ATODLEN 2YR WYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SY'N CEISIO RHEDEG NEU REOLI CARTREF PLANT NEU WEITHIO MEWN UN

Rheoliadau 6, 8, 26

1

Prawf adnabod gan gynnwys ffotograff diweddar.

2

Naill ai—

a

os oes angen y dystysgrif at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000)32, neu fod y swydd yn dod o dan adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 1997 tystysgrif record droseddol fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno y mae llai na thair blynedd mewn perthynas â hi wedi mynd heibio ers ei rhoi; neu

b

mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record droseddol a roddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn perthynas â hi ers ei rhoi,

gan gynnwys, os yw'n gymwys, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno33.

3

Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un.

4

Os yw person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu gydag oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm y daeth y swydd neu'r gyflogaeth i ben.

5

Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

6

Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

7

Manylion unrhyw dramgwyddau troseddol—

a

y cafodd y person ei gollfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw gollfarnau sydd wedi darfod o fewn ystyr “spent” yn adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 197434 ac y gellir eu datgelu yn rhinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Tramgwyddwyr 1975 (Eithriadau) 1975 (fel y mae'r Gorchymyn hwnnw ar ôl ei ddiwygio o bryd i'w gilydd)35; neu

b

y mae wedi'i rybuddio amdanynt gan gwnstabl ac yr oedd wedi'u cyfaddef adeg rhoi'r rhybudd.