RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig

6.—(1Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant oni bai bod y person—

(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu

(b)yn gorff ac—

(i)bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref plant; a

(ii)bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

(3Dyma'r gofynion—

(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg y cartref plant, neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw;

(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y cartref plant neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw; ac

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person—

(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 3 i 7 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(1) i rym.

(5Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant—

(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu nac wedi'i ddileu; neu

(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.

Penodi rheolwr

7.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn i redeg y cartref plant—

(a)os nad oes rheolwr cofrestredig mewn perthynas â'r cartref plant; a

(b)os yw'r darparydd cofrestredig—

(i)yn gorff; neu

(ii)heb fod yn berson ffit i reoli cartref plant; neu

(iii)heb fod yn gyfrifol am y cartref plant yn amser llawn o ddydd i ddydd, neu heb fwriadu bod yn gyfrifol felly.

(2Pan fydd y darparydd cofrestredig yn penodi person i reoli'r cartref plant, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith—

(a)o enw'r person a benodwyd felly; a

(b)o'r dyddiad y mae'r penodiad i fod yn effeithiol.

(3Os y darparydd cofrestredig yw'r person sydd i fod i reoli'r cartref, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad y mae'r gwaith rheoli hwnnw i fod i ddechrau.

Ffitrwydd y rheolwr

8.—(1Rhaid i berson beidio â rheoli cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i reoli cartref plant—

(a)oni bai ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i reoli'r cartref plant;

(b)oni bai, o roi sylw i faint y cartref plant, ei ddatganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi yn sgil unrhyw anabledd)—

(i)bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad y mae eu hangen i reoli'r cartref plant; a

(ii)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud hynny; a

(c)oni bai bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person—

(i)ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(2) i rym.

Y person cofrestredig — gofynion cyffredinol

9.—(1Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, o roi sylw i'r canlynol—

(a)maint y cartref plant;

(b)datganiad o ddiben y cartref plant; ac

(c)nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi yn sgil unrhyw anabledd),

redeg y cartref neu ei reoli (yn ôl fel y digwydd) â gofal, medrusrwydd a medr digonol;

(2Os yw'r darparydd cofrestredig—

(a)yn unigolyn, rhaid iddo ymgymryd; neu

(b)os yw'n gorff, rhaid iddo sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd,

o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y cartref plant.

(3Rhaid i unrhyw unigolyn sy'n rheoli'r cartref ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau y mae eu hangen i reoli'r cartref plant.

Hysbysu tramgwyddau

10.—(1Os yw'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, p'un ai yng Nghymru neu mewn man arall, rhaid iddo hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—

(a)o ddyddiad a man y collfarniad;

(b)o'r tramgwydd y cafodd ei gollfarnu o'i herwydd; ac

(c)o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.

(2Os yw'r person cofrestredig wedi'i gyhuddo o unrhyw dramgwydd y gellir gwneud gorchymyn mewn perthynas ag ef o dan Ran II o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000(3) (Amddiffyn Plant) rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig ar unwaith i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r tramgwydd y mae wedi'i gyhuddo ohono ac o ddyddiad a man y cyhuddiad.

(1)

1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i bargraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.

(2)

Gweler y troednodyn i reoliad 6(4).