RHAN ICYFFREDINOL

Datganiad o ddiben ac arweiniad y plant4

1

Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn perthynas â'r cartref plant ddatganiad a ysgrifennir ar bapur a fydd yn cynnwys datganiad ynghylch y materion a restrir yn Atodlen 1 (“y datganiad o ddiben”).

2

Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, pan ofynnir amdano, i gael ei archwilio ar unrhyw adeg resymol gan—

a

unrhyw berson sy'n gweithio yn y cartref plant;

b

unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;

c

yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhiant unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant;

ch

awdurdod lleoli unrhyw blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref; a

d

yn achos ysgol gymwys, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac unrhyw berson sy'n arfer un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y ddeddfwriaeth addysg mewn perthynas â'r ysgol;

ac yn y paragraff hwn mae cyfeiriadau at blentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant yn cynnwys plentyn y mae llety yn y cartref plant yn cael ei ystyried ar ei gyfer.

3

Rhaid i'r person cofrestredig beidio â chydymffurfio â pharagraff 2(c) mewn perthynas â phlentyn os oes gorchymyn llys sy'n cyfyngu ar gyswllt rhwng y plentyn a'i riant a'i bod yn angenrheidiol cyfyngu ar argaeledd y datganiad, neu unrhyw ran ohono, er mwyn diogelu neu hybu lles y plentyn.

4

Yn y rheoliad hwn ystyr 'deddfwriaeth addysg' yw'r Deddfau Addysg (fel y'u diffinnir gan adran 578 o Ddeddf Addysg 199613).

5

Rhaid i'r person cofrestredig gynhyrchu arweiniad i'r cartref plant ar ffurf sy'n briodol ar gyfer oedran, dealltwriaeth ac anghenion cyfathrebu'r plant sydd i gael eu lletya yn y cartref (“arweiniad y plant”) a rhaid iddo gynnwys—

a

crynodeb o'r datganiad o ddiben y cartref;

b

crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlir o dan reoliad 24; ac

c

cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol ac un o swyddfeydd Comisiynydd Plant Cymru.

6

Rhaid i'r person cofrestredig—

a

darparu copi o arweiniad cyntaf y plant i swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol;

b

darparu copi o fersiwn gyfredol arweiniad y plant i bob plentyn ac i awdurdod lleoli'r plentyn pan fydd y plentyn yn cael ei letya gyntaf yn y cartref; ac

c

yn dilyn y ddarpariaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (b), darparu copïau pellach ar gais y plentyn neu'r awdurdod lleoli.

7

Yn ddarostyngedig i baragraff (8) rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y cartref plant yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.

8

Nid oes dim ym mharagraff (7) nac yn rheoliad 30(1) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i dorri'r canlynol neu i beidio â chydymffurfio â hwy—

a

unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

b

yr amodau sydd mewn grym am y tro mewn perthynas â chofrestru'r person cofrestredig o dan Ran II o'r Ddeddf.