RHAN VRHEOLI CARTREFI
Rheoliadau a safonau gofynnol cenedlaethol34
Rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod copi o'r Rheoliadau hyn (ac o unrhyw ddiwygiadau iddynt) ac o'r safonau gofynnol cenedlaethol24 (ac o unrhyw ddiwygiadau iddynt) sy'n gymwys i gartrefi plant a gyhoeddir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 23(1) o'r Ddeddf yn cael eu cadw yn y cartref a threfnu eu bod ar gael pan ofynnir amdanynt—
a
i unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref;
b
i unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref; ac
c
i riant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref.