Search Legislation

Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN IIIRHEDEG CARTREFI PLANT

PENNOD 1LLES Y PLANT

Hybu lles

11.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei redeg yn y fath fodd ag y bydd—

(a)yn hybu lles y plant sy'n cael eu lletya yno ac yn darparu'n briodol ar ei gyfer; a

(b)yn darparu'n briodol ar gyfer gofal, addysg, goruchwyliaeth, ac os yw'n briodol, driniaeth y plant sy'n cael eu lletya yno.

(2Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas i sicrhau bod y cartref yn cael ei redeg—

(a)mewn modd sy'n parchu preifatrwydd ac urddas y plant sy'n cael eu lletya yno; a

(b)gan roi sylw dyledus i ryw, argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, a chefndir diwylliannol ac ieithyddol ac unrhyw anabledd y plant sy'n cael eu lletya yno.

Cynllun lleoliad y plentyn

12.—(1Cyn darparu llety ar gyfer plentyn mewn cartref plant, neu os nad yw hynny'n rhesymol ymarferol, cyn gynted â phosibl wedyn, rhaid i'r person cofrestredig baratoi cynllun ysgrifenedig (“cynllun lleoliad”) ar gyfer y plentyn, gan ymgynghori ag awdurdod lleoli'r plentyn, a chan nodi yn benodol—

(a)sut y gofelir am y plentyn o ddydd i ddydd, a sut y caiff ei les ei ddiogelu a'i hybu gan y cartref;

(b)y trefniadau ar gyfer gofal iechyd ac addysg y plentyn; ac

(c)y trefniadau sy'n cael eu gwneud ar gyfer cysylltiadau â rhieni, perthnasau a chyfeillion y plentyn.

(2Rhaid i'r person cofrestredig gadw golwg ar y cynllun lleoliad a'i adolygu yn ôl yr angen.

(3Wrth baratoi neu adolygu cynllun lleoliad, rhaid i'r person cofrestredig, i'r graddau y bo'n ymarferol a chan roi sylw i oedran a dealltwriaeth y plentyn, ofyn barn y plentyn a'i chymryd i ystyriaeth.

(4Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)sicrhau bod y cynllun lleoliad yn gyson ag unrhyw gynllun ar gyfer gofal y plentyn sydd wedi'i baratoi gan ei awdurdod lleoli; a

(b)cydymffurfio â cheisiadau rhesymol a wneir gan awdurdod lleoli'r plentyn—

(i)am gael gwybodaeth mewn perthynas â'r plentyn; a

(ii)i ddarparu cynrychiolydd addas i fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfodydd y gall eu cynnal ynghylch y plentyn.

Y bwyd a ddarperir ar gyfer y plant

13.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant yn cael—

(a)bwyd sydd—

(i)yn cael ei weini mewn symiau digonol ac ar adegau priodol;

(ii)wedi'i baratoi'n briodol, yn iachus ac yn faethlon;

(iii)yn addas i'w hanghenion ac yn bodloni eu dewisiadau rhesymol; a

(iv)yn ddigon amrywiol; a

(b)modd i gael dŵ r yfed ffres bob amser.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw angen deietegol arbennig sydd gan blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref, oherwydd ei iechyd, ei argyhoeddiad crefyddol, ei darddiad hiliol neu ei gefndir diwylliannol, yn cael ei fodloni.

Darparu dillad, arian poced ac angenrheidiau personol

14.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod anghenion a dewisiadau rhesymol pob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref o ran dillad, gan gynnwys esgidiau, ac angenrheidiau personol yn cael eu bodloni.

(2Rhaid i'r person cofrestredig roi i'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref unrhyw symiau arian mewn perthynas â'u costau personol achlysurol sy'n briodol i'w hoedran a'u dealltwriaeth.

Cysylltiadau a'r cyfle i gyfathrebu

15.—(1Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)yn ddarostyngedig i baragraff (6) ac (8), hybu cysylltiadau pob plentyn â'i rieni, ei berthnasau a'i gyfeillion yn unol â'r trefniadau sydd wedi'u nodi yn ei gynllun lleoliad; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraff (3), sicrhau bod cyfleusterau addas yn cael eu darparu yn y cartref plant i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yno gyfarfod yn breifat ar unrhyw adeg resymol â'i rieni, ei gyfeillion, ei berthnasau, a'r personau a restrir ym mharagraff (2).

(2Dyma'r personau—

(a)unrhyw gyfreithiwr neu gynghorydd neu eiriolydd arall y mae'r plentyn wedi'i gyfarwyddo neu'n dymuno ei gyfarwyddo;

(b)unrhyw swyddog i Wasanaeth Cyngor a Chymorth y Llysoedd Plant a Theuluoedd a benodir ar gyfer y plentyn(1);

(c)unrhyw weithiwr cymdeithasol sydd wedi'i ddyrannu ar gyfer y plentyn am y tro gan ei awdurdod lleoli;

(ch)unrhyw berson sydd wedi'i benodi mewn perthynas ag unrhyw un o ofynion y weithdrefn a bennir yn Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991(2);

(d)unrhyw berson sydd wedi'i benodi fel ymwelydd â'r plentyn o dan baragraff 17 o Atodlen 2 i Ddeddf 1989;

(dd)unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 31 o'r Ddeddf i arolygu ymgymeriadau a reoleiddir dan Ran II o'r Ddeddf;

(e)unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi gan yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r cartref wedi'i leoli ynddi;

(f)unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi yn unol ag adran 80(2) o Ddeddf 1989 gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal archwiliad o'r cartref plant ac o'r plant sydd yno.

(3Yn achos cartref y mae tystysgrif o dan adran 51 o Ddeddf 1989 mewn grym mewn perthynas ag ef, gall y cyfleusterau fod mewn cyfeiriad sy'n wahanol i gyfeiriad y cartref.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (6) ac (8), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael cyfle i ddefnyddio'r canlynol, ar bob adeg resymol, heb gyfeirio at bersonau sy'n gweithio yn y cartref—

(a)ffôn i wneud a derbyn galwadau ffôn arno yn breifat; a

(b)cyfleusterau i anfon a derbyn post yn breifat ac, os yw'r cyfleusterau angenrheidiol yn cael eu darparu i'w defnyddio gan y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref, bost electronig yn breifat.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw blentyn anabl sy'n cael ei letya yn y cartref yn cael cyfle i ddefnyddio unrhyw gynorthwyon ac offer y gall fod arno eu hangen oherwydd ei anabledd er mwyn ei hwyluso i gyfathrebu ag eraill.

(6Caiff y person cofrestredig (yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8)) osod cyfyngiadau, gwaharddiadau neu amodau ar gysylltiadau plentyn ag unrhyw berson o dan baragraff (1)(a), neu ar gyfarfodydd preifat y plentyn yn y cartref â'r personau hynny, neu ar ei gyfle i gyfathrebu o dan baragraff (4), os yw o'r farn resymol ei bod yn angenrheidiol eu gosod er mwyn diogelu neu hybu lles y plentyn o dan sylw.

(7Ni all unrhyw fesur gael ei osod gan y person cofrestredig yn unol â pharagraff (6) oni bai—

(i)bod awdurdod lleoli'r plentyn yn cydsynio â gosod y mesur; neu

(ii)bod y mesur yn cael ei osod mewn argyfwng a bod y manylion llawn yn cael eu rhoi i'r awdurdod lleoli o fewn 24 awr o osod y mesur.

(8Mae'r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau unrhyw orchymyn llys sy'n ymwneud â chysylltiadau rhwng y plentyn ac unrhyw berson.

(9Datgenir (er mwyn osgoi amheuon) y gellir dibynnu ar unrhyw reol gyfreithiol ynghylch gorfodaeth neu reidrwydd, yn ogystal â pharagraffau (6) ac (8), os honnir na chydymffurfiwyd â'r rheoliad hwn.

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

16.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig—

(a)y bwriedir iddo ddiogelu plant sy'n cael eu lletya yn y cartref rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a

(b)sy'n nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os ceir unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.

(2Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer—

(a)cysylltu a chydweithredu ag unrhyw awdurdod lleol sydd, neu a allai fod, yn gwneud ymholiadau amddiffyn plant mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;

(b)cyfeirio yn ddiymdroi unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod sy'n effeithio ar unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant at yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal;

(c)rhoi gwybod (yn unol â rheoliad 29) i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac i awdurdod lleoli'r plentyn fod unrhyw ymholiadau amddiffyn plant sy'n ymwneud ag unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant wedi'u cychwyn, ynghyd â chanlyniadau dilynol yr ymholiadau;

(ch)cadw cofnodion ysgrifenedig (yn unol â rheoliad 28(1)) o unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod, ac o'r camau a gymerwyd i ymateb iddo;

(d)rhoi ystyriaeth i'r mesurau a all fod yn angenrheidiol i amddiffyn plant yn y cartref plant yn sgil honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod;

(dd)gofyniad (yn unol â rheoliad 27) fod personau sy'n gweithio yn y cartref yn rhoi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch lles neu ddiogelwch plentyn sy'n cael ei letya yno i un o'r canlynol—

(i)y person cofrestredig;

(ii)cwnstabl;

(iii)person sy'n arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan Ran II o'r Ddeddf;

(iv)un o swyddogion yr awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal; neu

(v)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(e)gwneud trefniadau sy'n rhoi cyfle ar bob adeg i'r personau sy'n gweithio yn y cartref a'r plant sy'n cael eu lletya yno gael gweld gwybodaeth, a hynny ar ffurf briodol, a fyddai'n eu galluogi i gysylltu â'r awdurdod lleol y mae'r cartref wedi'i leoli yn ei ardal, neu â swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol, ynghylch lles neu ddiogelwch y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

(3Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a gweithredu—

(a)polisi ysgrifenedig ar gyfer atal bwlio yn y cartref plant, sef polisi y mae'n rhaid iddo gynnwys gweithdrefn ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio; a

(b)gweithdrefn i'w dilyn pan fydd unrhyw blentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yn absennol heb ganiatâd.

Rheoli ymddygiad, disgyblu ac atal

17.—(1Heb ragfarnu paragraff (5), rhaid peidio â defnyddio, ar unrhyw adeg, unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu sy'n ormodol neu'n afresymol ar blant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant.

(2Rhaid i'r person cofrestredig, yn unol â'r rheoliad hwn, baratoi a dilyn polisi ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “polisi rheoli ymddygiad”) sy'n nodi—

(a)y mesurau ar gyfer rheoli, atal a disgyblu y gellir eu defnyddio yn y cartref plant; a

(b)drwy ba fodd y mae ymddygiad priodol i'w hyrwyddo yn y cartref.

(3Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)cadw golwg ar y polisi rheoli ymddygiad a'i adolygu lle bo'n briodol; a

(b)hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw adolygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau o fewn 24 awr o ddefnyddio unrhyw fesur rheoli, atal neu ddisgyblu mewn cartref plant fod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud mewn cyfrol a gedwir at y diben, a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys—

(a)enw'r plentyn o dan sylw;

(b)manylion ymddygiad y plentyn a arweiniodd at ddefnyddio'r mesur;

(c)disgrifiad o'r mesur a ddefnyddiwyd;

(ch)dyddiad, amser a lleoliad defnyddio'r mesur (gan gynnwys, yn achos unrhyw fath o atal, cyfnod yr atal);

(d)enw'r person a ddefnyddiodd y mesur, ac enw unrhyw berson arall a fu'n bresennol;

(dd)effeithiolrwydd defnyddio'r mesur ac unrhyw ganlyniadau; ac

(e)llofnod person a awdurdodwyd gan y darparydd cofrestredig i wneud y cofnod.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6) o'r rheoliad hwn, rhaid peidio â defnyddio'r mesurau canlynol yn erbyn plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant—

(a)unrhyw fath o gosb gorfforol;

(b)unrhyw gosb sy'n ymwneud â chymryd bwyd neu ddiod, neu amddifadu o fwyd neu ddiod;

(c)unrhyw gyfyngiad heblaw cyfyngiad a orfodir yn unol â rheoliad 15, ar y canlynol—

(i)cysylltiadau plentyn â'i rieni, ei berthnasau neu ei gyfeillion;

(ii)ymweliadau â'r plentyn gan ei rieni, ei berthnasau neu ei gyfeillion;

(iii)cyfathrebu'r plentyn ag unrhyw un o'r personau a restrir yn rheoliad 15(2); neu

(iv)ei gyfle i ddefnyddio unrhyw linell gymorth ffôn sy'n cynnig cwnsela neu gyngor i blant;

(ch)unrhyw ofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol neu amhriodol;

(d)defnyddio neu atal meddyginiaeth neu driniaeth feddygol neu ddeintyddol fel mesur disgyblu;

(dd)atal cwsg yn fwriadol;

(e)gosod unrhyw gosb ariannaol, heblaw gofyniad am dalu swm rhesymol (y gellir ei wneud drwy randaliadau) fel iawndal;

(f)unrhyw archwiliad corfforol agos o blentyn;

(ff)atal unrhyw gynorthwyon neu offer y mae ar blentyn anabl eu hangen;

(g)unrhyw fesur sy'n golygu—

(i)ymglymu plentyn wrth orfodi unrhyw fesur yn erbyn unrhyw blentyn arall; neu

(ii)cosbi grŵ p o blant am ymddygiad plentyn unigol.

(6Ni fydd dim yn y rheoliad hwn yn gwahardd—

(a)cymryd unrhyw gamau gan ymarferydd meddygol neu ddeintyddol cofrestredig, neu yn unol â chyfarwyddiadau ganddynt, sy'n angenrheidiol i amddiffyn iechyd plentyn;

(b)gorfodi gofyniad bod plentyn yn gwisgo dillad neilltuol at ddibenion chwaraeon, neu at ddibenion sy'n gysylltiedig â'i addysg neu ag unrhyw gorff y mae ei aelodau yn arfer gwisgo dillad unffurf mewn cysylltiad â'i weithgareddau.

(7Datgenir (er mwyn osgoi amheuon) y gellir dibynnu ar unrhyw reol gyfreithiol ynghylch gorfodaeth neu reidrwydd, yn ogystal â pharagraff (6) os honnir na chydymffurfiwyd â'r rheoliad hwn.

Addysg, cyflogaeth a gweithgareddau hamdden

18.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hybu cyrhaeddiad addysgol plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant, a rhaid i'r gwaith hybu hwnnw sicrhau—

(a)bod y plant yn defnyddio cyfleusterau addysgol sy'n briodol ar gyfer eu hoedran, eu dawn, eu hanghenion, eu diddordebau a'u potensial;

(b)bod arferion y cartref wedi'u trefnu i hybu cyfranogiad plant mewn addysg gan gynnwys astudio preifat; ac

(c)bod cysylltiadau effeithiol yn cael eu cynnal ag unrhyw ysgolion y mae'r plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn eu mynychu.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref—

(a)yn cael eu hannog i ddatblygu a dilyn diddordebau hamdden priodol; a

(b)yn cael cyfleusterau a gweithgareddau hamdden priodol.

(3Pan fydd unrhyw blentyn mewn cartref plant wedi cyrraedd oedran nad yw'n ofynnol mwyach iddo gael addysg amser llawn orfodol, rhaid i'r person cofrestredig helpu i wneud trefniadau ar gyfer y plentyn mewn perthynas â'i addysg, ei hyfforddiant a'i gyflogaeth, a'u rhoi ar waith.

Cadw defodau crefyddol

19.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob plentyn sy'n cael ei letya mewn cartref plant yn cael ei alluogi, i'r graddau y mae hynny'n ymarferol—

(a)i fynychu gwasanaethau'r argyhoeddiad crefyddol y mae'n perthyn iddo;

(b)i gael hyfforddiant ynddo; ac

(c)i ddilyn unrhyw un o'i ofynion (o ran gwisg, deiet neu fel arall).

Anghenion iechyd plant

20.—(1Rhaid i'r person cofrestredig hybu ac amddiffyn iechyd y plant sy'n cael eu lletya mewn cartref plant.

(2Yn benodol, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob plentyn wedi'i gofrestru gydag ymarferydd cyffredinol;

(b)bod gan bob plentyn gyfle i gael unrhyw gyngor, triniaeth a gwasanaethau meddygol, deintyddol, seicolegol a seiciatryddol neu gyngor, triniaeth a gwasanaethau nyrsio y gall fod arno'u hangen;

(c)bod pob plentyn yn cael unrhyw gymorth, cymhorthion ac offer unigol y gall fod arno'i angen yng ngoleuni unrhyw anghenion iechyd neu anabledd penodol a all fod ganddo;

(ch)bod pob plentyn yn cael canllawiau, cymorth a chyngor ar faterion iechyd a gofal personol sy'n briodol i'w hanghenion a'u dymuniadau;

(d)bod o leiaf un person ar ddyletswydd yn y cartref bob amser sydd â chymhwyster cymorth cyntaf addas; a

(dd)bod unrhyw berson sy'n cael ei benodi i swydd nyrs yn y cartref plant yn nyrs gofrestredig.

Meddyginiaethau

21.—(1Rhaid i'r person cofrestredig wneud trefniadau addas ar gyfer cofnodi unrhyw feddyginiaethau a dderbynnir i'r cartref plant, eu trafod, eu cadw'n ddiogel, eu rhoi'n ddiogel a'u gwaredu.

(2Yn benodol rhaid i'r person cofrestredig sicrhau, yn ddarostyngedig i baragraff (3)—

(a)bod unrhyw feddyginiaeth a gedwir mewn cartref plant yn cael ei storio mewn lle diogel er mwyn atal unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yno rhag cael gafael arni heb oruchwyliaeth;

(b)bod unrhyw feddyginiaeth a ragnodir ar gyfer plentyn yn cael ei rhoi fel y'i rhagnodir, i'r plentyn y'i rhagnodwyd ar ei gyfer, ac nid i unrhyw blentyn arall; ac

(c)bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei gadw o unrhyw feddyginiaeth a roddir i unrhyw blentyn.

(3Nid yw paragraff (2) yn atal meddyginiaeth—

(a)rhag cael ei storio gan y plentyn y mae wedi'i darparu ar ei gyfer,

(b)rhag cael ei hunan-roi gan y plentyn y mae wedi'i darparu ar ei gyfer,

os yw gwneud hynny yn ddiogel i'r plentyn ac i eraill.

(4Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhagnodi” yw—

(a)archebu ar gyfer claf i gael ei ddarparu ar ei gyfer—

(i)o dan adran 41 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 neu'n unol â hi; neu

(ii)fel rhan o gyflawni gwasnaethau meddygol personol mewn cysylltiad â chynllun peilot o dan Ddeddf y Gwasnaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997; neu

(b)mewn achos nad yw'n dod o fewn is-baragraff (a), rhagnodi ar gyfer claf o dan adran 58 o Ddeddf Meddyginiaethau 1968(3).

Defnyddio gwyliadwriaeth

22.  Yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion i fonitro y mae llys yn eu gosod o dan unrhyw ddeddfiad, rhaid i'r person cofrestredig sicrhau na fydd dyfais ar gyfer gwylio plant yn cael ei defnyddio mewn cartref plant ac eithrio er mwyn diogelu a hybu lles y plentyn o dan sylw neu blant eraill sy'n cael eu lletya yn y cartref plant ac os yw'r amodau canlynol wedi'u bodloni—

(a)bod awdurdod lleoli'r plentyn yn cydsynio â'r wyliadwriaeth o dan sylw;

(b)y darperir ar ei gyfer yng nghynllun lleoliad y plentyn;

(c)i'r graddau y bo'n ymarferol yng ngoleuni oedran a dealltwriaeth y plentyn, fod y plentyn o dan sylw yn cael ei hysbysu ymlaen llaw am y bwriad i ddefnyddio'r mesur; ac

(ch)nad yw'r mesur yn fwy cyfyngus nag y mae ei angen, o roi sylw i angen y plentyn i gael preifatrwydd.

Peryglon a diogelwch

23.  Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod pob rhan o'r cartref y gall y plant fynd iddynt yn rhydd, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o beryglon i'w diogelwch;

(b)bod unrhyw weithgareddau y mae plant yn cymryd rhan ynddynt yn rhydd, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, o beryglon y gellir eu hosgoi;

(c)bod risgiau diangen i iechyd neu ddiogelwch y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael eu nodi, a'u diddymu cyn belled ag y gellir; ac

(ch)bod trefniadau addas yn cael eu gwneud i bersonau sy'n gweithio yn y cartref i gael eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf.

Cynrychioliadau a chwynion

24.—(1Rhaid i'r person cofrestredig baratoi a dilyn gweithdrefn ysgrifenedig ar gyfer ystyried cynrychioliadau a chwynion sy'n cael eu gwneud gan neu ar ran plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

(2Rhaid i'r weithdrefn ddarparu, yn benodol—

(a)ar gyfer cyfle i ddatrys y cynrychioliad neu'r gwyn yn anffurfiol mewn cyfnod cynnar;

(b)nad oes neb sy'n destun cwyn yn ymwneud ag unrhyw ran o'i hystyried, heblaw adeg y datrys anffurfiol yn unig os yw hynny'n briodol ym marn resymol y person cofrestredig;

(c)ar gyfer ymdrin â chwynion ynghylch y person cofrestredig;

(ch)i gynrychioliadau a chwynion gael eu gwneud, ac i agweddau eraill ar y weithdrefn gael eu cyflawni, gan berson sy'n gweithredu ar ran plentyn;

(d)ar gyfer trefniadau i'r weithdrefn gael ei gwneud yn hysbys—

(i)i blant sy'n cael eu lletya yn y cartref;

(ii)i'w rhieni;

(iii)i awdurdodau lleoli; a

(iv)i bersonau sy'n gweithio yn y cartref.

(3Rhaid rhoi copi o'r weithdrefn pan ofynnir amdano i unrhyw un o'r personau a grybwyllir ym mharagraff (2)(d).

(4Rhaid i'r copi o'r weithdrefn a roddir o dan baragraff (3) gynnwys—

(a)enw, cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)manylion y weithdrefn (os oes un) y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i hysbysu i'r person cofrestredig ar gyfer gwneud cwynion i'r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch cartrefi plant.

(5Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cofnod ysgrifenedig yn cael ei wneud o unrhyw gwyn, y camau a gymerwyd mewn ymateb iddi, a chanlyniad yr ymchwiliad.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref yn cael eu galluogi i wneud cwyn neu gynrychioliad; a

(b)nad oes dim plentyn yn dioddef unrhyw anfantais am wneud cwyn neu gynrychioliad.

(7Rhaid i'r person cofrestredig roi i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol pan ofynnir amdano ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed yn ystod y deuddeg mis blaenorol a'r camau a gymerwyd mewn ymateb iddynt.

(8Nid yw'r rheoliad hwn (ar wahân i baragraff (6)) yn gymwys i unrhyw gynrychioliadau y mae Rheoliadau Gweithdrefn Cynrychioliadau (Plant) 1991(4) yn gymwys iddynt.

PENNOD 2STAFFIO

Staffio cartrefi plant

25.—(1Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau y bydd yna bob amser nifer digonol o bersonau a chanddynt gymwysterau, medrau a phrofiad addas, yn gweithio yn y cartref plant, o roi sylw—

(a)i faint y cartref, ei ddatganiad o ddiben, a nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yno (gan gynnwys unrhyw anghenion sy'n codi o unrhyw anabledd) a

(b)yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref.

(2Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad yw cyflogi unrhyw bersonau dros dro yn y cartref plant yn atal y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant rhag cael unrhyw barhad yn eu gofal sy'n rhesymol er mwyn diwallu eu hanghenion.

Ffitrwydd gweithwyr

26.—(1Rhaid i'r person cofrestredig beidio—

(a)â chyflogi person i weithio yn y cartref plant dan gytundeb cyflogaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;

(b)â chaniatáu i wirfoddolwr weithio yn y cartref plant oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny;

(c)â chaniatau i unrhyw berson arall weithio yn y cartref plant mewn swydd lle gall ddod, yng nghwrs ei ddyletswyddau, i gysylltiad yn rheolaidd â phlant sy'n cael eu lletya ynddo oni bai bod y person hwnnw yn ffit i wneud hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio mewn cartref plant oni bai—

(a)ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i weithio mewn cartref plant;

(b)bod ganddo'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;

(c)ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol at ddibenion y gwaith y mae i'w gyflawni; ac

(ch)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth (yn ôl fel y digwydd) lawn a boddhaol ar gael am y person mewn perthynas â'r materion canlynol—

(i)ac eithrio os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (3) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.

(3Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag unrhyw un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(5) i rym.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau—

(a)bod unrhyw gynnig cyflogaeth i berson sy'n dod o dan baragraff (1), neu drefniant arall ynghylch gweithio yn y cartref a wneir gyda pherson o'r fath neu mewn perthynas ag ef, yn gynnig neu'n drefniant sy'n ddarostyngedig i gydymffurfio â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas â'r person hwnnw; a

(b)oni bai bod paragraff (5) yn gymwys, nad oes unrhyw berson o'r fath yn dechrau gweithio mewn cartref plant hyd nes y cydymffurfiwyd â pharagraff (2)(ch) mewn perthynas ag ef.

(5Os yw'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref plant er gwaethaf paragraff (4)(b)—

(a)bod y person cofrestredig wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau gwybodaeth lawn am bob un o'r materion a restrir yn Atodlen 2 mewn perthynas â'r person hwnnw, ond bod yr ymholiadau ynglŷn ag unrhyw un o'r materion a restrir ym mharagraffau 3 i 6 o Atodlen 2 yn anghyflawn;

(b)bod gwybodaeth lawn a boddhaol am y person hwnnw wedi'i sicrhau ynghylch—

(i)y mater a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2; a

(ii)ac eithrio bod paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 2 o'r Atodlen honno;

(iii)os yw paragraff (3) yn gymwys, y mater a bennir ym mharagraff 7 o'r Atodlen honno;

(c)bod yr amgylchiadau yn eithriadol ym marn resymol y person cofrestredig; ac

(ch)wrth ddisgwyl am unrhyw wybodaeth sydd heb ddod i law, bod y person cofrestredig yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

(6Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref plant ac nad yw'n dod o dan baragraff (1) yn cael ei oruchwylio'n briodol ar bob adeg.

Cyflogi staff

27.—(1Rhaid i'r person cofrestredig—

(a)sicrhau bod pob penodiad parhaol yn ddarostyngedig i gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a

(b)rhoi i bob cyflogai ddisgrifiad swydd yn amlinellu eu cyfrifoldebau.

(2Rhaid i'r person cofrestredig weithredu gweithdrefn ddisgyblu a fydd, yn benodol—

(a)yn darparu ar gyfer atal, a chymryd camau eraill heb atal, cyflogai o'i swydd os yw hynny'n briodol er lles diogelwch neu les y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref; a

(b)yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i roi gwybod am ddigwyddiad o gamdriniaeth, neu gamdriniaeth a amheuir ar blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref i berson priodol yn sail dros ddechrau achos disgyblu.

(3At ddibenion paragraff (2)(b), person priodol yw'r darparydd cofrestredig, un o swyddogion naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol sy'n gyfrifol am arfer unrhyw un o'i swyddogaethau o dan Ran II o'r Ddeddf, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r cartref wedi'i leoli ynddi, neu'r Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, neu gwnstabl.

(4Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob person a gyflogir ganddo—

(a)yn cael hyfforddiant, goruchwyliaeth a gwerthusiadau priodol; a

(b)yn cael eu galluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei gyflawni.

PENNOD 3COFNODION

Cofnodion

28.—(1Rhaid i'r person cofrestredig, ar ran awdurdod lleoli plentyn, gadw cofnod ar ffurf adroddiad mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant, a hwnnw—

(a)yn cynnwys yr wybodaeth, y dogfennau a'r cofnodion a bennir yn Atodlen 3 mewn perthynas â'r plentyn hwnnw;

(b)yn cael ei gadw yn gyfoes; ac

(c)yn cael ei lofnodi a'i ddyddio gan awdur pob cofnod ysgrifenedig.

(2Rhaid peidio â datgelu'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1) i unrhyw berson ac eithrio yn unol â'r canlynol—

(a)unrhyw ddeddfiad yr awdurdodir cael gweld cofnodion o'r fath odano; neu

(b)unrhyw orchymyn llys sy'n awdurdodi cael gweld cofnodion o'r fath.

(3Rhaid i'r cofnod a grybwyllir ym mharagraff (1)—

(a)cael ei gadw'n ddiogel yn y cartref plant gyhyd ag y bo'r plentyn y mae'n ymwneud ag ef yn cael ei letya yno; a

(b)cael ei ddanfon wedi hynny i awdurdod lleoli'r plentyn(6).

(4Rhaid i'r person cofrestredig gadw y cofnod a bennir yn Atodlen 4 yn y cartref plant neu, os yw'r cartref yn cau, rhaid iddo ei gadw mewn man arall a threfnu iddo fod ar gael i'w archwilio gan y Cynulliad Cenedlaethol, os bydd yn gofyn amdano.

(5Rhaid cadw cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) am o leiaf bymtheng mlynedd o ddyddiad y cofnodiad diwethaf, ac eithrio cofnodion am fwydlenni, y mae angen eu cadw am flwyddyn yn unig.

(6Nid yw'r rheoliad hwn na rheoliad 29 yn rhagfarnu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth mewn is-ddeddfwriaeth) nac unrhyw reol gyfreithiol am gofnodion neu wybodaeth.

Digwyddiadau hysbysadwy

29.—(1Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 5 yn digwydd mewn perthynas â chartref plant, rhaid i'r person cofrestredig yn ddi-oed hysbysu'r personau a nodir mewn perthynas â'r digwyddiad yng ngholofn 2 o'r tabl.

(2Dim ond os yw'n angenrheidiol y mae'n rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gynnwys enw plentyn.

(3Rhaid i'r person cofrestredig yn ddi-oed hysbysu rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref o unrhyw ddigwyddiad arwyddocaol sy'n effeithio ar les y plentyn oni bai nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud hynny neu y byddai'n rhoi lles y plentyn mewn risg.

(4Rhaid i unrhyw hysbysiad a roddir yn unol â'r rheoliad hwn ac a roddir ar lafar gael ei gadarnhau yn ysgrifenedig.

(1)

Sefydlwyd Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Llysoedd Plant a Theuluoedd gan Bennod II o Ran I o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 p.43. Mae swyddogion y Gwasanaeth yn cael eu penodi ar gyfer plant mewn achosion penodedig (adran 41).

(2)

O.S. 1991/894 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/2033 ac O.S. 1993/3069.

(3)

1968 p.67. Mae adran 58 wedi'i diwygio gan adran 1 o Ddeddf Cynhyrchion Meddyginiaethol: Rhagnodi gan Nyrsys etc 1992 (p.28).

(4)

Gweler y troednodyn i reoliad 15(2)(ch).

(5)

1997 p. 50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i baragraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.

(6)

O dan Reoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991 (O.S. 1991/890), rhaid i'r awdurdod cyfrifol mewn perthynas â phlentyn sydd wedi'i leoli mewn cartref plant ddal eu gafael ar eu cofnodion achos (sy'n cynnwys unrhyw adroddiad yn eu meddiant ynghylch lles y plentyn) am bymtheg a thrigain o flynyddoedd ar ôl marwolaeth y plentyn neu, os yw'r plentyn yn marw cyn cyrraedd deunaw oed, am bymtheng mlynedd o ddyddiad y farwolaeth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources