RHAN IIPERSONAU COFRESTREDIG

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig

6.—(1Rhaid i berson beidio â rhedeg cartref plant oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant oni bai bod y person—

(a)yn unigolyn sy'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3); neu

(b)yn gorff ac—

(i)bod hwnnw wedi hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o enw, cyfeiriad a swydd unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) yn y corff sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff ac yn gyfrifol am oruchwylio rheolaeth y cartref plant; a

(ii)bod yr unigolyn hwnnw'n bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

(3Dyma'r gofynion—

(a)bod yr unigolyn yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da i redeg y cartref plant, neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw;

(b)bod yr unigolyn yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg y cartref plant neu (yn ôl fel y digwydd) i fod yn gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r cartref hwnnw; ac

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael mewn perthynas â'r person—

(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 3 i 7 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob mater a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys os nad yw unrhyw dystysgrif neu wybodaeth am unrhyw fater a bennir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ar gael i unigolyn am na ddaethpwyd ag un o ddarpariaethau Deddf yr Heddlu 1997(1) i rym.

(5Nid yw person yn ffit i redeg cartref plant—

(a)os yw wedi'i ddyfarnu'n fethdalwr neu os dyfarnwyd atafaeliad ar ei ystad ac (yn y naill achos neu'r llall) nad yw wedi'i ryddhau ac nad yw'r gorchymyn methdaliad wedi'i ddiddymu nac wedi'i ddileu; neu

(b)os yw wedi gwneud cyfansoddiad neu drefniant gyda'i gredydwyr, ac nad yw wedi'i ryddhau mewn perthynas ag ef.

(1)

1997 p.50. Nid yw adrannau 113 a 115, fel y'u diwygiwyd, wedi'u dwyn i rym eto. Gweler ymhellach y troednodiadau i bargraff 2 o Atodlen 2 i'r rheoliadau hyn.