RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG
Ffitrwydd y darparydd cofrestredig6
1
Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
2
Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant oni bai bod y person—
a
yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu
b
yn gorff ac—
i
bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref plant; a
ii
bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).
3
Dyma'r gofynion—
a
bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg y cartref plant, neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw;
b
bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y cartref plant neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw; ac
c
bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person—
i
ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 3 i 7 o Atodlen 2;
ii
os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
4
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 199714 i rym.
5
Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant—
a
os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu nac wedi'i ddileu; neu
b
os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.
Penodi rheolwr7
1
Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg y cartref plant—
a
os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref plant; a
b
os yw'r darparydd cofrestredig—
i
yn gorff; neu
ii
heb fod yn berson ffit i reoli cartref plant; neu
iii
heb fod yn gyfrifol am y cartref plant yn amser llawn o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod yn gyfrifol felly.
2
Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref plant, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—
a
o enw'r person a benodwyd felly; a
b
o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.
3
Os y darparydd cofrestredig yw'r person sydd i fod i reoli'r cartref, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.
Ffitrwydd y rheolwr8
1
Rhaid i berson beidio â rheoli cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.
2
Nid yw person yn ffit i reoli cartref plant—
a
oni bai ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r cartref plant;
b
oni bai, o roi sylw i faint y cartref plant, ei ddatganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi yn sgil unrhyw anabledd)—
i
bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad y mae eu hangen i reoli'r cartref plant; a
ii
ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny; a
c
oni bai bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person—
i
ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
ii
os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.
3
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 199715 i rym.
Y person cofrestredig — gofynion cyffredinol9
1
Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i'r canlynol—
a
maint y cartref plant;
b
datganiad o ddiben y cartref plant; ac
c
nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi yn sgil unrhyw anabledd),
redeg y cartref neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol;
2
Os yw'r darparydd cofrestredig—
a
yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu
b
os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,
o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref plant.
3
Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r cartref ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i reoli'r cartref plant.
Hysbysu tramgwyddau10
1
Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—
a
o ddyddiad a man y collfarniad;
b
o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac
c
o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.
2
Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 200016 (Amddiffyn Plant) rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono ac o ddyddiad a man y cyhuddiad.