ar gyfer plant mewn achosion penodedig (adran 41).

(18)

O.S. 1991/894 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2033 ac O.S. 1993/3069.

(19)

1968 p.67. Mae adran 58 wedi'i diwygio gan adran 1 o Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc 1992 (p.28).

(20)

Gweler y troednodyn i reoliad 15(2)(ch).

(21)

1997 p. 50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.

(22)

O dan Reoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 (O.S. 1991/890), rhaid i'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas â phlentyn sydd wedi'i leoli mewn cartref plant ddal eu gafael ar eu cofnodion achos (sy'n cynnwys unrhyw adroddiad yn eu meddiant ynghylch lles y plentyn) am bymtheg a thrigain o flynyddoedd ar ôl marwolaeth y plentyn neu, os yw'r plentyn yn marw cyn cyrraedd deunaw oed, am bymtheng mlynedd o ddyddiad y farwolaeth.

(23)

1947 p.41.

(24)

O dan adran 23 o'r Ddeddf gall y Cynulliad Cenedlaethol baratoi a chyhoeddi datganiadau ar y safonau gofynnol cenedlaethol sy'n gymwys i gartrefi plant, sy'n rhaid eu cymryd i ystyriaeth mewn penderfyniadau ac achosion penodol o dan Ran II o'r Ddeddf.

(25)

O dan adran 29 o'r Ddeddf gall y Cynulliad Cenedlaethol, o fewn y terfynau amser sydd wedi'u pennu yno, ddwyn achos am dramgwyddau o dan reoliadau a wnaed o dan Ran II o'r Ddeddf.

(31)

1998 p.38.

(32)

Mae adran 115(ea) i'w mewnosod gan Ddeddf Safonau Gofal 2000, adran 104, ar ddyddiad sydd i'w bennu. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto.

(33)

Mae adrannau 113(3A) a 115(6A) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1997 (p.14) o ddyddiad sydd i'w bennu, ac wedi'u diwygio gan adrannau 104 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi. Mae adrannu 113(3C) a 115(6B) yn cael eu hychwanegu at Ddeddf yr Heddlu 1997 gan adran 90 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 ar ddyddiad sydd i'w bennu.

(34)

1974 p.53.

(35)

O.S. 1975/1023. Ar y ddyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn dod i rym, mae'r offerynnau canlynol yn gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; 1986/2268; ac O.S. 2001/1192.

(36)

1996 p.56. Mae adran 324 yn cael ei diwygio gan adran 140(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31) a pharagraff 77 o Atodlen 30 iddi, a chan adran 9 o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).

(37)

1999 p.14.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources