2002 Rhif 3275 (Cy.313)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Sir Fynwy (Newidiadau Etholiadaol) 2002

Wedi'i wneud

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 19721 cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Mawrth 2000 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Sir Fynwy. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion, yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Sir Fynwy (Newidiadau Etholiadaol) 2002

2

Daw'r Gorchymyn hwn i rym:

a

at ddibenion achosion sy'n arwain at unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad, sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003; ac

b

at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.

3

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Sir Fynwy fel y'i sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Fynwy19942;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

  • ystyr “map” (“map”) yw'r map a farciwyd “map Gorchymyn Sir Fynwy (Newidadau Etholiadol) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 19763.

Adrannau Etholiadol2

1

Mae adrannau etholiadol presennol Sir Fynwy a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Sir Fynwy 1994 wedi'u diddymu.

2

At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Sir Fynwy, rhennir y Sir honno yn 42 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y map ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.

3

Y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn fydd y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath.

Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol3

Rhaid i'r swyddog cofrestru wneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

E. HartY Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

YR ATODLENEnwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Sir Fynwy

Erthygl 2

(1)

(2)

(3)

Enw'r Adran Etholiadol

Ardal yr Adran Etholiadol

Y Nifer o Gynghorwyr

Caer-went

Cymuned Caer-went

1

Castell Caldicot

Ward Castell Caldicot yng Nghymuned Caldicot

1

Cantref

Ward Cantref yng Nghymuned y Fenni

1

Y Castell

Ward Castell y Fenni

1

Croesonnen

Wardiau Dwyrain Croesonnen a Gorllewin Croesonnen yng Nghymuned Llandeilo Bertholau

1

Crucornau Fawr

Cymunedau Crucornau Fawr a'r Grysmwnt

1

Devauden

Cymunedau Devauden a Llan-gwm

1

Llanddewi

Ward Llanddewi yng Nghymuned Caldicot

1

Dixton gydag Osbaston

Ward Dixton gydag Osbaston yng Nghymuned Trefynwy

1

Drybridge

Ward Drybridge a ward y Dref yng Nghymuned Trefynwy

1

Goetre Fawr

Cymuned Goetre Fawr

1

Green Lane

Ward Green Lane yng Nghymuned Caldicot

1

Grofield

Ward Grofield yng Nghymuned y Fenni

1

Lansdown

Ward Lansdown Yng Nghymuned y Fenni

1

Larkfield

Ward Larkfield yng Nghymuned Cas-gwent

1

Llanbadog

Cymunedau Gwehelog Fawr a Llanbadog

1

Bryn Llanelli

Cymuned Llanelli

2

Llan-ffwyst Fawr

Wardiau Llanelen, Llan-ffwyst a Llanwenarth Citra yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr

1

Llangybi Fawr

Cymunedau Llangybi, Llanhenwg a Llantrisaint Fawr

1

Llanofer

Cymunedau Llan-arth a Llanofer

1

Llandeilo Gresynni

Cymunedau Llangatwg Feibion Afel a Llandeilo Gresynni

1

Llanwenarth Tu Draw

Ward Llanwenarth Tu Draw yng Nghymuned Llan-ffwyst Fawr

1

Y Maerdy

Wardiau'r Maerdy, Pantygelli, Dwyrain Ysgyryd a Gorllewin Ysgyryd yng Nghymuned Llandeilo Bertholau

1

Mill

Wardiau The Mill, Denny a Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy

1

Llanfihangel Troddi

Cymuned Llanfihangel Troddi

1

Overmonnow

Ward Overmonnow yng Nghymuned Trefynwy

1

Porth Sgiwed

Cymuned Porth Sgiwed

1

Y Priordy

Ward y Priordy yng Nghymuned y Fenni

1

Rhaglan

Cymuned Rhaglan

1

Rogiet

Cymuned Rogiet

1

Hafren

Ward Hafren yng Nghymuned Caldicot

1

Drenewydd Gelli-farch

Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch

1

St. Arvans

Cymunedau St. Arvans a Thyndyrn

1

St. Christopher's

Ward St. Christopher’s yng Nghymuned Cas-gwent

1

St. Kingsmark

Ward St. Kingsmark yng Nghymuned Cas-gwent

1

St. Mary's

Ward St. Mary’s yng Nghymuned Cas-gwent

1

The Elms

Ward The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy

1

Thornwell

Ward Thornwell yng Cymuned Cas-gwent

1

Tryleg Unedig

Cymuned Tryleg Unedig

1

Brynbuga

Cymuned Brynbuga

1

West End

Ward West End yng Nghymuned Caldicot

1

Wyesham

Ward Wyesham yng Cymuned Trefynwy

1

Image_r00000

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

O dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiadau cyntaf i'r awdurdodau unedol ym Mai 1995.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Mawrth 2000 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Sir Fynwy.

Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Sir ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif ohonynt yn aros yr un fath.

Nid oes unrhyw newid i adrannau:

  • Croesonnen, Crucornau Fawr, Goetre Fawr, Larkfield, Llanbadog, Bryn Llanelli, Llan-ffwyst Fawr, Llangybi Fawr, Llanofer, Llandeilo Gresynni, Llanwenarth Tu Draw, Y Maerdy, Llanfihangel Troddi, Overmonnow, Porth Sgiwed, Rhaglan, Rogiet, St. Arvans, St. Christopher's, St. Kingsmark, St. Mary's, Thornwell, Tryleg Unedig, Brynbuga, Wyesham.

Mae cymuned bresennol y Fenni i'w rhannu i greu pum adran etholiadol y bydd pob un ohonynt yn ethol un cynghorydd:

Cantref, Y Castell, Grofield, Lansdown, Y Priordy.

Mae cymuned bresennol Caldicot i'w rhannu i greu pum adran etholiadol y bydd pob un ohonynt yn ethol un cynghorydd:

Castell Caldicot, Dewstow, Green Lane, Hafren, West End.

Ar hyn o bryd mae adran bresennol Caer-went yn cynnwys Cymunedau Caer-went a Matharn. O dan y trefniadau newydd bydd adran etholiadol Caer-went yn cynnwys Cymuned Caer-went. Bydd yr adran yn ethol un cynghorydd.

Ar hyn o bryd mae adran bresennol Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys Cymunedau Devauden, Llan-gwm a Drenewydd Gelli-farch. O dan y trefniadau newydd mae Drenewydd Gelli-farch yn cynnwys Cymunedau Matharn a Drenewydd Gelli-farch ac yn ethol un cynghorydd.

Mae adrannau etholiadol newydd yn cael eu creu ar gyfer:

  • Devauden, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys cymunedau Devauden a Llan-gwm.

  • Mae Dixton gydag Osbaston i ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys ward Dixton gydag Osbaston yng Nghymuned Trefynwy.

  • Drybridge, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys ward Drybridge a ward y Dref yng Nghymuned Trefynwy.

  • Mill, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r adran i gynnwys wardiau The Mill, Denny and Salisbury yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy.

  • The Elms, sy'n ethol un cynghorydd. Mae'r Adran i gynnwys ward The Elms yng Nghymuned Magwyr gyda Gwndy.

Mae ardaloedd yr adrannau newydd wedi'u diffinio ar y map manwl a ddisgrifir yn Erthygl 2, ac y gellir archwilio printiau ohono ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y Cyngor Sir ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).