Search Legislation

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidiadau Etholiadol) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3277 (Cy.315)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidiadau Etholiadol) 2002

Wedi'i wneud

6 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym yn unol ag erthygl 1(2)

Yn unol ag adrannau 58(1) a 64 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) cyflwynodd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru gynigion ym Mawrth 2001 ar gyfer trefniadau etholiadol y dyfodol ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi cytuno â'r cynigion yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 58(2) a 67(4) a (5) o'r Ddeddf.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidiadau Etholiadol) 2002.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym:

(a)at ddibenion achosion, sy'n rhagarweiniol i unrhyw etholiad neu'n ymwneud ag unrhyw etholiad sydd i'w gynnal ar 6 Mai 2004, ar 9 Hydref 2003, a

(b)at bob diben arall, ar 6 Mai 2004.

(3Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “adran etholiadol” (“electoral division”) yw un o adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a sefydlwyd gan Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bro Morgannwg 1994(2);

ystyr “y Ddeddf (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972;

ystyr “map” (“map”) yw'r map a farciwyd “map Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg (Newidadau Etholiadol) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Newidadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976(3).

Adrannau Etholiadol

2.—(1Mae adrannau etholiadol presennol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg a bennir yn yr Atodlen i Orchymyn Trefniadau Etholiadol Bro Morgannwg 1994 yn cael eu diddymu.

(2At ddibenion ethol cynghorwyr ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg, rhennir y Sir honno yn 23 o adrannau etholiadol yn dwyn yr enwau a bennir yng ngholofn (1) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn, a bydd pob adran etholiadol o'r fath yn ffurfio'r ardal a bennir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno, fel y'i dynodir ar y map ac fel y'i diffinnir â llinellau coch.

(3Y nifer o gynghorwyr sydd i'w hethol ar gyfer pob adran etholiadol o'r fath fydd y nifer a bennir mewn perthynas â'r adran yng ngholofn (3) o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Y Gofrestr o Etholwyr Llywodraeth Leol

3.  Bydd y swyddog cofrestru yn gwneud unrhyw ad-drefniadau neu addasiadau i'r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol sy'n angenrheidiol am fod y Gorchymyn hwn yn dod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru

E. Hart

Y Gweinidog dros Lywodraeth Leol, Cyllid a Chymunedau

6 Rhagfyr 2002

Erthygl 2

ATODLENEnwau, ardaloedd a'r nifer o gynghorwyr ar gyfer adrannau etholiadol Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg

(1)(2)(3)
Enw'r Adran EtholiadolArdal yr Adran EtholiadolY Nifer o Gynghorwyr
BarucWard Baruc Cymuned y Barri2
ButtrillsWard Buttrills Cymuned y Barri2
CadogWard Cadog Cymuned y Barri3
CastlelandWard Castleland Cymuned y Barri2
CornerswellWard Cornerswell Cymuned Penarth2
CourtWard Court Cymuned y Barri2
Y Bont-faenCymunedau'r Bont-faen gyda Llanfleiddan, Llan-fair a Phen-llin3
Dinas PowysCymunedau Dinas Powys a Llanfihangel— ynys-Afan4
DyfanWard Dyfan Cymuned y Barri2
GibbonsdownWard Gibbonsdown Cymuned y Barri2
IlltudWard Illtud Cymuned y Barri3
LlandocheCymuned Llandoche1
Llandŵ /EwenniCymunedau Tregolwyn, Ewenni, Llandw a Llan-gan1
Llanilltud FawrCymunedau Llan-maes, Llanilltud Fawr a Sain Dunwyd4
Llanbedr-y-froCymunedau Pendeulwyn, Llanbedr-y-fro, Sain Siorys a Llanddunwyd1
PlymouthWard Plymouth Cymuned Penarth2
Y RhwsCymunedau Llancarfan a'r Rhws2
Sain TathanCymuned Sain Tathan1
St Augustine'sWard St Augustine’s Cymuned Penarth2
Saint-y-bridCymunedau Saint-y-brid a'r Wig1
StanwellWard Stanwell Cymuned Penarth2
SiliCymuned Sili2
GwenfôCymunedau Sain Nicolas a Thresimwn a Gwenfô1

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Yr oedd yn ofynnol i Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru o dan adran 64(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994) adolygu'r trefniadau etholiadol cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl yr etholiadau cyntaf i awdurdodau unedol ym Mai 1995.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi ei effaith i'r cynigion a wnaed yn adroddiad Mawrth 2001 Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg.

Er bod y Gorchymyn yn diddymu'r holl adrannau etholiadol presennol yn y Fwrdeistref Sirol ac yn eu disodli ag adrannau etholiadol newydd, yn ymarferol bydd y mwyafrif yn aros yr un fath.

Nid oes unrhyw newid i adrannau Baruc, Buttrills, Cadog, Castleland, Cornerswell, Court, Y Bont-faen, Dinas Powys, Dyfan, Gibbonsdown, Illtud, Llandoche, Llandŵ /Ewenni, Llanilltud Fawr, Llanbedr-y-fro, Y Rhws, Sain Tathan, Saint-y-brid, Stanwell, Gwenfô.

Mae adran etholiadol bresennol Alexandra yn cael ei rhannu i greu dwy adran etholiadol newydd o'r enw Plymouth a St Augustine's.

Mae adran etholiadol Plymouth i gynnwys ward Plymouth cymuned Penarth. Mae'r adran i'w chynrychioli gan ddau gynghorydd.

Mae adran etholiadol St Augustine's i gynnwys ward St Augustine’s cymuned Penarth. Mae'r adran i'w chynrychioli gan ddau gynghorydd.

Bydd y nifer o gynghorwyr sy'n cynrychioli adran bresennol Sili yn cynyddu o un i ddau.

Mae ardaloedd yr adrannau etholiadol newydd wedi'u diffinio ar y map manwl a ddisgrifir yn Erthygl 2. Gellir archwilio printiau ohono ar bob adeg resymol yn swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Bro Morgannwg ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).

(2)

Cafodd y Gorchymyn hwn ei wneud ar 19 Rhagfyr 1994 gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Adran Gartref.

(3)

O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau yn Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources