- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliad 28(4)
1. Cofnod ar ffurf cofrestr yn dangos mewn perthynas â phob plentyn sy'n cael ei letya yn y cartref plant—
(a)y dyddiad y cafodd ei dderbyn i'r cartref;
(b)y dyddiad y peidiodd â chael ei letya yno;
(c)ei gyfeiriad cyn iddo gael ei letya yn y cartref;
(ch)ei gyfeiriad ar ôl iddo ymadael â'r cartref plant;
(d)ei awdurdod lleoli;
(dd)y ddarpariaeth statudol, os oes un, y cafodd ei letya yn y cartref odani.
2. Cofnod o bob person sy'n gweithio yn y cartref plant, a hwnnw'n gofnod y mae'n rhaid iddo gynnwys y manylion canlynol mewn perthynas ag unigolyn sy'n dod o dan reoliad 26(1)—
(a)enw llawn;
(b)rhyw;
(c)dyddiad geni;
(ch)cyfeiriad cartref;
(d)cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant, a'i brofiad o waith sy'n ymwneud â phlant;
(dd)a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan-amser yn y cartref, (am dâl neu beidio) ac os yw'n rhan-amser, y nifer o oriau ar gyfartaledd y mae'n gweithio bob wythnos; ac
(e)a yw'n preswylio yn y cartref.
3. Cofnod o unrhyw berson sy'n preswylio neu'n gweithio ar unrhyw adeg yn y cartref plant nad yw wedi'i grybwyll yn y cofnodion a gedwir yn unol â pharagraff 1 neu 2.
4. Cofnod o bob damwain sy'n digwydd yn y cartref plant, neu i blant tra maent yn cael eu lletya yn y cartref.
5. Cofnod o unrhyw feddyginiaeth a dderbyniwyd, a waredir ac a roddwyd i unrhyw blentyn.
6. Cofnod o bob ymarfer tân neu brawf larwm tân a gynhelir, gyda manylion unrhyw ddiffyg naill ai yn y weithdrefn neu yn yr offer o dan sylw, ynghyd â manylion y camau a gymerwyd i gywiro'r diffyg hwnnw.
7. Cofnod o bob arian a adneuwyd gan blentyn i'w gadw'n ddiogel, ynghyd â dyddiad tynnu'r arian hwnnw, neu'r dyddiad y dychwelwyd ef.
8. Cofnod o bob peth gwerthfawr a adneuwyd gan blentyn a dyddiad ei ddychwelyd.
9. Cofnodion o bob cyfrif a gedwir yn y cartref plant.
10. Cofnod o'r bwydlenni a weinwyd.
11. Cofnod, yn unol â rheoliad 17(4), o bob mesur disgyblu a orfodwyd ar blentyn.
12. Cofnodion o bob roster dyletswyddau staff, a chofnod o'r rosteri a weithiwyd mewn gwirionedd.
13. Lòg dyddiol o'r digwyddiadau sy'n digwydd yn y cartref.
14. Cofnod o bob ymwelydd â'r cartref ac â phlant sy'n cael eu lletya yn y cartref, gan gynnwys enwau'r ymwelwyr a'r rhesymau am yr ymweliad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: