- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
30.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 4(8) rhaid i'r person cofrestredig beidio â defnyddio safle at ddibenion cartref plant oni bai bod y safle hwnnw mewn lleoliad, a'i fod o ddyluniad a chynllun ffisegol, sy'n addas at ddibenion cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn natganiad y cartref o'i ddiben.
(2) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob rhan o'r cartref a ddefnyddir gan blant—
(a)wedi'i goleuo, ei gwresogi a'i hawyru'n ddigonol;
(b)wedi'i diogelu rhag i neb fynd iddynt heb awdurdod;
(c)wedi'i dodrefnu a'i chyfarparu'n addas;
(ch)o adeiladwaith cadarn ac yn cael ei chadw mewn cyflwr strwythurol da y tu allan a'r tu mewn;
(d)yn cael ei chadw'n lân ac wedi'i haddurno a'i chynnal yn rhesymol; ac
(dd)wedi'i chyfarparu â'r hyn sy'n rhesymol angenrheidiol, ac wedi'i haddasu yn ôl yr angen, er mwyn diwallu'r anghenion sy'n codi o anabledd unrhyw blentyn anabl sy'n cael ei letya yn y cartref.
(3) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei gadw'n rhydd rhag arogleuon drwg a gwneud trefniadau addas ar gyfer gwaredu gwastraff cyffredinol a gwastraff clinigol.
(4) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y canlynol ar gael o fewn y cartref plant i gael eu defnyddio gan y plant sy'n cael eu lletya yno mewn preifatrwydd priodol—
(a)nifer digonol o fasnau ymolchi a baddonau neu gawodydd gyda chyflenwad dŵ r rhedegog poeth ac oer; a
(b)nifer digonol o doiledau,
ar gyfer nifer a rhyw y plant sy'n cael eu lletya.
(5) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer nifer ac anghenion y plant sy'n cael eu lletya yn y cartref plant—
(a)celfi cegin, llestri a chytleri ac offer addas a digonol;
(b)cyfleusterau digonol ar gyfer paratoi a storio bwyd; ac
(c)i'r graddau y mae hynny'n ymarferol, cyfleusterau digonol i blant baratoi eu bwyd eu hunain os ydynt yn dymuno gwneud hynny ac os ydynt o oedran a gallu i wneud hynny.
(6) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod cyfleusterau digonol ar gael o fewn cartref plant ar gyfer golchi llieiniau a dillad, ac, ar gyfer y plant sy'n dymuno gwneud hynny, i olchi, sychu a smwddio eu dillad eu hunain.
(7) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y canlynol yn cael eu darparu o fewn cartref plant—
(a)digon o le cyffredin ar gyfer eistedd, hamdden a bwyta;
(b)cyfleusterau ar gyfer astudiaeth breifat sy'n briodol i oedran ac anghenion addysgol y plant sy'n cael eu lletya.
(8) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod pob plentyn yn cael lle i gysgu sydd—
(a)yn addas i'w anghenion gan gynnwys yr angen am breifatrwydd; a
(b)wedi'i gyfarparu â dodrefn, cyfleusterau storio, goleuadau, dillad gwely a chelfi eraill gan gynnwys gorchuddion i'r ffenestri ac i'r llawr sy'n addas i'w anghenion.
(9) Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn rhannu ystafell wely gydag oedolyn, nac ychwaith (ac eithrio yn achos brodyr a chwiorydd) gyda phlentyn o'r rhyw arall, na chyda phlentyn o oedran sy'n arwyddocaol wahanol.
(10) Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu ar gyfer personau sy'n gweithio yn y cartref plant—
(a)cyfleusterau a llety addas, heblaw lle i gysgu, gan gynnwys—
(i)cyfleusterau ar gyfer newid;
(ii)cyfleusterau storio;
(b)lle i gysgu os oes angen hynny mewn cysylltiad â'u gwaith yn y cartref.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: